Elin Jones: Plaid Cymru ac ail-gyflunio’r GIG
25/07/2012
Plaid Cymru ac ail-gyflunio’r GIG
Dyma fi’n rhoi fy hanes i am y rhesymau pam i mi gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd. Ai oherwydd ambell i ebost ‘trwsgwl’ oedd hyn, ynteu ai oherwydd y ffaith ei bod hi a’r Prif Weinidog yn gyson yn gwrthod derbyn cyfrifoldeb am y GIG a darparu cynllun cenedlaethol clir ar gyfer ei ailgyflunio yn y dyfodol.
Mae’r GIG yn dod dan bwysau ariannol enbyd, ac y mae ar fin cychwyn ar gyfnod o ymgynghori ar ail-gyflunio ei gwasanaethau ar raddfa fawr. Dyma’r storm berffaith- gwrthdrawiad pwysau tymor-byr a newidiadau tymor-hir. Ac mae’n digwydd yn awr, yr haf hwn, dan gyfrifoldeb y Gweinidog Iechyd hwn a’r Llywodraeth Lafur hon.
Mae Byrddau Iechyd wrthi’n nerfus yn trafod sut y gallant gymryd mesurau yn awr i gwtogi ar wasanaethau, torri ar staff, wardiau a hyd yn oed ysbytai cymunedol er mwyn cadw y tu mewn i’w cyllidebau. Ar yr un pryd, mae’r Byrddau Iechyd hefyd yn dod i ben â’u cynlluniau am ail-gyflunio gwasanaethau fydd yn ceisio canoli rhai gwasanaethau ymaith o’n Hysbytai Dosbarth Cyffredinol. Bedwar munud wedi’r bleidlais Diffyg Hyder ddydd Mercher diwethaf, datgelodd BIP Betsi Cadwaladr eu cynlluniau ail-gyflunio. Ymatebwyd gydag anghredinedd i rai o’r cynigion hyn, a’r si yw mai blaenoriaethau gwleidyddol yn hytrach na blaenoriaethau clinigol oed di gyfrif am rai o’r penderfyniadau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd lawer gwaith y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd. Mae’r penderfyniadau hynny yn effeithio ar y gwasanaethau sydd ar gael i’m hetholwyr ac etholwyr pawb arall. Mae tryloywder a gonestrwydd wrth gymryd penderfyniadau mor bellgyrhaeddol yn hanfodol. Efallai y byddaf yn anghytuno a rhai o’r penderfyniadau a gymerwyd, ond rwy’n cytuno fod gan y Gweinidog yr hawl ddemocrataidd i wneud y penderfyniadau hynny. Fodd bynnag, ei hochr hi o’r fargen yw bod yn rhaid iddi fod yn onest ac atebol wrth wneud ei phenderfyniadau. Bu llawer ohonom yn ymgyrchu dros ein Senedd yng Nghymru, ac nid gwneud hynny a wnaethom i Weinidogion Cymru osgoi eu cyfrifoldebau a’u hatebolrwydd.
Ers rhyddhau’r ohebiaeth ebost rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Athro Marcus Longley, codwyd cwestiwn unwaith eto am dryloywder yr atebolrwydd hwnnw.
Adeg rhyddhau’r e-byst, gelwais ar y Gweinidog Iechyd i wneud datganiad rhag blaen i esbonio’r croesddweud rhwng ei honiad ar 9 Mai, wrth lansio’r Adroddiad, mai un annibynnol ydoedd, a chynnwys yr e-byst oedd yn awgrymu i’r gwrthwyneb.
Yr oedd ymateb y Gweinidog yn hollol anfoddhaol, yn ceisio osgoi’r cyfrifoldeb a chuddio unwaith eto y tu ôl i Adroddiad Marcus Longley. Y prynhawn hwnnw, cytunodd arweinwyr y 3 Gwrthblaid i gyflwyno dadl o Ddiffyg Hyder y dydd Mercher canlynol. Yn y cyfamser, rhoddais i gynnig gerbron yn y Pwyllgor Iechyd, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, yn galw ar y Gweinidog, ei swyddogion a Marcus Longley, i ddod i’r Pwyllgor Craffu Iechyd ar fore dydd Mercher y bleidlais Diffyg Hyder. Roeddwn yn glir yn fy meddwl fy hun ac yn fy nhrafodaethau gydag eraill oedd â diddordeb, petai’r Gweinidog yn derbyn nad oedd yr Adroddiad yn hollol annibynnol ar y Llywodraeth, yna na fyddai Plaid Cymru yn cefnogi’r bleidlais o Ddiffyg Hyder y prynhawn hwnnw.
