RSS BLOG Y LLECHEN

Rhaid i'r cytundeb llaeth fod yn gam cyntaf tuag at degwch

24/07/2012

Y protestiadau diweddar yn y diwydiant yw’r tro cyntaf i rai fod wedi clywed am yr anawsterau a wynebir gan ffermwyr llaeth; ond i’r sawl sy’n gofalu am eu buchesi o ddydd i ddydd, efallai mai dyma ben draw eu hamynedd fel ffermwyr.

Ers blynyddoedd lawer, bargen sâl iawn gafodd ffermwyr o bob math pan ddaw’n fater o gael pris teg am eu llafur, a hynny oherwydd yr anghydbwysedd grym rhwng ffermwyr a’r dosbarthwyr a’r archfarchnadoedd. O ganlyniad, mae’r DG yn colli tri o ffermwyr llaeth yr wythnos. Dim ond 1,904 o ffermwyr llaeth sydd ar ôl yng Nghymru a dim ond 10,724 yn y DG, o gymharu â bron i 17,000 ddegawd yn ôl.

Mae angen newid sylfaenol yn y berthynas hon a blaenoriaethau’r diwydiant os ydym am sicrhau y bydd gennym ddiwydiant bwyd a diod hyfyw yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae’r diwydiant wedi cyrraedd cyfnod tyngedfennol:

- mae prisiau llaeth yn is na chost ei gynhyrchu - does dim angen bod yn economydd i sylweddoli nad yw hyn yn gynaliadwy.

- Mae’r farchnad fel y mae yn awr wedi ei ‘rigio’, gyda’r archfarchnadoedd yn meddu ar bwerau enfawr - unbenaethol, hyd yn oed - dros broseswyr a chynhyrchwyr i gadw prisiau yn artiffisial o isel. Does neb i gadw golwg ar y grym hwn, gan mai’r archfarchnadoedd yn aml yw’r unig werthwyr sydd ar gael. Mae cynhyrchwyr yn cael eu gorfodi i ufuddhau i’w gofynion - does ganddyn nhw mo’r grym i’w herio. Mae pobl yn gyndyn iawn o feirniadu yn agored na chodi cwestiwn, am eu bod ofn cael eu bwrw o’r neilltu. Ai hyn yw ‘cyfalafiaeth gyfrifol’?

- Ac eto, mynnodd llywodraeth y DG na fydd yn ymyrryd yn y farchnad. Mae fel petae ganddynt wrthwynebiad ideolegol i unrhyw fath o ymyriad i gadw pethau’n fwy gwastad. Maent hyd yn oed yn gyndyn i roi unrhyw bwerau gwirioneddol neu ystyrlon i’w ombwdsmon groseriaeth y buont mor uchel eu cloch yn ei gylch – lle mae’r pwerau sylweddol; megis y gallu i ddirwyo’r sawl sy’n dilyn arferion annheg?

Dylid croesawu’r cyhoeddiad a wnaed ddoe (Llun, Gorffennaf 23) y daethpwyd i gytundeb rhwng proseswyr a chynhyrchwyr, ac edrychwn ymlaen yn awr at mwy o ddatblygiadau cadarnhaol dros yr haf. Yn ddiweddar, bu Plaid Cymru yn galw am gontractau llaeth gorfodol er mwyn sicrhau bargen deg, a chyflwynodd Jill Evans ASE welliannau i becyn laeth yr UE yn unol â hynny; dim ond i weld y Ceidwadwyr yn gwanhau’r pecyn yn eu trafodaethau terfynol.

Gall Lywodraeth Cymru hefyd gyflwyno pecyn llaeth annibynnol i ffermwyr Cymru, ac fe ddylai parhau i ystyried hyn os nad yw’r cytundebau gwirfoddol yn effeithiol.

Rydym yn fwy na balch i weld ymdrechion i gytuno ar gontractau yn wirfoddol, ond rhaid gadael y posibilrwydd i wneud bargeinio teg yn orfodol fel dewis at y dyfodol.

Hefyd, ni ddylai’r pwnc yn awr gael ei anghofio hyd nes y daw’r argyfwng nesaf. Mae llawer mwy i’w wneud ac y gellir ei wneud ar ddau ben yr M4 i gael bargen decach fyth.

