Yr Oes Anghonfensiynol hon
13/07/2012
Gan Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC

Rydym ni’n byw mewn cyfnod o newid. Yn erbyn cefnlen o ansicrwydd economaidd ac anniogelwch cymdeithasol, mae’r berthynas ym mhob man rhwng cenhedloedd a rhwng llywodraethau a’r rhai a lywodraethir mewn cyflwr o ansefydlogrwydd. Mae democratiaeth mewn argyfwng wrth i bobl golli hyder mwn sefydliadau. Eleni am y tro cyntaf erioed yn arolwg byd-eang Edelman o hyder y cyhoedd, roedd pobl yn y rhan fwyaf o wledydd yn dweud nad oedd ganddynt ffydd yn eu llywodraethau i wneud yr hyn sy’n iawn. Wrth i’r dosbarth gwleidyddol simsanu ym mhob cwr o’r byd, does gennym ni ddim dewis ond gadael i bobl ddod yn ôl i mewn i galon y broses wleidyddol.
Mae’r broes yma o rymuso i’w gweld ar wahanol ffurf mewn gwahanol leoedd. Yn Yr Alban maent yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth. Yn Yr Iwerddon, mae confensiwn cyfansoddiadol i adolygu Cyfansoddiad y Weriniaeth a hynny am y tro cyntaf ers 1937. Yn Ewrop hefyd mae’r argyfwng parhaus yn Ardal yr Ewro wedi bod yn sbardun i alwadau am broses gonfensiwn newydd, a fyddai’n arwain at undeb gwleidyddol ac integreiddiad cyllidol. Ac yma yng Nghymru, mae gennym ni’r Comisiwn Silk traws-bleidiol sydd wrthi ar hyn o bryd yn archwilio’r achos dros roi mwy o bwerau ariannol i Lywodraeth Cymru.
Mae’n hanfodol pwysleisio nad yw newidiadau cyfansoddiadol a diwygio gwleidyddol yn faterion haniaethol, deddfol, ond yn sylfaenol i sut rydym yn byw ein bywydau. Materion sy’n ymwneud â Llywodraethu. Mae canlyniadau newid cyfansoddiadol yn effeithio pob agwedd o fywyd domestig. Bydd gan bensaernïaeth penderfyniadau yn Ardal yr Ewro effaith wirioneddol ar berfformiad cwmni gweithgynhyrchu yng Nghymru. Go brin y byddai Alban annibynnol wedi taflu gweithwyr anabl ar y domen sgrap fel y gwnaeth San Steffan gyda Remploy. A hyd yn oed yng Nghymru, canlyniad y setliad datganoli cymharol gyfyngedig fu Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dilyn polisïau tra gwahanol o’i gymharu â’i sefydliad cyfatebol yn Lloegr.
Dyna pam rydw i’n fodlon cefnogi’r syniad, wedi’r refferendwm yn Yr Alban ar annibyniaeth, o gonfensiwn cyfansoddiadol eang ei ystod a fydd yn edrych ar y trefniadau rhwng holl genhedloedd y DU. Mae’r amseru yn holl bwysig. Byddai confensiwn cyn y dyddiad hwnnw yn anymarferol am na fyddwn yn gwybod a fydd y DU i barhau i fodoli yn ei ffurf gyfredol, a byddai trigolion Yr Alban yn hoelio’u sylw ar yr ymgyrch, nid y confensiwn. Byddai confensiwn wedi’r bleidlais nid yn unig yn gall, ond yn hanfodol, i drafod un ai’r trefniadau ar gyfer olynnydd-wladwriaeth neu oblygiadau datganoli i’r eithaf ar draws y DU.
Mae Plaid Cymru yn ymroddedig i rymuso pobl Cymru, a dyma pam rydym o’r farn y dylai Cymru, yn y pen draw, fod yn annibynnol, a byddem yn falch o’r cyfle i osod yr achos yma yng nghyd-destun unrhyw Gonfensiwn i’r dyfodol. Ond rydym hefyd yn sylweddoli (gan fathu ymadrodd) mai proses, nid digwyddiad, fydd ein taith tuag at genedl annibynnol. Rydym yn gafael yn dynn ym mhob cyfle i drafod sut gall pobl Cymru, drwy eu Senedd etholedig, ennill mwy o annibyniaeth yng nghyd-destun set o berthnasau ar yr ynys hon sy’n newid. Mae Carwyn Jones wedi awgrymu cyfnerthu llais Cymru yn San Steffan. Byddem ni’n dadlau nad ein llais sydd angen ei gyfnerthu ond ein dwylo fel Cymry ar liferi pŵer - ac nid dim ond y rhai yn Llundain ond ym Mrwsel hefyd.
Gallai confensiwn cynhwysol sydd wedi ei strwythuro’n gywir fod yn gyfle gwirioneddol i’r cyhoedd chwarae’u rhan yn y broses o ddiwygio cyfansoddiadol. Dyna pam y byddaf i yn galw ar i unrhyw gonfensiwn fod mor agored â phosib - fel gydag arbrawf diweddar Gwlad yr Iâ ar “crowd-sourcing” cyfansoddiadol- gyda rôl wirioneddol ar gyfer dinasyddion o ran awgrymu sut i fynd ati i ail-lunio ein llywodraethu. Wedi’r cwbl, mewn democratiaeth, mae pŵer i’w gyflwyno i wleidyddion gan ddinasyddion, er bod iaith datganoli yn drysu pa ffordd y dylai lifo. Mae hi’n amser troi ein cyfansoddiad yn ôl ar ei draed, a dychwelyd pŵer i’r man cywir.


