RSS BLOG Y LLECHEN

Trydanu: newyddion da, ond rhagor i'w wneud

17/07/2012

Newyddion da ar gyfer rheilffyrdd Cymru – ond mae angen gwneud rhagor

Rhodri Glyn Thomas AC, Llefarydd Plaid Cymru ar Drafnidiaeth

Heb os mae’r newyddion a ddaeth ddoe ynghylch trydaneiddio’r rheilffordd hyd at Abertawe gan gynnwys Rheilffyrdd y Cymoedd yn un positif.  Mae Plaid Cymru yn wirioneddol groesawu’r newyddion ac yn ei ystyried i fod yn gam ymlaen ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth Cymru.   Mae’r buddion economaidd a chymdeithasol ar gyfer y cymunedau dan sylw yn amlwg.  Rydym yn symud tuag at system reilffordd fwy gwyrdd, effeithiol a deniadol, o leiaf yn ne’r wlad.

Mae hyn yn bwysig nid yn unig ar gyfer y cyhoedd sy’n teithio, ond ar gyfer yr economi gyfan.  Yn ôl tystiolaeth o’r sector breifat a gyflwynwyd i Bwyllgor Menter y Cynulliad, seilwaith yw un o’r prif bethau y mae buddsoddwyr potensial yn edrych arno wrth wneud penderfyniadau ynghylch mewnfuddsoddi.

Mae Cymru yn haeddu newyddion da, ac mae gwleidyddion y gwahanol bleidiau mewn tymer dda am fod hyn yn cael ei ystyried i fod yn brosiect sy’n gwneud synnwyr da o ran busnes ac yn un sydd wedi ennill cefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol.  Rhaid inni hefyd gydnabod gwaith cyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, a enillodd gefnogaeth i’w syniad pan oedd ef yn dal swydd y Gweinidog Trafnidiaeth.  Rhoddodd Ieuan drydaneiddio ar yr agenda.  Cyn iddo wneud hynny, doedd y peth ddim yn flaenoriaeth wleidyddol i neb. 

Fodd bynnag, heb ddymuno ymddangos yn negyddol, gyda’r cyhoeddiad heddiw, dim ond  dal i fyny gyda Lloegr mae Cymru.  Am fod Llywodraeth y DU yn buddsoddi cyn lleied yng Nghymru,  hawdd yw gwirioni.   Mae trydaneiddio i Abertawe yn fuddsoddiad hollol normal yn ôl yr achos busnes cadarn a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU, sy’n parhau i fod yn gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.  Pe na bai trydaneiddio i ddigwydd i Abertawe a Rheilffyrdd y Cymoedd, byddai’r gost o adnewyddu locomotifau ar y llwybrau di-drydan wedi bod yn llai effeithiol na rhedeg trenau mwy newydd. 

Er cymhariaeth, trydaneiddiwyd y llinell o Glasgow i Lundain drwy Brif Linell Arfordir y Gorllewin yn 1974.  Mae cynlluniau cyfredol Llywodraeth Yr Alban yn cynnwys trydaneiddio’r llinell rhwng Caeredin a Glasgow, llwybr cymudwyr prysuraf y wlad.  Mae’n fwriad gan Lywodraeth Yr Alban  fuddsoddi £5bn mewn seilwaith rheilffyrdd hyd at 2019.  Yn anffodus, annhebygol yw hi y bydd Cymru yn cyflawni lefel cyfatebol o ddatblygiad yn yr un cyfnod.

Ar yr un amser, mae’r rhan fwyaf o ddinasoedd mawrion Lloegr yn cychwyn ar ddatblygu’r llwybr HS2, gyda £33bn o fuddsoddiad parhaus.  Tra bo hyn yn digwydd, dim ond uwchraddio o drenau disel i rai trydan cyfredol neu locomotifau hybrid fydd Cymru. 

Mae anomaledd y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU.  Mae’r cyllidebau yn bodoli ac maent yn nwylo Network Rail, ond yn cael eu trin yn gyffredinol ar sail Lloegr a Chymru.  Mae Llywodraethau Llafur a Cheidwadol olynol Llywodraeth y DU wedi derbyn y cyfrifoldeb hwn dros Gymru ac wedi methu â chyflawni arno.  Yn Yr Alban, datganolwyd y cyfrifoldeb dros seilwaith y rheilffyrdd, gan gynnwys y gyllideb ar gyfer Network Rail, yn 2006.  Tra bo’r Alban yn wynebu toriadau tebyg i Gymru o du San Steffan, mae’n eu hwynebu o safle llawer mwy manteisiol.

