Clwb y Llywydd
I rheini sydd yn talu aelodaeth o £20 y mis drwy debyd uniongyrchol (neu £240 y flwyddyn) mi fyddwch yn awtomatig yn dod yn aelod o Glwb y Llywydd.
Lansiwyd Clwb y Llywydd dros bymtheg mlynedd yn ôl i gefnogi ymgyrchoedd y Blaid ac mae nifer fawr o'n aelodau wedi mwynhau bod yn aelodau dros y flynyddoedd.
Mae aelodaeth o Glwb y Llywydd yn golygu:
- Aelodaeth awtomatig o'r Blaid a phob rhifyn o'r Ddraig a'r Nation.
- Derbyniad rhad ac am ddim yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda lluniaeth ysgafn. Y llynedd, cawsom noson gofiadwy yn Ebbw Vale gyda Caneuon gwych Gwent a Morgannwg gan Yr Hwntws, gyda Gregg Lynn
- Derbyniad rhad ac am ddim yn y Gynhadledd Flynyddol gyda lluniaeth
- Cyfle i chi a gwestai i fynychu derbyniad arbennig flynyddol gyda siaradwr/wraig wadd.
- Cerdyn Nadolig personol gan y llywydd.