Yr oedd yr hyn ddigwyddodd yn waeth. Glynodd y Gweinidog yn fwy cadarn at ei safbwynt a daeth mwy o dystiolaeth i law oedd yn profi fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Marcus Longley ar Adroddiad yr Achos dros Newid. Cyn hynny, roedd y Gweinidog wedi pwysleisio dro ar ôl tro mai cyfrifoldeb Prif Weithredwyr y BILl oedd proses gomisiynu’r Adroddiad. Yn y Pwyllgor, datgelwyd fod Cofnodion Bwrdd 5 o’r 8 Bwrdd Iechyd yn datgan yn glir mai Llywodraeth Cymru oedd mewn gwirionedd yn gweithio gyda Marcus Longley. Doedd dim modd i’r ddwy fersiwn fod yn wir.
Clywsom hefyd Marcus Longley yn y Pwyllgor Iechyd yn methu dwyn i gof pwy awdurdododd na rhoi cychwyn ar ysgrifennu’r Adroddiad. Ac erys bodolaeth contract neu gylch gorchwyl am y gwaith yn ddirgelwch o hyd, er i £29,000 gael ei dalu am yr Adroddiad.
Yn fy marn i, dengys yr holl dystiolaeth fod Llywodraeth Cymru, BILl, Cydffederasiwn y GIG oll yn hyn gyda’i gilydd - pob un mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yn gweithio gyda Marcus Longley i gomisiynu a rhoi sylwadau arno.
Fodd bynnag, yn fy marn i, yr oedd yn amlwg hefyd fod Marcus Longley yn hollol fodlon mai ei gasgliadau ef oedd y casgliadau, ac ni fu ei hygrededd academaidd erioed yn bwnc trafod i mi. Mae ganddo thesis y bu’n dal ati ers amser maith ac fe geisiodd dystiolaeth i’w ategu - ac mewn rhai mannau, mae’r dystiolaeth honno yn bod ac mewn eraill, nid yw’n bod.
Fodd bynnag, erys y ffaith fod y Gweinidog, yn wyneb pob tystiolaeth i’r gwrthwyneb, wedi gwrthod bod yn onest a chyfaddef fod Llywodraeth Cymru, BILl a Chydffederasiwn y GIG ynghyd yn hyn yn paratoi’r achos dros ail-gyflunio.
Dim o’i le a hynny. Buasai’n safbwynt gonest i’w gymryd - a buasai’r Gweinidog yn atebol i’r Cynulliad am yr ail-gyflunio.
Yr hyn oedd o’i le oedd bod y Gweinidog yn parhau i fynnu fod Llywodraeth Cymru, Prif Weithredwyr y BILl, Cydffederasiwn y GIG ac Adroddiad Longley oll yn annibynnol ar ei gilydd.
Collwyd y bleidlais y diwrnod hwnnw, a bu’n destun llawer o ddadlau gwleidyddol. Ni wnaf sylw am hynny yma, ond fel eraill, byddaf yn dweud fy nweud un dydd – ond ar adeg ac mewn modd na fydd yn niweidiol i’r Blaid.
Am y tro, carwn atgoffa pawb i Lywodraeth Cymru’n Un roi blaenoriaeth wleidyddol glir i GIG oedd ar gae ar bwynt angen ac i bob cymuned yng Nghymru. Yr oedd yn ystyriaeth allweddol wrth i’r Blaid lofnodi cytundeb y glymblaid yn 2007. Cyn etholiad diwethaf y Cynulliad, rhybuddiodd Plaid Cymru y buasai Llafur yn cyflwyno rhaglen o israddio ysbytai Dosbarth Cyffredinol. Maent wedi gwrthod bod yn onest gyda phobl Cymru ar y mater hwn ac yr ydym bellach yn gweld realiti’r broses o israddio a chanoli ledled Cymru. Mae Llafur hefyd yn gwadu fod y GIG dan bwysau ariannol. Maent yn ceisio osgoi atebolrwydd polisi ac ariannol ar yr un pryd – er mwyn iddynt allu parhau i chwifio eu placardiau Llafur ar risiau’r Senedd i gefnogi Ysbyty’r Tywysog Phillip ac eraill! Y fath ragrith wynebgaled!
Yn olaf, mewn munud arbennig o Gymreig, fe wnes baned o de i Lesley Griffiths ar y diwrnod y rhoddais y Cynnig Ddiffyg Hyder gerbron. Wedi hynny, awgrymodd Cynog Dafis y dylwn eistedd i lawr gyda’r Gweinidog Iechyd eto a thrafod sut orau i lunio’r GIG yng Nghymru. Buasai’n anodd gwneud hynny a hithau yn parhau i wadu unrhyw wybodaeth neu gyfrifoldeb am gynlluniau ail-gyflunio’r GIG. Fodd bynnag, os digwydd iddi ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw a cheisio darparu cynllun cenedlaethol clir i’r GIG yng Nghymru, yna fe fuaswn yn barod i eistedd i lawr gyda hi unrhyw ddydd - ac fe gaiff hi wneud y baned tro nesaf.
Elin Jones



