Plaid Cymru

Ydych chi eisiau i Gymru gael llais cryfach?

Do you want Wales to have a stronger voice?


Mynd yn syth i'r wefan / Skip and continue to website

Cymraeg English

Ein Hanes

Os nad ydych yn gyfarwydd â'r safle we yma, mae'n bosib na wyddoch chi am hanes hir a phwysig Plaid Cymru The Party of Wales.  Wrth i ni edrych 'mlaen i'r dyfodol, bydd y grynodeb yma o orffennol y Blaid yn eich cynorthwyo, gobeithio, i wneud synnwyr o'n gweledigaeth am well Cymru a gwell byd.

Mae'n neges ni ym Mhlaid Cymru i'r pleidiau Prydeinig yn glir – ein bwriad ni yw ymateb i anghenion pobl Cymru benbaladr ac i sicrhau fod datganoli yn gweithio er lles Cymru. Mae'n neges ni i bobl Cymru yn glir a chroyw – ni yw'r unig blaid sy'n eich cynrychioli chi.

Nid yw datblygiad y blaid yn gallu cael ei ysgaru'n hawdd oddi wrth hanes Cymru na digwyddiadau ym mhob cwr o'r byd. Mae Plaid Cymru yn blaid sy'n argyhoeddedig fod angen gweithredu'n lleol er mwyn sicrhau newidiadau bydol a pharhaol. Roedd  gwrthwynebiad pendant y Blaid i'r rhyfel anghyfreithlon yn Irac yn arwydd o'n gweledigaeth ryngwladol, yn yr un modd ag y mae ein record ar hyrwyddo heddwch yn y Dwyrain Canol ac mewn ardaloedd eraill yn cadarnhau hynny.

Amcanion

Ffurfiwyd Plaid Cymru ar 5 Awst 1925. Ei hamcanion yw:

Sicrhau annibyniaeth i Gymru yn Ewrop. Sicrhau llewyrch economaidd, cyfiawnder cymdeithasol a lles yr amgylchedd naturiol, yn seiliedig ar sosialaeth ddatganoledig. Adeiladu cymdeithas genedlaethol yn seiliedig ar ddinasyddiaeth gyfartal, parch i wahanol draddodiadau a diwylliannau, a gwerth cydradd pob unigolyn, beth bynnag fo'i hil, cenedligrwydd, rhyw, lliw, credo, rhywioldeb, oedran, abledd na chefndir cymdeithasol. Creu cymdeithas ddwyieithog drwy hyrwyddo adfywiad yr iaith Gymraeg. Hyrwyddo cyfraniad Cymru i'r gymdeithas fyd-eang ac ennill iddi yr hawl i aelodaeth o'r Cenhedloedd Unedig.

Plaid Cymru mewn Llywodraeth

Yn dilyn Etholiadau'r Cynulliad yn 2007, fe sicrhaodd Plaid Cymru ei lle fel yr ail blaid fwyaf yng Nghymru gyda 15 sedd. Yn dilyn trafodaethau dwys fe ffurfiodd y Blaid lywodraeth Cymru'n Un gyda'r Blaid Lafur, a dod yn blaid lywodraethol am y tro cyntaf yn ei hanes.

 

Plaid Cymru heddiw

Mae gan Blaid Cymru 11 o AC au yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn 2012 fe etholodd y blaid ei harweinydd benywaidd cyntaf, Leanne Wood AC .

Yn Etholiadau San Steffan 2005, llwyddodd y Blaid i ail-ennill Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Dwyfor Meirionnydd  - ac Arfon - a oedd ar un ystyr yn gynnydd oherwydd newidiadau mewn ffiniau etholiadol y sedd.

Ym mis Mai 2014, fe ail-etholwyd Jill Evans yn Aelod Seneddol Ewropeaidd.

 Ond beth oedd y rhesymau dros sefydlu'r Blaid yn y lle cyntaf?

Anghyfiawnder

Synnwyr o anghyfiawnder yn wynebu pobl Cymru oedd un o'r prif resymau a arweiniodd at sefydlu Plaid Cymru yn 1925. Roedd mudiadau lled-wleidyddol eraill megis Cymru Fydd, The Welsh Movement a The Welsh Home Rule Army mewn bodolaeth ond nid oedd un mudiad cenedlaethol oedd yn adlewyrchu'r dyhead am sefydlu llywodraeth i Gymru.

Er fod gan yr aelodau cynnar resymau gwahanol dros fod eisiau sefydlu'r blaid yn 1925, pryder dwfn dros ddyfodol Cymru, ei phobl a'i chymunedau oedd yn uno'r unigolion hynny. Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn fyw iawn ym meddyliau rhai o'r unigolion hynny oedd wedi brwydro i sicrhau y gallasai pobloedd cenhedloedd bychain eraill Ewrop fod yn rhydd. Roedd y brofiad bersonol yma o weld cenhedloedd eraill yn hawlio annibyniaeth yn tanlinellu'r teimlad o anghyfiawnder a diffyg diddordeb oedd yn wynebu Cymru mewn termau sosio-economaidd, diwylliannol a gwleidyddol.

