Plaid Cymru

Ydych chi eisiau i Gymru gael llais cryfach?

Do you want Wales to have a stronger voice?


Mynd yn syth i'r wefan / Skip and continue to website

Cymraeg English

Arweinydd


Gwerthoedd gwleidyddol yn dod o’m cymuned

Mae fy ngwerthoedd gwleidyddol yn dod o’m cymuned, cymuned rwy’n falch iawn ohoni. Wedi fy ngeni a’m magu yn y Rhondda, lle rwy’n dal i fyw, profiadau personol a phrofiadau’r teulu sydd wedi meithrin ynof i fy nghariad at Gymru ac wedi fy ffurfio yn sosialydd ac yn weriniaethwraig.

Fel llawer yn y cymunedau hyn, rydw i wedi bod yn awyddus i gael gafael lawn ar fy etifeddiaeth. Rwy’n dysgu Cymraeg, ac rwy’n falch iawn bod fy merch saith oed yn mynd i’r ysgol Gymraeg leol.

Dydw i ddim yn dod o gefndir cyfoethog: treuliodd fy nhad lawer o’r wythdegau yn ddi-waith. Ond ces i addysg wnaeth fy ysbrydoli i gredu y gallwn weithio gydag eraill i newid pethau er lles fy nghymuned ac er lles fy ngwlad. Roedd ymuno â Phlaid Cymru ym 1991 yn ffordd ymarferol o gychwyn ar hyd y llwybr hwnnw. Drwy fy addysg cefais gyfle i weithio fel Swyddog Prawf, fel swyddog cymorth gyda Chymorth i Ferched, ac fel tiwtor ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn cael fy ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Bûm hefyd yn gynghorydd lleol yn Rhondda Cynon Taf.

Y Blaid yn gartref i mi

Cynigiodd y Blaid gartref i mi, ac rwy’n benderfynol o ddangos i eraill y gall y Blaid fod yn gartref iddyn nhw hefyd. Rwy’n falch o’r egwyddorion sy’n sail i’n gwleidyddiaeth ac sy’n ein huno fel plaid. Ar y seiliau hynny y dymunaf ehangu apêl y Blaid. Rwy am arwain yr ymdrech i roi ffocws newydd i Blaid Cymru ac i ennill tir ar draws gwlad. Drwy gydweithio’n agos gyda’n haelodau sydd eisoes yn gweithio’n ddiflino dros yr achos, rwy am ychwanegu at ein haelodaeth drwy annog pobl newydd a chyn gefnogwyr o bob oedran i ymuno â’r Blaid ac i deimlo’n rhan o’i hymgyrchoedd.

Mae’r Blaid wedi cyflawni cymaint ers ei sefydlu. Ond mae gennym gymaint yn fwy i’w wneud. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol mae’n fwy eglur nag erioed bod angen parhau i adeiladu Cymru, a gosod seiliau cadarn ar gyfer ein hannibyniaeth. Ni yw’r unig blaid sydd â’r uchelgais hon i Gymru. Rydyn ni’n gwybod bod dadl economaidd gref dros annibyniaeth, ond dydyn ni ddim wedi llwyddo bob amser i gyfathrebu’r achos hwnnw’n ddigon effeithiol. Tra bod y pleidiau Prydeinig yn ceisio honni rhyw Gymreictod newydd, rhaid i ni ddangos i bobl Cymru mai unig uchelgais y pleidiau honedig Gymreig hyn yw ‘rheoli’ Cymru, nid ei thrawsnewid. Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n gweithio er mwyn sicrhau bod Cymru’n torri’n rhydd o’i thlodi ac yn datblygu sgiliau cynhenid ei phobl er mwyn ffynnu a gwireddu ei photensial. Mae’r uchelgais honno yn ein gosod ar wahân i’r pleidiau Prydeinig. Rwy’n credu gyda fy holl galon yng ngallu ein pobl, ac rwy’n benderfynol o gynnig yr arweiniad sydd ei angen er mwyn lledu’r ymdeimlad o hyder cenedlaethol a fydd yn rhagflaenu llewyrch newydd.

Mae gan Blaid Cymru hanes hir ac anrhydeddus o ymgyrchu dros gymdeithas gydradd ac amrywiol, sy’n ymwrthod â gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, crefydd, hunaniaeth, rhywioldeb, anabledd ac iaith. Ein gweledigaeth yw Cymru gynhwysol, ac un lle mae’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd yn rhoi diwedd ar wahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg.

