Blog y Llechen
gan Lindsay Whittle Wedi misoedd o ymgyrchu, dychwelodd grŵp Plaid Cymru i’r Cynulliad yr wythnos hon yn dilyn yr etholiadau lleol.
Mae wedi bod yn etholiad anodd i ni. Er i ni lwyddo cadw ein tir and seddi mewn rhai ardaloedd, rydym wedi colli ymgyrchwyr cymunedol gweithgar, rhai ohonynt wedi rhoi blynyddoedd lawer o wasanaeth i’r blaid, eu cymuned a’u gwlad.
Gan Ieuan Wyn Jones, AC. Mae’r Llywodraeth Lafur wedi gorfod cydnabod eu bod nhw’n gweithio ar ymgyrch gyhoeddusrwydd fawr i geisio perswadio’r cyhoedd i dderbyn newidiadau amhoblogaidd i’r gwasanaeth iechyd.
Gan Leanne Wood Nid moethusrwydd nac arwydd o roddion hael yw gwasanaethau cyhoeddus: maent yn hanfodol i gynnal cymunedau hyfyw a pheri bod yr economi yn rhedeg.
Gan Jonathan Edwards, AS. Dyna gyfrinach Llafur wedi’i datgelu, felly. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, gallwn ddisgwyl toreth o waith PR a fwriadwyd i danseilio ein Hysbytai Dosbarth Cyffredinol a’n gwasanaethau iechyd.
Mae tua 26,000 o gartrefi gwag yng Nghymru. Tai yw’r rhain sydd mewn dwylo preifat, ond nad oes neb yn byw ynddynt.
Mae diweithdra yn bwnc mawr i lawer o bobl. Mae pobl wedi crybwyll y pwnc gyda mi ar stepen y drws dro ar ôl tro dros yr wythnosau diwethaf.
Ledled Cymru mae un broblem sy’n cael ei chrybwyll dro ar ôl tro ar stepen y drws, sef swyddi. Mae’n bryder i Blaid Cymru hefyd, a dyna pam ein bod yn gwthio prentisiaethau lleol fel dull o fynd i’r afael â diweithdra ymysg ieuenctid.
Gan Rhodri Glyn Thomas, Llefarydd y Blaid ar Lywodraeth Leol Yr oedd ein dadl yr wythnos hon yn edrych ar lywodraeth leol a’r rôl y dylai awdurdodau, yn ein barn ni, fod yn chwarae yn ein cymunedau.
Mae’r Cynghorwyr Alun Llewelyn a Roslyn Davies wedi gwneud gwaith gwych i gefnogi codi man chwaraeon aml-ddefnydd ger Godre'r Graig.
gan Leanne Wood Mae gwerthoedd yn bwysig mewn gwleidyddiaeth. Wrth ystyried y dewisiadau fydd yn wynebu Plaid Cymru o ran llywodraethu mewn clymblaid yn y dyfodol, mae ymddiriedaeth a chyd-ddeall gwerthoedd craidd yn ofyniad sylfaenol.
Maendy yng Nghasnewydd oedd y man cychwyn ar gyfer y diwrnod gyda rhai o'n ymgeiswyr yn yr ardal - Chris Paul, Maria Shellard, Clive Busson, Khalilur Rahman.
Dechrau ar fore Mercher yn Hermon, Sir Benfro gyda'n ymgeisydd lleol Cris Tomos. Cwrdd a grŵp o bobl leol yn yr hen ysgol, sydd wedi cael ei brynu gan y gymuned.
Cychwynnodd y daith i’r gorllewin yn gynnar gyda thrip fyny’r A470 i Flaenau Ffestiniog. Cwrddais â rhai o’r tîm Plaid yno i gefnogi ein hymgeiswyr Mandy Davies-Williams a Paul Thomas.
Fe drodd nifer o ymgeiswyr ac aelodau Plaid Cymru fyny yn yr ‘home patch’, y Rhondda, er gwaetha’r glaw.
Diwrnod cyfan o fewn ffiniau Canol De Cymru yn dechrau gyda thaith feicio ar fore braf iawn o amgylch Bae Caerdydd gyda dirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng.
Cychwynnodd y diwrnod gyda dro cynnar o amgylch y ward gyda phwy roeddwn yn meddwl oedd ein hymgeisydd ieuengaf.
Am wybodaeth bellach am ymgyrch Cris, ewch i'r tudalen facebook
Rhydaman oedd y lleoliad ar gyfer lansiad ein maniffesto llywodraeth leol. Ffatri hufen iâFranks i fod yn fanwl gywir.
Mae enwebiadau bellach wedi cau ar gyfer yr etholiadau lleol ac rwy’n falch o gael adrodd y bydd Plaid Cymru gyda’r nifer uchaf erioed o ymgeiswyr cyngor eleni.






