 

O edrych unwaith eto ar Loegr,  mae sefyllfa’r HS2 yn golygu goblygiadau llawer mwy arwyddocaol ar gyfer yr economi yng Nghymru.  Daeth cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y bydd trefi a dinasoedd ar hyd y llwybr HS2 yn elwa o lawer o swyddi newydd.  Os  yw Llywodraeth y DU yn gywir ynghylch hyn, bydd yn effeithio Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) Lloegr ar gyfradd gyflymach nag un Cymru, a bydd hyn yn effeithio ffyniant cymharol Cymru.  Yn syml iawn, ni fydd y gwario ar drafnidiaeth yng Nghymru cyfateb i’r hyn ydyw yn Lloegr, hyd yn oed os  ychwanegwn ni at gyfrifoldeb Llywodraeth y DU drwy ddefnyddio’r grant bloc Cymreig ein hunain a rhai o’n pwerau benthyca i’r dyfodol.

Ond mae Plaid Cymru yn hollol ffyddiog bod atebion i’r her hon.  Mae ein tîm yn San Steffan yn ymladd am gyfran deg o’r buddsoddiad HS2 drwy fformiwla ganlyniadol Barnett, a fyddai’n werth £1.9bn yn ôl ein cyfrifiadau cyfredol.  Hyd yn oed petawn i dderbyn y cyllido canlyniadol yma fesul diferyn dros gyfnod o flynyddoedd, byddai modd ei gyfuno gyda defnyddio pwerau benthyca er mwyn sbarduno trydaneiddio ar hyd gweddill y rhwydwaith reilffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys gogledd Cymru.  Drwy raglen o fuddsoddi fel hyn byddai modd cysylltu Cymru gyda’r llwybrau HS2 newydd yn Lloegr mewn dull manteisiol.   Nawr mae angen i Lywodraeth Cymru ymuno â’r ymgyrch hon, a da fyddai gweld cefnogaeth y grwpiau Ceidwadol  a Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad Cenedlaethol.   Mae cyhoeddiad ddoe ynghylch Abertawe yn dangos bod sefyll ynghyd wedi peri i Lywodraeth y DU wrando ar leisiau o Gymru.

Heblaw am hynny, mae angen datganoli swyddogaethau a chyllideb Network Rail yng Nghymru i Lywodraeth Cymru, fel ag y gwnaed yn Yr Alban.  Er clod iddynt, mae Network Rail wedi datganoli eu swyddogaethau canolog drwy greu llwybr rheoli a swyddfa berthynol yng Nghymru.  Mae hyn yn rhagflaenydd defnyddiol i ddatganoli llawn am mai dim ond ar sail Lloegr a Chymru y trefnodd Network Rail eu hunain yn y gorffennol, ac nid oeddent hyd yn oed yn cynhyrchu ffigyrau ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd yng Nghymru.  Mae setliad cyllido teg ar sail angen hefyd yn hanfodol yn hynny o beth, am y bydd gennym ni arian i fuddsoddi.  Os ydym ni am elwa yn y dyfodol, rhaid buddsoddi o’r cychwyn cyntaf.  Heb amheuaeth bydd Plaid Cymru yn pwyso ar i hyn ddigwydd yn ystod rhan 2 o Gomisiwn Silk.

I gloi, mae newyddion heddiw, fel y dywedodd Jonathan Edwards AS, yn golygu bod Cymru yn “cyrraedd ein lle haeddiannol”.  Ond nid ydym ni wedi ennill mantais tros ein cystadleuwyr a’n cymdogion eto.  Rhaid felly adeiladu ar sylfaeni’r cyhoeddiad a wnaed heddiw.  Os yw’r penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud yn y dyfodol agos ynghylch pwerau cyllidol a’r setliad ar ddatganoli, bydd modd inni gau’r bwlch rhyngom ni a gweddill y DU,  a gwneud hynny’n gynt.  Bydd Plaid Cymru yn gweithio’n galed tuag at y nod hwn.