RSS BLOG Y LLECHEN

O'r senedd: Leanne Wood

06/07/2012

Bythefnos yn ôl, dywedodd Prif Weinidog Cymru:

"….Fe sylwais i nad yw Llywodraeth Yr Alban bellach yn dymuno cael canolfan llong danfor niwclear yn Faslane.  Nid ydyw’n dymuno rhoi cartref i lynges niwclear forol y DU.  A gaf i ddweud y byddai croeso mawr i’r llynges a’r swyddi hynny yn Aberdaugleddau?”

A wnaeth ragweld y byddai’r sylw bachog, annoeth yma yn tanseilio ei awdurdod fel Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru fwy na phythefnos yn ddiweddarach?  Mae Plaid Cymru wedi cwestiynu’r Prif Weinidog yn ystod rhai o’r cyfleoedd craffu niferus sydd gennym yn y Senedd, a’r wythnos hon, fe alwon ni drafodaeth i ‘wrthwynebu lleoli Trident, neu unrhyw arfau niwclear eraill, yn Aberdaugleddau neu’n unrhyw le arall yng Nghymru; a galw ar Lywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen i gael olynydd i Trident ac i ddefnyddio’r adnoddau a arbedwyd i greu swyddi.

Ni ellid dweud mai un o glasuron ein Prif Weinidog oedd y ddadl fywiog a gafwyd wedyn yn y Siambr.  Gan anwybyddu’r materion diogelwch sy’n gysylltiedig â lleoli llynges o longau tanfor niwclear o fewn tafliad carreg i ddwy burfa olew a’r safle LNG enfawr, gofynnwyd iddo ystyried ei werthoedd.  Ai dyma yw gweledigaeth Llafur ar gyfer Cymru?  Gofynnodd Bethan Jenkins AC iddo gyfiawnhau ei ddatganiad ar seiliau economaidd o gymryd y gallai’r ffaith bod arfau niwclear gerllaw beryglu miloedd o swyddi sydd eisoes yn bodoli yn Aberdaugleddau a’r ardal eangach.  Mae adroddiad TUC Yr Alban yn dangos sut y byddai mwy o swyddi yn cael eu denu i’r Alban, petai Trident i adael, gan ddangos bod arfau distryw mawr yn ffordd dda i golli llawer o swyddi.  Yn syml iawn, nid yw’r dadleuon economaidd yn dal dŵr.

Ymateb y Prif Weinidog i’r drafodaeth oedd lladd ar unrhyw beth neu bopeth ond Trident.  Mae’n rhaid bod pobl wedi hen arfer erbyn hyn â’r  modd mae’n osgoi cwestiynau a’i strategaeth o’u gwyro gyda theyrngarwch llwythol rhwysgfawr.  Ond yn y ddadl Trident fe aeth i ddyfroedd dyfnach.  Ymatebodd Rhodri Glyn Thomas, AC Dwyrain Caerfyrddin i gyfraniad y Prif Weinidog drwy ddweud:

“Fel un sydd wedi bod yn Aelod o’r Cynulliad am 13 mlynedd, fe glywais i gyfraniadau gwael tros y blynyddoedd, yn yr hen Siambr ac yn hon, ond mae’n rhaid imi ddweud mai dyma yw’r cyfraniad gwaethaf a glywais i gan unrhyw Aelod o’r Cynulliad, heb sôn am Brif Weinidog.”

Ceryddodd y meinciwr cefn Llafur a chyn cynghorydd i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn gryf y syniad y byddai taflegrau Trident yn cael eu lleoli yng Nghymru dan unrhyw amgylchiadau.  Dywedodd:

“Rwy’n gwrthwynebu’n gyfan gwbl y syniad y gallai Cymru fod yn gartref i arfau niwclear.  Nid ydym yn gwybod beth yw llwyr botensial dinistriol y system Trident, am fod llen o gyfrinachedd o’i hamgylch, ac yn fwriadol felly.”

Yn anffodus, nid yw ef na llawer o ACau Llafur eraill sy’n gwrthwynebu’n gryf yr atalwyr niwclear, fel y’u gelwir, yn dewis cefnogi cynnig Plaid Cymru sy’n rhywbeth y bydd gofyn iddynt ei egluro o bosib yn y dyfodol.  Fel y dywedais i yn fy nghyfraniad i’r drafodaeth, ni fedrwn ni gicio’r mater i’r glaswellt hir am ei fod y tu hwnt i gymhwysedd y Cynulliad;  byddai gwneud felly yn anathema i ni yn y Blaid am ein bod ni gyd yn fodau rhyngwladol yn ogystal â chenedlaethol.  Ni ddefnyddiodd yr un AC Llafur y ddadl ‘cymhwysedd’ fel cyfiawnhad dros beidio â chefnogi cynnig i ostwng yr oed pleidleisio i 16 yn gynharach y diwrnod hwnnw yn y sesiwn llawn, sydd, wrth gwrs, y tu hwnt i’n rheolaeth ni yma  yng Nghymru. 

Fel y dywedodd Julie Morgan, AC Gogledd Caerdydd, yn ystod y drafodaeth ar osgwng oed pleidleisio:

 “Er nad oes gan y Cynulliad y pŵer i newid oed pleidleisio yng Nghymru, mae’n bwysig symud y drafodaeth yn ei blaen yma, ac danfon neges eglur allan ynglŷn â’n barn.”

Mewn ymateb i Julie a gweddill yr ACau Llafur, fe ofynnais i hyn: Pam na ddefnyddiwch chi’r cyfleoedd sydd gennych i ddanfon neges eglur allan yn erbyn rhaglen niwclear beryglus Trident, sy’n hynod ddrud, yn afresymol, anfoesol ac ynfyd o beryglus?

Mae’r drafodaeth lawn i’w gweld yma.