O'r Senedd
03/02/2012

Gan Simon Thomas, AC Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Ydych chi wedi prynu neu werthu tŷ gerllaw lein reilffordd yn ddiweddar? Wedi derbyn bonws banc helaeth ac yn chwilio am dir i’w brynu? Os felly rydych naill ai yn a) Ysgrifennydd Gwladol o’r enw Cheryl Gillan, b) yn rhywun y mae’ch enw yn odli â “fester” neu c) yn chwarae Monopoly gyda’ch plant. Beth bynnag eich sefyllfa, hwyrach y buasai o ddiddordeb gennych glywed fod y Cynulliad yr wythnos hon wedi clywed gan un o’i haelodau mwyaf meddylgar, Mark Drakeford (rwy’n datgan diddordeb, arferwn fod yn swyddog cyfatebol iddo yn llywodraeth Cymru’n Un) am rinweddau treth gwerth tir.
A dweud y gwir, roedd yr wythnos hon yn un eithaf da i feincwyr cefn. Wnaf i ddim chwythu gormod ar gorn fy nadl fy hun ar “sut y gall Cymru dalu ei ffordd” yma. Medrwch weld y cyfan ar %20">yma er y buasech yn synnu, efallai, gyda mymryn o uchelgais ac ewyllys, y gallai Cymru fod yn genedl gyfoethocach a mwy cynaliadwy o lawer. Ond yn ogystal â’r ddwy ddadl ddiddorol hon gan feincwyr cefn, cawsom hefyd Fil gan feinciwr cefn, a hybwyd gan Peter Black, i fynd i’r afael â phroblem perchenogion cartrefi parc diegwyddor. Mae perchenogion cartrefi parc yn aml yn bobl wedi ymddeol, ac y mae rhai tirfeddianwyr diegwyddor yn defnyddio deddfwriaeth bresennol sydd wedi dyddio i’w bwlio i werthu eu cartrefi yn rhad neu eu twyllo gyda thariffau ychwanegol rhy ddrud ar yr ynni maent yn ddefnyddio. Mae’n hen bryd diwygio hyn ac rwy’n dymuno rhwydd hynt i fil Peter Black. Fe’i cefnogwyd yn unfrydol pan gafodd ei gyflwyno.
Yn y cyfamser, mae’r Llywodraeth ei hun yn crwydro ymlaen. Gofynnais i’r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths pa neges fyddai ganddi i bobl y Canolbarth sy’n poeni gymaint am y cynigion i newid gwasanaethau ysbyty ym Mronglais, a chael ateb gorlawn o jargon rheoli oedd yn sôn am “lefelau ymgysylltu” a “mynd i gyfarfodydd cyhoeddus a gwneud eu barn yn glir”. Llafur sy’n hawlio’r clod am greu’r GIG. Rwy’n rhyfeddu eu bod yn hapus i weld gwario £5 biliwn o arian cyhoeddus bob blwyddyn gan Fyrddau Iechyd heb unrhyw gyfeiriad gwleidyddol o gwbl.
Doeddwn i ddim yn synnu o gwbl gweld bod arolwg barn diweddar yn datgan mai 6% yn unig sydd yn cefnogi polisïau economaidd Llafur. Maent dros bob man, i bob golwg. Gofynnais i’r Prif Weinidog yr wythnos hon a fyddai glynu at raglen San Steffan o doriadau yn cadw Cymru mewn dirwasgiad - a dywedodd y buasai. Pam felly fod Miliband a Balls yn dilyn yr union strategaeth honno? Fe’i holais yn nes ymlaen am weithwyr y sector cyhoeddus. Dywedodd nad oedd eisiau cap rhanbarthol ar fudd-daliadau. Y diwrnod wedyn, dyma Liam Byrne yn dweud y gwrthwyneb llwyr i’r hyn ddywedodd Carwyn Jones a dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn cytuno a’r angen am gapio rhanbarthol.
Mae’n anodd cymryd Llafur Cymru o ddifrif a hwythau yn lansio cynllun 5 pwynt am adferiad economaidd, gyda 41/2 o’r pwyntiau hynny yn rhai sydd y tu allan i’w rheolaeth. Mae’n anodd cymryd Llafur o ddifrif pan mai’r unig beth meant wedi ei gyflawni yw dryswch ynghylch eu strategaeth economaidd.
Ar nodyn mwy cadarnhaol, yr wythnos hon fe helpais i lansio grŵp amlbleidiol ar yr iaith Gymraeg, a mynd i’r grŵp amlbleidiol ar gwrw a thafarnau, lle gwnaeth y bragwyr hi’n glir na fuasai isafswm pris am alcohol yn cael effaith ar y defnydd synhwyrol o alcohol yng Nghymru, ond lle dywedasant yn blaen hefyd eu bod yn pryderu am alcohol anghyfreithlon a pheryglus yn llawer o’n cymunedau.
Efallai y gŵyr rhai ohonoch fy mod yn un o’r rhai sy’n ymgeisio am arweinyddiaeth Plaid Cymru. Mae cyfarfod aelodau o Gymru benbaladr yn hwyl fawr, a bydd pwy bynnag wnaiff ennill yn arweinydd diamheuol ein plaid. Druan ag Andrew Davies felly, arweinydd grŵp y Torïaid yn y Cynulliad, ond nid y Torïaid yng Nghymru. Cafodd ei awgrym diniwed fod ar y Torïaid, efallai, angen arweinydd Cymreig (mae ganddynt o leiaf dri ar hyn o bryd, oedd yn golygu fod gan eu maniffesto diwethaf dri chyflwyniad gwahanol) ei wfftio gan Cheryl Gillan fel “annifyrrwch”. Annifyrrwch, wrth gwrs, sy’n creu perlau mewn wystrys. Rwy’n sicr y bydd arweinydd nesaf Plaid Cymru yn berl yng ngwely wystrys lleidiog gwleidyddiaeth Cymru.


