Ein dyfodol cenedlaethol
Credu yn nyfodol Cymru
Cred Plaid Cymru hefyd ymhen amser y gall pwerau pellach gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan ddechrau gyda'r heddlu a chyfiawnder troseddol, a'i ddilyn wedyn gan ynni a darlledu. Yr ydym wedi ymrwymo i weithio dros bobl Cymru a chyda hwy i greu economi cryfach, cymunedau diogelach, byd sicrach ac ateb i'r argyfwng hinsawdd.
Mewn llywodraeth, mae'r Blaid wedi gwneud y canlynol:
-
sefydlu a chyflawni Confensiwn Cymru Gyfan;
-
ennill ymrwymiad trawsbleidiol hanesyddol i refferendwm ar bwerau deddfu a sicrhau dyddiad i'r bleidlais ym Mawrth 2011;
-
sicrhau Comisiwn Annibynnol ar Gyllido a Chyllid i Gymru;


