O'r Senedd: Jocelyn Davies
01/06/2012
Gan Jocelyn Davies, AC.

Yr wythnos hon, ailadroddodd Plaid Cymru alwadau ar i Lywodraeth Cymru wireddu uchelgais busnesau Cymreig a’r cyhoedd yn ehangach i greu parthenwau unigryw i Gymru. Mae’n annerbyniol, mewn oes pan fo’n heconomi yn troi’n fwyfwy digidol a lle mae pobl ym mhob cwr o’r byd yn dod yn fwyfwy dibynnol ar e-gyfathrebu, nad oes gan Gymru ei phresenoldeb ei hun.
Mewn economi fyd-eang a chystadleuol, mae angen i ni roi i fusnesau Cymreig y cyfle gorau posib i gystadlu, ac y mae parthenwau Cymreig yn darparu llwyfan fydd yn gwahaniaethu Cymru oddi wrth y lleill ac yn rhoi cyfle hefyd i greu enw rhyngwladol i nwyddau a gwasanaethau Cymreig.
Y mae Plaid Cymru yn cefnogi bid Nominet i greu parthenwau ‘.wales’ a ‘.cymru’ a nawr bod y corff byd-eang sydd yn gyfrifol am barthenwau wedi agor y broses fidio, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn llwyr gefnogi’r bid Cymreig. Dylai presenoldeb unigryw i Gymru ffurfio rhan o strategaeth ehangach i adfywio economi Cymru.
Yn y cyd-destun hwnnw, siomedig fu perfformiad Llywodraeth Cymru hyd yma. Gallasai dau ddigwyddiad diweddar fod wedi bod yn arwyddion o ymdeimlad newydd o bwrpas ar ran y Llywodraeth - gwaetha’r modd, fe gollwyd y naill gyfle a’r llall. Nid oedd Cynllun Buddsoddi Seilwaith y Llywodraeth yn fawr mwy na chasgliad o gyhoeddiadau a ail-bobwyd, heb unrhyw ymdrech gref o’r newydd i drawsnewid ffawd economi Cymru. Ond fy mhrif bryder yw diffyg creadigrwydd Llywodraeth Cymru o ran darganfod ffyrdd newydd o godi cyfalaf y gellid ei ddefnyddio ar brosiectau o bwys.
Yn etholiadau diwethaf y Cynulliad, lansiodd Plaid Cymru gynlluniau newydd ar gyfer swyddi a thwf. Yr oedd y rhaglen hon yn cynnwys sefydlu cwmni ‘Adeiladu I Gymru’ i greu hyd at 50,000 o swyddi, gan gynnwys 20,000 yn y sector werdd. Nod y cwmni fyddai buddsoddi cymaint â £500 miliwn i foderneiddio ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn sylfaen i hyn, byddai Cynllun Seilwaith i Gymru gyfan a fuasai yn denu buddsoddiad mewn trafnidiaeth, ein hysgolion, ein hysbytai, ein seilwaith technoleg a’n hynni.
Yr ail gyfle a gollodd Llafur oedd cyhoeddi eu ‘Hadroddiad Cynnydd’ hir-ddisgwyliedig. Yn hytrach na bod yn gasgliad mesuradwy o dargedau a mesurau cynnydd, mae’r ddogfen enfawr 666 tudalen yn gybolfa ddi-drefn o ystadegau, a rhai ohonynt yn cyfeirio at dymhorau blaenorol y Cynulliad. Fel plaid, yr ydym yn cefnogi egwyddor tryloywder mewn llywodraeth a sicrhau y gall y gwrthbleidiau ac, yn bwysicaf oll, y cyhoedd, graffu ar y Llywodraeth a mesur eu cynnydd neu ddiffyg cynnydd. Nid yw dogfen Llafur, fodd bynnag, yn rhoi sail i hyn.
Mae’n annerbyniol, wedi mwy na blwyddyn mewn grym, fod Llafur wedi oedi a thindroi ar bob gafael. Ar adeg pan fo cymunedau ac unigolion ym mhob cwr o’r wlad yn wynebu amodau ariannol anodd, pan fo diweithdra yn uchel a Chymru dan warchae gan lywodraeth a arweinir gan y Torïaid yn San Steffan, nid yw Llafur eto wedi cyhoeddi pecyn cynhwysfawr o fesurau i amddiffyn pobl rhag toriadau’r Torïaid na rhoi’r hwb y mae cymaint o’i angen ar economi Cymru - a hyn er bod cyfrifoldebau newydd wedi eu datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Efallai mai’r enghraifft waethaf o ddiffyg gweithredu Llafur yw eu polisi o basio’r ergyd o £24 miliwn mewn treth i’r tlotaf yn ein cymunedau. Mae budd-dal treth cyngor yn cael ei ddatganoli i Gymru, yr Alban ac awdurdodau lleol Lloegr, ar ôl gwneud toriad o 10%. Tra bo Llywodraeth yr SNP yn yr Alban wedi ymrwymo o wneud iawn am y diffyg o 10%, gwrthododd Llywodraeth Llafur Cymru yn bendant wneud yr un peth.
Mae Plaid Cymru eisiau i Lywodraeth Cymru gyllido’r diffyg hwn o leiaf am y flwyddyn nesaf hyd nes y ceir adolygiad llawn o’r system budd-dal treth cyngor. Heb newid polisi sylweddol, bydd cynghorau yn wynebu dewis amhosib - torri gwasanaethau neu orfodi’r aelwydydd tlotaf i dalu mwy o dreth cyngor.
Etholwyd Llafur ar y rhagdyb y buasent yn ‘sefyll cornel Cymru.’ Ymddiriedodd pobl Cymru yn y blaid Lafur i gadw’r addewid hwn. Fe’u siomwyd eto fyth.


