Ein gweledigaeth ar gyfer tai ac adfywio Cymru
Beth yw gweledigaeth y Blaid am dai ac adfywio yng Nghymru?
Tai
Cred Plaid Cymru fod gan bawb yng Nghymru yr hawl i gartref o ansawdd da  yn yr ardal y maent yn dewis byw. Mae pobl ifanc yn arbennig wedi cael eu prisio allan o'r gallu i brynu eu cartrefi eu hunain mewn sawl ardal o Gymru am amrywiaeth o resymau. Yn hytrach nag edrych ymlaen at gael troed ar yr ysgol, yn hytrach maent wedi cael eu gorfodi i mewn i'r sector rhentu preifat lle mae'r rhenti yn parhau i godi heb unrhyw welliant amlwg o ran ansawdd.
Byddai'r llywodraeth Plaid Cymru nesaf yn cyflwyno nifer o gynlluniau a fyddai’ni helpu pobl ifanc yng Nghymru i gael troed ar yr ysgol dai. Byddem yn newid cyfreithiau cynllunio i sicrhau bod pobl leol yn elwa o ddatblygiadau tai, ac i sicrhau na fyddai pobl ifanc yn gorfodi i symud i ffwrdd oddi wrth eu cymunedau o ganlyniad i berchnogion ail gartrefi yn achosi cynnydd mewn prisiau i fyny a diffyg cyflogaeth cyflog uchel mewn sawl rhan o Gymru.
I'r bobl hynny nad yw bod yn berchen ar gartref yn briodol ar eu cyfer efallai, byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Bydd hyn yn helpu i gadw rhenti yn isel a chost budd-dal tai i lawr yn ogystal â darparu cartrefi da i bobl ar incwm isel. Byddwn yn diwygio'r ffordd y mae tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu i atal anghyfiawnderau yn y system ac i sicrhau tegwch.
Byddwn yn gwella ansawdd tai yn y sector rhentu preifat drwy reoleiddio gwell a thrwy  ddiwygio’r system denantiaeth er mwyn  sicrhau bod landlordiaid a thenantiaid yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau. Byddwn yn buddsoddi mewn gwella cartrefi hŷn er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cadw eu biliau tanwydd yn isel ac er mwyn ysgogi'r economi leol. Mae Plaid Cymru hefyd yn credu y dylai TAW ar gyfer atgyweiriadau cartref gael ei dorri i 5% - Ni ddylai pobl fod yn talu treth ormodol er mwyn sicrhau bod eu cartref yn lle iach a diogel i fyw.
Mae eiddo gwag hefyd yn fater yr ydym am fynd i'r afael ag ef. Byddwn yn ymestyn y cynllun eiddo gwag er mwyn sicrhau bod mwy o gartrefi adfeiliedig a gwag yn cael defnyddio unwait eto, ac ni fydd yn rhaid i gymunedau ddelio â'r tor-cyfraith a’r ymddygiad gwrth-gymdeithasol sy'n medru deillio o’r fath dai.
Adfywio
Dylai pawb yng Nghymru fod yn falch o'r dref y maent yn byw ynddi. Mae Plaid Cymru eisiau adfer balchder yn ein trefi drwy sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r dirywiad y mae cynifer ohonynt wedi ei wynebu. Y dyddiau yma, mae nifer o ganol ein trefi yn ddiffaith, yn frwnt ac yn llawn o siopau sydd â'u ffenestri wedi eu bordio i fyny. Yn y fath amgylchedd, nid yw'n syndod bod llawer o bobl yn dewis mynd i barciau manwerthu ar gyrion trefi, gwneud eu siopa ar-lein neu neidio yn y car i fynd i rywle arall.
Bydd y llywodraeth Plaid Cymru nesaf yn buddsoddi mewn adfer balchder canol ein trefi. Rydym am iddynt fod yn ardaloedd deniadol, y mae pobl yn dewis treulio eu hamser rhydd ynddynt. Nid rhagor o siopau cadwyn yn unig all gyflawni hyn. Y dyddiau yma, mae gan ganol trefi llwyddiannus lawer o weithgareddau i'w cynnig er mwyn cadw i ddenu ymwelwyr. Felly, byddwn yn newid y rheolau cynllunio i sicrhau bod amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol (orielau celf, theatrau, lleoliadau cerddoriaeth fyw ac yn y blaen) yn cael eu hannog i yng nghanol trefi, ochr yn ochr â siopau. Byddwn yn sicrhau mwy o gefnogaeth i'r siopau lleol annibynnol sy'n gallu rhoi cymeriad a hunaniaeth i ardal, ac edrych ar ffyrdd o ddiwygio ardrethi busnes er mwyn creu swyddi.
Â
Bydd Plaid Cymru hefyd yn gweithio gyda'r heddlu i sicrhau bod canol trefi yn ddeniadol i deuluoedd gyad'r hwyr, a byddwn yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a sicrhau bod canol trefi yn fannau diogel i ymweld a hwy. Byddwn yn gweithio gyda'r cynllunwyr tref gorau yn y DU i sicrhau bod buddsoddiadau newydd yn amgylchedd canol trefi yn ystyriol o bobl anabl ac yn cynnwys cyfleusterau megis meinciau, toiledau cyhoeddus glân a chysgodfannau rhag y tywydd.
Byddai Llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn gweithio'n agos gyda darparwyr trafnidiaeth i sicrhau bod ein canol trefi yn hygyrch, a chludiant cyhoeddus yn parhau yn ystod yr hwyr. Yn y tymor hir, ein gweledigaeth yw creu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig o fysiau a threnau, dan gwmni nid er elw, sy'n cysylltu ein pentrefi a'n trefi at ei gilydd. Byddwn hefyd yn sicrhau y bydd pobl leol yn elwa o fuddsoddiadau mawr mewn canol trefi drwy sicrhau bod cwmniau a gweithluoedd lleol yn cael eu defnyddio lle bo'n bosibl . Er mwyn cefnogi hyn, byddwn yn diwygio Cynllun Cymunedau'n Gyntaf i flaenoriaethu sgiliau, cyflogaeth a entrepreneuraeth yn ein hardaloedd difreintiedig.