Y daith hyd yma

Ym mis Mai 1929, bedair blynedd ar ôl ei sefydlu, fe frwydrodd y Blaid ei etholiad Seneddol cyntaf yng Nghaernarfon. Llwyddodd ymgeisydd y Blaid i ennill 609 o bleidleisiau. Cyfeiriodd Dafydd Iwan at y 609 pleidleiswyr yma yn ei gan adnabyddus. Dros 40 mlynedd yn ddiweddarach, byddai Plaid Cymru yn ennill ac yn dal y sedd hon gyda mwyafrif sylweddol.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, profodd llywyddiaeth y diweddar Gwynfor Evans yn gatalyst i ddatblygiad y Blaid. Yn Etholiad Cyffredinol 1950, roedd gan y Blaid 7 ymgeisydd ac erbyn 1964 roedd hyn wedi cynyddu i 23. Tyfodd aelodaeth y Blaid yn gyflym yn ystod y 60au hwyr ac fe sefydlwyd rhanbarthau mewn ardaloedd newydd. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Gwynfor Evans yn is-etholiad Seneddol Caerfyrddin yn 1966, daeth Plaid o fewn trwch blewyn i dorri ar fonopoli'r Blaid Lafur yng Ngorllewin y Rhondda yn 1967 ac yng Nghaerffili yn 1968. Yn 1970, sicrhawyd fod y Blaid yn sefyll ym mhob sedd yng Nghymru gan hawlio 175,000 o bleidleisiau. Heddiw mae'r Blaid yn brwydro am bob sedd yn yr Etholiadau Ewropeaidd, San Steffan a'r Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â mwyafrif y seddi hynny mewn etholiadau Cyngor lleol.

AAraith Gwynfor ar ol gipio sedd Caerfyrddin yn 1966:

Pobl Amlwg

Mae Lewis Valentine, Saunders Lewis a Gwynfor Evans yn bobl amlwg yn natblygiad Plaid Cymru. Lewis Valentine oedd llywydd cyntaf y Blaid. Saunders Lewis, yr academydd a'r dramodydd, oedd llywydd y Blaid rhwng 1926 a 1939. Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf y Blaid, fu'n llywydd rhwng 1945 a 1981 pan y bu i Dafydd Wigley (llywydd anrhydeddus Y Blaid yn bresennol) gymryd drosodd.

Mae aelodau eraill wedi cyfrannu at apêl gwleidyddol y Blaid gan gynnwys yr awdur Kate Roberts a helpodd lunio polisïau sosialaidd y Blaid. Datblygwyd polisïau economaidd y Blaid gan DJ a Noelle Davies drwy eu harbenigedd ar bolisi economaidd Gwyddelig a Scandinafaidd a chyhoeddwyd dogfen bwysig Can Wales afford Self-Government?, a'r ateb pendant oedd 'Ie'! J.E.Jones oedd yr Ysgrifennydd Cyffredinol rhwng 1930 a 1962 a daeth Raymond Williams, yr academydd o Gaergrawnt i amlygrwydd fel aelod yn ystod y 70au. Mae'r aelodau amrywiol yma heb os wedi cyfrannu at lwyddiannau Plaid Cymru ym mhob cwr o'r wlad ac wedi gadael treftadaeth hanesyddol sy'n gyfoethog yn ei amrywiaeth.

Cyfnodau Pwysig

Yng nghynhadledd flynyddol 1981 fe ymgorfforwyd 'sosialaeth gymunedol' yn un o brif amcanion y Blaid ac fe etholwyd AS Caernarfon, Dafydd Wigley yn Lywydd ar ôl cyfnod Gwynfor Evans. Yn yr un flwyddyn, daeth Gwynfor i amlygrwydd pellach yn y frwydr i sicrhau Sianel Gymraeg ei hiaith i Gymru. Ar ôl brwydr ffyrnig, pan y bu i Gwynfor fygwth ymprydio hyd farwolaeth, fe lwyddodd y Blaid i sicrhau ildiad hollbwysig gan lywodraeth Thatcher gan sicrhau sianel deledu Cymraeg. Yn etholiad 1987, llwyddodd Ieuan Wyn Jones  i gipio Ynys Môn oddi ar y Torïaid.

Yn ystod y 90au, bu Plaid Cymru yn arwain y frwydr yn erbyn Treth y Pen ac yn ymgyrchu'n erbyn codi canolfan filwrol radar yn Nhy Ddewi. Gorllewin Cymru. Fe roddwyd mwy o bwyslais hefyd ar sicrhau hunanlywodraeth i Gymru yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn Etholiad Cyffredinol ar y 9fed o Ebrill, 1992 fe enillodd Cynog Dafis, ar docyn Plaid Cymru a'r Blaid Werdd, sedd Ceredigion a Gogledd Penfro oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd gan y Blaid felly 4 Aelod Seneddol ac un Arglwydd yn dilyn dyrchafiad Dafydd Elis Thomas.

Y Dyfodol

Mae Plaid Cymru yn cydnabod yr angen i sicrhau fod Aelodau Etholedig yn cynrychioli cymunedau Cymru yn eu hamrywiaeth. Fe fabwysiadwyd mesurau i hyrwyddo menywod fel ymgeiswyr yn ystod y 90au ac fe arweiniodd hyn at ethol chwech menyw i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999. Fel y mae'r Gymru newydd yn dod yn fwyfwy amlddiwylliannol, mae'r Blaid yn denu aelodau newydd o gymunedau lleiafrifol ethnig Cymru. Mae Plaid Cymru Ifanc (gweler http://www.plaidcymru.org/ifanc/ ) wedi gweld twf pendant o bobl ifanc i'r Blaid gyda nifer cynyddol yn sefyll mewn etholiadau ar ran Plaid Cymru. Maent oll yn rhannu gweledigaeth am well Cymru ac am well fyd. 

Cymdeithas Hanes Plaid Cymru

Amcanion y gymdeithas yw i hybu trafodaeth, gwybodaeth ac ymchwil am hanes Plaid Cymru ac agweddau o hanes sy'n ymwneud â Phlaid Cymru.  I ehangu gwybodaeth am bobl a digwyddiadau a gyfranodd at hanes gyfansoddiadol y wlad cyn 1925.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma