Effaith y Fflotila - Economïau bychain Ewrop trwy ganol y storm
Mae manteision economaidd posibl annibyniaeth i Gymru wedi eu gosod allan mewn adroddiad a gyflwynwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Harvard, Adam Price a Ben Levinger. Mae'r cyn-AS Adam Price – a fu'n gymrawd ymchwil yn yr Harvard Center for International Development – yn disgrifio effaith 'fflotila' cenhedloedd bychain yn gwneud yn well na'r 'llongau rhyfel enfawr' dros amser.
Mae'r adroddiad, a gomisiynwyd gan Jill Evans ASE, yn cyflwyno canfyddiadau allweddol ar fanteision economaidd posibl bod yn genedl fechan annibynnol.
-
Mae maint yn bwysig: gellir priodoli 50% o'r gwahaniaethau mewn twf dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf yng ngorllewin Ewrop i wahaniaethau ym maint gwledydd;
-
Buasai pobl Cymru tua 39% yn gyfoethocach, a buasai economi Cymru wedi tyfu o 2.5% y flwyddyn petai Cymru wedi dod yn annibynnol tua'r adeg y cwympodd Mur Berlin a phetai wedi dilyn patrwm tebyg i un cenhedloedd bychain eraill;
-
Mae'r bychan yn gyfoethocach: nid yw bod yn fach yn llesteirio ffyniant gwlad – mewn gwirionedd, mae 'bonws gwlad fechan' ymysg aelod-wladwriaethau'r UE, gyda gwledydd bychain yn tyfu yn gynt;
-
Gwledydd bychain yn aml yw'r rhai cyflymaf i adfywio o ddirwasgiad;
-
Mae pedwar ffactor allweddol yn gwneud cenhedloedd bychain yn fwy llwyddiannus yn economaidd – bod yn agored i fasnach; cydlyniant cymdeithasol, y gallu i ymaddasu; strwythur yr UE sydd ar ffurf fflotila
Mae'r adroddiad yn gyfraniad difriol a sylweddol i'r ddadl am dwf economaidd cynnaliadwy mewn cenhedloedd bychain. Mae hyn yn arbennig o amserol ac yn berthnasol dros ben i Gymru a gwledydd Ewropeaidd tebyg yn y cyfnod hwn o ansefydlogrwydd economaidd byd-eang.
Download the Flotilla Effect - Adam Price and Ben Levinger.pdf


