RSS BLOG Y LLECHEN

Cefnogi cerddorion Cymreig

20/12/2011

Ymunwch â'r ymgyrch i gadw rhaglen 'Introducing' Radio One yng Nghymru

 

Mae Bethan Jenkins AC yn galw ar y BBC i ail-ystyried cynlluniau i roi terfyn ar eu llwyfan Introducing yng Nghymru, a ddefnyddir i hybu doniau cerddorol newydd. Y cynnig yw cael sioe newydd dan agenda Cyflwyno Ansawdd yn Gyntaf, lle bydd un sioe i Gymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. 3 sioe ar wahân sydd ar hyn o bryd. Jen Long yw’r cyflwynydd presennol, ond ymysg cyflwynwyr nodedig y gorffennol mae Bethan Elfyn a Huw Stephens.

Mae Introducing yn cael ei ddarlledu ar Radio 1 a 6Music (mae ganddynt hefyd wefan yma), a bu’n fodd o gyflwyno llawer o artistiaid newydd, ac y mae Bethan yn uno gyda rhai ohonynt i annog y gorfforaeth i ail-feddwl. Cyflwynir deiseb i Senedd y DG ar ddydd Llun, ynghyd â deiseb sy’n galw am gadw BBC Introducing yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a sefydlwyd grŵp facebook i arbed y sioe ar ei ffurf bresennol.

Meddai Bethan, sef llefarydd Plaid Cymru ar Dreftadaeth, Iaith a Chwaraeon:

“ BBC Introducing yng Nghymru yw’r union fath o lwyfan sydd ei angen ar gerddorion Cymreig newydd. Yr oedd amrywiaeth ranbarthol yn caniatáu clywed mwy o artistiaid - ac artistiaid Cymreig yn benodol. Fy neges i’r BBC yw - ailfeddyliwch, da chi, oherwydd yma y mae sêr y dyfodol i’w canfod, ac y mae ganddynt gyfrifoldeb i’w helpu i feithrin fel hyn.”

 

“Bydd colled fawr ar ôl y math hwn o gefnogaeth, ac y mae’n ergyd arall i ddiwydiant sydd eisoes yn gwegian wrth geisio cynnal ei asedau pwysicaf ar lefel ranbarthol – doniau newydd ac egin-ddoniau.”

 

Cerddorion yn cefnogi'r ymgyrch

 

Sam Airey

Rwy’n teimlo bod BBC Introducing yng Nghymru yn llwyfan hollol hanfodol i egin-ddoniau Cymreig, ac yn gam ymlaen i fandiau ac artistiaid gyrraedd cynulleidfa ehangach na’r cyffredin. Darganfuwyd fy ngherddoriaeth i yn gynharach eleni, yn bennaf oherwydd system Introducing y BBC - anfonais fy sengl gyntaf at Uwchlwythwr Introducing, ac oddi yno, fe’i dewiswyd gan Jen Long ar BBC R1 Introducing yng Nghymru, ac Adam Walton/Bethan Elfyn are u sioeau ar Radio Wales y BBC, ac fe’i hyrwyddwyd yn dda gan y naill a’r llall. Ers hynny (ac yn bennaf oherwydd y fath gefnogaeth) rwyf wedi cael darlledu ddwywaith ar Radio One, Two, a 6Music y BBC, wedi cael chwarae ar y radio yng Ngŵyl Sŵn yng Nghaerdydd, wedi recordio sesiwn yn Maida Vale y BBC i Huw Stephens ar Radio One, a’r wythnos ddiwethaf, recordiais sesiwn i Freshly Squeezed ar deledu Channel 4. Rwy’n hollol sicr, heb help a chefnogaeth BBC Introducing yng Nghymru, y buaswn wedi straffaglian i gyrraedd y man lle’r wyf, ac yr wyf yn sicr fod modd dweud yr un peth am lawer o artistiaid newydd o Gymru sydd hefyd wedi elwa o system Introducing.


