Ein gweledigaeth ar gyfer amgylchedd Cymru
Beth yw gweledigaeth y Blaid i'n hamgylchedd?
Yr ydym yn awr yn cydnabod fod newid hinsawdd yn fwy difrifol nac a sylweddolwyd cynt. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, i ostwng allyriadau o 40% islaw lefelau 1990 erbyn 2020. Bydd y Blaid yn gweithio i wneud yn siwr y troir y penderfyniad hwn yn weithredu ystyrlon ac effeithiol i gael y gostyngiad llawn.
Ac eto, i gael y math hwn o ostyngiad mawr, mae sicrhau fod gan Gymru lais yn ganolog i flaenoriaethau ynni. Mae Plaid Cymru yn mynnu datganoli yn llawn yr holl bwerau dros bolisi ynni i'r Cynulliad Cenedlaethol. Gallai Cymru fod yn hunangynhaliol mewn cynhyrchu ynni erbyn 2020. Rhaid i Gymru gymryd mantais lawn o'n ffynonellau ynni adnewyddol a chefnogi micro-gynhyrchu a chynlluniau cynhyrchu pwer cynaliadwy eraill ar raddfa fechan, gan gynnwys pwer y llanw, gwynt ar dir a môr, hydro a biomas.
Yr ydym yn llwyr wrthwynebu penderfyniadau'n cael eu cymryd ar brosiectau ynni mawr y tu allan i Gymru gan yr Uned Cynllunio Seilwaith. Dylai penderfyniadau am brosiectau ynni yn y dyfodol yng Nghymru gael eu cymryd yn ddemocratiaid, gan gorff sy'n atebol i bobl Cymru. Ein dewis ni ar gyfer defnyddio ynni Afon Hafren fyddai cyfuniad o lagwnau a thyrbinau ffrwd-llanw a fyddai'n gwneud llai o ddifrod amgylcheddol ac ar yr un pryd yn cynhyrchu'r swm mwyaf o drydan carbon-sero ar gost y gallai defnyddwyr fforddio.
Galwn am safonau perfformiad allyriadau i bob pwerdy newydd a chadarnhawn eto ein gwrthwynebiad i godi unrhyw bwerdai niwclear newydd yng Nghymru. Galwn am ymchwil i greu Grid Clyfar Ynni Ewropeaidd i rannu ynni adnewyddol ar draws Ewrop.
Mae gennym oll gyfrifoldeb i wella effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi ac i ddefnyddio mwy o ynni adnewyddol. Nid ymateb yn unig yw hyn i newid hinsawdd ond mae'n mynd i'r afael hefyd â thlodi tanwydd fel y gall pawb fforddio cadw'n gynnes yn eu cartrefi. Cynyddu y mae'r broblem, gyda chwarter o'r holl aelwydydd yng Nghymru yn dioddef tlodi tanwydd. Bydd y Blaid yn San Steffan yn parhau i ymgyrchu am dreth unwaith-am-byth ar gwmnïau ynni i helpu i dalu am grantiau insiwleiddio i deuluoedd ar incwm isel. Byddwn hefyd yn gweithio i sicrhau y bydd y tariffau bwydo-i-mewn newydd yn annog ynni adnewyddol ar raddfa gymunedol.
Byddwn yn parhau i wrthwynebu defnyddio llosgyddion gwastraff ac yn cefnogi targedau caeth o ran atal gwastraff. Yr ydym yn cefnogi targedau ailgylchu o 80% o wastraff domestig erbyn 2020 a chyflwyno treth tirlenwi uwch. Byddwn yn ymgyrchu am newidiadau mewn deddfwriaeth caffael cyhoeddus fel y gall awdurdodau lleol ffafrio deunyddiau o ffynonellau eilgylch a lleol.Â
Adroddiad o gynhadledd un dydd Gwanwyn_Gwyrdd.pdf


