Busnes, economi a thrafnidiaeth 

Anelu am y Gorau i'n Gwlad

Mae Plaid Cymru wedi blaenoriaethu'r Economi wrth ddatblygu ein cynllun i arwain y wlad at ddyfodol llewyrchus. Gwyddom fod yn rhaid i ddatblygu economaidd newid er mwyn addasu i newid yn y sefyllfa economaidd. Ein nod yw cymryd agwedd newydd at ddatblygu economaidd yng Nghymru ac adeiladu'r economi yn seiliedig ar ein cryfderau.  

Bydd ein cynlluniau, a adwaenir fel 'Cynllun C'  yn manteisio i'r eithaf ar y pwerau cyfyngedig sydd gennym i greu'r awyrgylch iawn i annog mentergarwch, gan ganiatáu i'r sector breifat ffynnu yn hytrach na chyflwyno cefnogaeth uniongyrchol i fusnesau unigol. Bydd Cynllun C yn buddsoddi mewn seilwaith cynaliadwy o ansawdd uchel. Bydd yn gwneud Cymru yn lle mwy deniadol i gynnal busnes; bydd yn rhoi anogaeth i'n sylfaen sgiliau; bydd yn annog arloesi ac yn targedu cefnogaeth gan lywodraeth i fusnesau.