Plaid Cymru

Ydych chi eisiau i Gymru gael llais cryfach?

Do you want Wales to have a stronger voice?


Mynd yn syth i'r wefan / Skip and continue to website

Cymraeg English
RSS BLOG Y LLECHEN

Undeb newydd yn bosib

27/06/2012

LeanneWood gan Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru   

Nid am y tro cyntaf yn ein hanes, mae’r Cymry yn dod yn rhan o’r frwydr am Alban annibynnol. Yr oedd ein hymwneud sylweddol olaf yn canoli ar yr ymgyrch a arweiniwyd gan William Gymro - neu Wallace, er mae’n debyg fod un neu ddau o fwasaethwyr Cymreig ar yr ochr arall hefyd. Un peth sydd yn sicr: mae cyfeiriad fy ngwlad at y dyfodol unwaith eto ynghlwm â ffawd yr Alban. Mae ein dwy wlad ar bwynt tyngedfennol mewn hanes.

Nid dadl yw hon heddiw sydd yn syllu’n ôl i’r gorffennol. Y dyfodol sy’n gorwedd o’n blaenau. Mae refferendwm yr Alban yn gyfle cyffrous, nid i daflu o’r neilltu ond i ail-ddiffinio’r berthynas gyson newidiol rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Prif Weinidog Llafur yng Nghymru ei fod yn gweld newid yn yr undeb fel cyfle i groesawu llongau tanfor niwclear i arfordir Sir Benfro petaent yn cael eu halltudio o aber yr Afon Clud. Gweledigaeth hunllefus braidd o weddillion gwladwriaeth Brydeinig yn mynnu dal eu gafael ar olion y Rhyfel Oer na fydd yn apelio at fawr neb yng Nghymru.

Mae obsesiwn niwclear San Steffan - a’r hiraethu imperialaidd am statws “pŵer mawr” y mae’n symptom ohono - yn brawf eto fyth fod dydd yr undeb gwleidyddol wedi hen fynd heibio. Mae’n hwyr glas ei ail-ddrafftio.

Wrth gwrs, mae Alistair Darling yn iawn, rydym yn rhannu mwy na daearyddiaeth. Mae gennym iaith yn gyffredin, cysylltiadau teulu a chyfeillion, hanes a dyfodol sydd ar y naill law yn gyffredin ac yn wahanol. Mae’r Alban a Chymru, ill dwy yn genhedloedd Celtaidd, yn rhannu ffin ag un wlad, a  mileniwm a hanner o ymwneud a hi wedi llunio ein diwylliannau fel na wnaeth neb arall. Mae Lloegr yn fwy na chymydog i ni. Mae’n chwaer-genedl i ni hefyd.

Yn rhyfedd iawn, ymyriad diweddar Ed Miliband a geisiodd rannu trwy wleidyddiaeth hunaniaeth. Ond doedd y peth ddim yn gwneud synnwyr. Doedd teimlo’n Gymreig neu yn Albanaidd erioed yn dibynnu ar fodolaeth gwladwriaeth Gymreig neu Albanaidd. Felly nid oes ar ymdeimlad cyffredin pobl o Brydeindod angen gwladwriaeth Brydeinig i’w chynnal chwaith; doedd yr Hen Frythoniaid ddim yn gyfarwydd iawn ag unrhyw Ddeddf Uno.

Mae cysyniad Prydain wedi profi y gall ymaddasu yn y gorffennol fel y dylai allu gwneud yn y dyfodol. Mae gan y rhai ohonom sydd yn credu mewn partneriaeth newydd o wledydd cyfartal ddiddordeb yn yr hyn y gall Prydain olygu yfory, yn hytrach na cheisio aros gyda Phrydeindod heddiw, neu’n waeth byth, hiraethu am ryw ffug-Brydeindod o’r gorffennol.

Os bydd pobl yr Alban yn pleidleisio dros wlad annibynnol yn 2014, yna gall Prydain newydd o’r fath ymddangos. Rwy’n benderfynol nad sefyll ar y cyrion y bydd Cymru ar y cyfnod pwysig hwn. Efallai na fydd ein taith ar y llwybr cyfansoddiadol yn adlewyrchu’n union brofiad yr Alban, ond gadewch i ni gofio, yn yr ynysoedd hyn, nad yw gwahanol wledydd yn mwynhau gwahanol fathau o hunanlywodraeth yn beth anghyffredin. Mae gennym ddwy wladwriaeth sofran, tair gweinyddiaeth ddatganoledig a thair o ddibyniaethau’r goron yn yr ynysoedd hyn. Bydd gan bob cenedl gyfraniad unigryw i’w wneud yn yr ‘undeb cymdeithasol’ newydd.

Wrth gwrs, bydd angen i ni lunio pensaernïaeth newydd o gydweithredu. Mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig - ein fersiwn ni o’r fforwm Nordig ar gyfer cydweithredu - eisoes yn gweithredu fel labordy arloesedd, o drethi ar fagiau plastig i isafswm pris alcohol. Gyda sedd i bawb wrth y bwrdd, bydd digon o feysydd lle medrwn rannu atebion a chreadigrwydd mewn partneriaeth gref o genhedloedd cydradd a fydd, rwy’n siŵr, ymhen cenhedlaeth yn cynnwys Cymru annibynnol. Yn hytrach na chael ein dal yn gaeth yng ngafael un wladwriaeth, mae’n bryd i ni oll groesawu â breichiau agored y Brydain hon sy’n perthyn i’r dyfodol, Cymdogaeth Cenhedloedd, sofran, democrataidd a rhydd.