Effaith globaleiddio ar ein cymunedau

Mae globaleiddio yn cael effaith andwyol ar ein cymunedau. Gwelwn siopau lleol, tafarndai a busnesau bach – hyd yn oed capeli ac eglwysi – yn cael eu gorfodi i gau oherwydd grymoedd tu hwnt i’w rheolaeth. Mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ledled Cymru, mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri a phob math o ddatblygiadau’n bygwth dinistrio ein hamgylchedd a’n hunaniaeth ddiwylliannol fel pobl. Rhaid i ni gydio yn y cyfle hwn i ddatblygu atebion amgen er mwyn diogelu’r hyn sy’n bwysig i ni ac adeiladu dyfodol mwy cadarnhaol. Drwy gyhoeddi’r Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd, roeddwn am ddangos bod ffyrdd cynaliadwy o ddiogelu a datblygu ein cymunedau. Mae’r egwyddorion sydd ynddo yn berthnasol ledled Cymru, ac maen nhw’n dangos yn eglur pam fod sicrhau annibyniaeth i Gymru mor allweddol. Dydw i ddim yn sôn am annibyniaeth er ei lles ei hunan; rwy am gael annibyniaeth fel y gallwn ddiogelu ac adeiladu ar y pethau sy’n werthfawr i ni i gyd. Rydym yn ymgyrchu am “wir annibyniaeth” yng ngeiriau Raymond Williams – annibyniaeth meddwl, yn ogystal â rhyddid cyfansoddiadol: annibyniaeth i’n galluogi i ddatblygu cydraddoldeb economaidd; i’n rhyddhau i ddadlau dros heddwch yn y byd yn lle rhyfel; i’n galluogi i adeiladu ar ein traddodiadau o ryngwladoldeb drwy gyfrannu at faterion y byd ar yr un pryd â sicrhau bod dyfodol iach i’n hiaith a’n diwylliant unigryw ni ein hunain.

Economi lwyddiannus sydd wedi’i datganoli

Y cam nesaf at annibyniaeth yw cael Cymru i safle gwell yn economaidd. Yn y tymor byr, rhaid mynnu tegwch ariannol; yn y tymor hir, rhaid i ni osod isadeiledd economaidd cadarn yn ei le a fydd yn ein diogelu rhag stormydd economaidd yn y dyfodol. Mae modelau o wahanol rannau o’r byd yn dangos y gallwn greu economi lwyddiannus sydd wedi’i datganoli, ac sy’n gynhenid Gymreig, yn gwasanaethu ein pobl yn hytrach na’r farchnad: economi lle gallwn weld mentrau cydweithredol a mentrau gwyrdd yn ffynnu ac yn creu gwaith i bobl leol; economi lle gallwn fagu mentergarwch yn ein busnesau bychain, ein cymdeithasau, a’n gweithlu. Yn bwysicach na dim, economi a fydd yn dosbarthu cyfoeth yn deg ac yn brwydro yn erbyn anghyfartaledd difrifol. Mae datganoli grym a ffyniant i’n cymunedau lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau cyfiawnder cymdeithasol gwirioneddol. Rhaid i ni fagu hyder i ddatblygu polisïau arloesol ym maes technoleg gwyrdd, bwyd a’r diwydiannau creadigol yn ogystal â chanfod marchnadoedd arbenigol yn y sector cynhyrchu, er mwyn i ni allu creu cynnyrch ar gyfer y farchnad gartref ac i’w allforio.

Mae’r amser ar gyfer ein syniadau uchelgeisiol wedi cyrraedd. Nawr yw’r amser i drafod sut y gallwn fod yn hunan-gynhaliol mewn bwyd ac ynni. Nawr yw’r amser i ni fraenaru’r tir i fod yn Gymru werdd a charbon-niwtral. Yn Gymru ddi-niwclear a di-arfau. Yn Gymru sydd â’n hadnoddau naturiol yn ein dwylo ni ein hunain.

Dylem fod yn uchelgeisiol dros ein plaid, plaid a all fod yn fwy na pheiriant ennill etholiadau yn unig, plaid a all arwain ein cymunedau a chyfrannu at lwyddiant y mudiad cenedlaethol yn ei gyfanrwydd.

Rydw i’n gwrando

Mae gen i’r gallu i wrando, y dyfalbarhad i arwain a’r dyhead i gydweithio gyda phawb yn y Blaid a’r tu hwnt er lles Cymru. Rwy’n barod i weithio’n ddi-flino fel rhan o dîm ehangach o bobl, gan wneud y gorau o dalentau pawb a sicrhau bod gan bawb y dadleuon a’r ffeithiau a fydd yn ein helpu i ddadlau ein hachos. Mae gennym ni i gyd ran fawr i’w chwarae dros y blynyddoedd i ddod, a chyfle gwirioneddol i adeiladu Cymru well er lles ein pobl.

 

Cysylltu â Leanne

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, CF99 1NA ▪ National Assembly for Wales CF99 1NA

32 Heol Gelliwastad, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf CF37 2BN

T: 01443 480291 ▪ 029 2089 8256 

Ff: 029 2089 8257  

E: leanne.wood@cymru.gov.uk