Cwestiwn ydyw o holi buddiannau pwy sy’n cael eu blaenoriaethu: y ffermwyr llaeth sy’n ymdrechu’n galed i gael dau ben llinyn ynghyd oed ar 25c y litr, neu’r archfarchnadoedd y mae eu helw ar litr o laeth wedi cynyddu bedwarplyg dros y 15 mlynedd diwethaf?

Wrth gwrs, mae pawb am i’r archfarchnadoedd sicrhau prisiau is i ddefnyddwyr. Ond os yw’r pris hwnnw yn y tymor byr yn golygu colli ffermwyr, a diwydiant cyfan a ffordd o fyw yn y tymor hir, rwy’n siŵr y cytunai’r rhan fwyaf o bobl y buasai hynny’n ormod i’w dalu.

Os am sicrhau y bydd ein ffermydd llaeth yn hyfyw, rhaid cyfrannu mwy. Beth allwn ni wneud?

Fel defnyddwyr, rhaid i ni fod yn barod i fynd i’n pocedi i dalu ychydig geiniogau yn fwy am beint o laeth. Efallai nad yw tair neu bedair ceiniog yn ychwanegol yn swnio’n llawer i ni am beint o laeth, ond gall olygu’r gwahaniaeth rhwng gorooesi neu fynd i’r wal i ffermwr llaeth sy’n codi am 4 y bore. Honna’r NFU y bydd y toriad diweddar o ddwy i dair ceiniog a delir i gynhyrchwyr am bob litr o laeth yn costio rhyw £37,000 mewn refeniw i ffermwr arferol gyda 150-200 o wartheg.

Gallwn hefyd siopa yn fwy lleol lle medrwn, gan brynu cynnyrch lleol lle bo modd a’i fod yn fforddiadwy.

Dylem hefyd weithio gyda’r hyn sydd gennym; efallai bod yr ombwdsmon groseriaeth yn wan o’i gymharu â syniad gwreiddiol Simon Thomas o’r Blaid ddegawd yn ôl, ond y mae i’r cynllun rai pwyntiau buddiol. Mae iddo ddwy brif swyddogaeth - cyflafareddu mewn anghydfod, a’r rhyddid i ymchwilio. Ni fydd yn gorfod rhoi barn ar lawer anghydfod am nad oes gan neb y grym i godi llais yn erbyn yr archfarchnadoedd ar hyn o bryd. Ond os mai ymchwilio y bydd i’r diwydiant llaeth, gallai ddarparu corff o dystiolaeth i annog defnyddwyr i ailfeddwl am eu harferion siopa, yn ogystal â gallu cyfiawnhau cael hyd yn oed llywodraeth Dorïaidd i ymyrryd mewn marchnad sydd wedi ei rigio.

Gallai’r llywodraeth ddeddfu i roi’r dewis i ffermwyr dynnu’n ôl o gontractau â chynhyrchwyr gyda rhybudd o ddau neu dri mis, dyweder. Byddai hyn yn rhoi grym i ffermwyr ac yn eu rhoi mewn sefyllfa gryfach o lawer i drafod ‘bargen deg’ gyda’r proseswyr. Gellid cynyddu’r cosbau hefyd am arferion annheg megis cydgynllwynio ar brisiau.

Dylai Llywodraeth Cymru hefyd gadw’r dewis o ddeddfu ar gontractau llaeth. Os na fydd pecyn llaeth yr UE yn cyflawni ei nod, rhaid i’r dirprwy weinidog fod yn ddigon dewr i weithredu yn annibynnol. Dylai’r dirprwy weinidog hefyd edrych ar fwy o ffyrdd i gynnal creu mentrau llaeth cydweithredol.

Gall canu clodydd peidio ag ymyrryd a rhoi rhwydd hynt i’r farchnad fod yn boblogaidd o hyd ymysg y consensws gwleidyddol Llafur/Torïaidd, hyd yn oed ar ôl gweld beth ddigwyddodd ym myd y banciau.

Dangosodd yr argyfwng hwn nad yw’r farchnad yn wastad yn deg. Mae’r farchnad yn bygwth bywoliaeth ffermwyr llaeth ledled Cymru. Rhaid edrych ar y fargen a wnaed ddoe fel cam cyntaf, nid yr olaf, i unioni’r cam.