 

Sam Airey -  http://www.samairey.com 

Sam Airey BBCR1 Session & Interview by samairey

 

Friends Electric

Medda’r band Friends Electric:

“Heb BBC Introducing yng Nghymru fuasem ni ddim lle’r ydym heddiw. Mae mor syml â hynny. Bu maint y gefnogaeth frwd a gawsom dros y blynyddoedd gan Huw, Bethan, Jen a’r tîm, a’r cyfleoedd ddaeth i’n rhan oherwydd y gefnogaeth hon, yn anhygoel o werthfawr. O ddifrif. Diolch iddynt hwy y llwyddasom i gyfansoddi cerddoriaeth fel bywoliaeth. Rydym yn ddyledus iddynt am bopeth.”

 

Turnstile Music

Mae Turnstile Music yn rheoli Gruff Rhys, Los Campesinos ac Islet. Mewn datganiad, dywedasant:

“Roedd Turnstile Music wedi syfrdanu o glywed fod rhaglenni rhanbarthol BBC Introducing yn dod i ben. Dros y blynyddoedd, bu’r rhaglenni hyn yn llwyfan gwych o gefnogaeth gredadwy i fandiau ac artistiaid sefydledig a rhai newydd ar draws yr holl ystod, yn ogystal â rhoi cefnogaeth a hybu bandiau a digwyddiadau cerddorol Cymraeg a di-Gymraeg ledled Cymru.

 

Romesh Dodagoda

Ychwanegodd Romesh Dodangoda, sydd wedi gweithio gyda bandiau megis Funeral For A Friend, Kids In Glass Houses, Attack! Attack!, The Blackout, Not Advised, Twin Atlantic a Save Your Breath, ac sy’n gweithio yn Stiwdio Recordio adnabyddus Longwave yng Nghaerdydd:

“Dros flynyddoedd lawer o weithio yn y diwydiant cerddoriaeth, does dim amheuaeth am effaith sioeau Introducing y BBC o ran helpu bandiau newydd i gyrraedd y lefel nesaf a chael cynulleidfa i’w cerddoriaeth.

“Cafodd llawer o’r artistiaid o Gymru yn benodol gyfleoedd mor wych trwy fod ar y sioeau a chaefnogaeth y DJ's. Buasai dileu’r sioeau hyn yn ei gwneud yn fwy anodd i ddoniau newydd gyrraedd cynulleidfa ehangach.

“Mae BBC Introducing wedi cefnogi bandiau di-ri a gynhyrchwyd gen i, ac aeth y bandiau hynny ymlaen i yrfaoedd da. Nid yn unig hynny, ond mae’r sioeau hefyd yn helpu cynhyrchwyr a stiwdios lleol trwy eu defnyddio i recordio’r sesiynau byw ar gyfer y rhaglen.”

 

Goldie Lookin' Chain

Meddai’r rapwyr Cymreig Goldie Lookin’ Chain:

“Ynghyd a llawer o artistiaid Cymreig eraill, rydym yn cofio y tro cyntaf i ni chwarae ar y radio, a’n hawgrym o lwyddiant a chydnabyddiaeth gan Introducing y BBC yng Nghymru. Mae’r sioe yn drysor cenedlaethol; hebddi, byddwn yn colli cyfle gwerthfawr i’n hartistiaid, ein cantorion a’n cyfansoddwyr i gymryd y naid ymlaen i enwogrwydd, a dwyn y clod hwnnw yn ôl i Gymru.

“Mae arnom angen sioe fel hyn yng Nghymru i artistiaid a dilynwyr cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt. Mae cymaint o dalent yng Nghymru, ac y mae angen i ni gadw’r sianeli ar agor i wneud y mwyaf o’n potensial a’r cyfleoedd sydd ar gael.”

 

Matt Hudson

Meddai’r cerddor o Gaerdydd, Matt Hudson:

“BBC Introducing yng Nghymru yw’r cymhelliad gorau i fandiau newydd a dibrofiad arddangos eu cerddoriaeth. Hebddo, mae’n anodd dod ar draws cyfleoedd newydd, a chaiff bandiau newydd dawnus eu gorfodi allan o’r busnes cerddoriaeth, a byddant mewn perygl o golli symbyliad.”

 

Ymuna â'e ymgyrch Facebook