Dysgu gwers i'r Annibynwyr a ni'n hunain
03/08/2012
Ar y 12fed o Orffennaf, cipiodd Vaughan Hughes sedd Llanbedrgoch i Blaid Cymru mewn is-etholaid ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn. Roedd pedwar yn y ras - dau ymgeisydd annibynnol, un UKIP ac un Plaid Cymru, a chafodd ein hymgeisydd ei ethol gyda mwyafrif o 90 o bleidleisiau.
Er bod Llanbedrgoch yn gefnogol i'r Blaid ar y cyfan, 'roedd yna waith mawr i'w wneud yn y rhannau o'r sedd oedd yn cynnwys Traeth Coch a Benllech. Oes yna wersi i'w dysgu o'r frwydr hon all helpu'r Blaid i gael mwyafrif ar Gyngor Môn y flwyddyn nesaf? Cawn ymateb ein Cynghorydd newydd isod.
Dysgu gwers i'r Annibynwyr a ni'n hunain
Roeddem ni’n gwybod ein bod ni wedi cael ymgyrch dda. Ac roedd ein gwrthwynebwyr yn gwybod hynny hefyd. Dyna pam y dosbarthwyd taflen yn enw “Aelodau Annibynnol o Gyngor Sir Ynys Môn” ar y noson cyn yr etholiad yn fy nghyhuddo o balu celwyddau drwy gydol yr ymgyrch. Nid yn unig hynny ond fi fel newyddiadurwr oedd yn gyfrifol am yr enw drwg a gafodd y cyngor dros y blynyddoedd diwethaf: “It is journalism that has given Anglesey such a tarnished reputation.” / “Newyddiaduraeth sydd wedi tarneisio (sic) enw da Môn.” Roedd gosodiad o’r fath yn chwerthinllyd. Ac yn drist. Os mai dyna maen nhw’n ei gredu o ddifrif, dydyn nhw ddim wedi dysgu unrhyw beth o gwbl o’r holl ddigwyddiadau a wnaeth Cyngor Môn yn destun sbort. O ran tegwch, fe wn i’n dda bod y mwyafrif o’r cynghorwyr wedi dysgu gwersi. Yn wahanol i’r cynghorwyr annibynnol hynny a geisiodd droi’r etholwyr yn fy erbyn.
Mae’n amhosib dweud pa effaith a gafodd y daflen ar y canlyniad. Efallai iddi fy helpu. Doedd yr etholwyr i gyd ddim mewn sefyllfa i farnu i sicrwydd a oeddwn i wedi bod yn dweud celwydd ai peidio wrth ymgyrchu. Ond gwyddai pawb yn ddiwahân pa mor hurt oedd beio newyddiaduraeth am broblemau’r Cyngor. Pwy fedrai gredu mewn cynghorwyr annibynnol a bedlerai’r fath rwtsh?
Mae’n debyg fy mod i wedi cael fy ngwahodd i sgwennu’r pwt hwn er mwyn dangos sut yr aeth tîm y Blaid ati i ymladd ac ennill etholiad mewn ardal sydd ddim yn or gefnogol inni fel rheol. Ond dylid bod yn ofalus iawn cyn ceisio cymhwyso ein profiad yn is etholiad ward Llanbedrgoch i’r sefyllfa yng Nghymru gyfan.
Fel sy’n amlwg i bawb roedd ymddygiad Cyngor Sir Ynys Môn - neu ganfyddiad pobol, yn gam neu’n gymwys, o’r ymddygiad hwnnw - yn bwrw ei gysgod dros yr etholiad. Yn wir ymddiswyddiad cynghorydd a waharddwyd am chwe mis o’r Cyngor oedd achos yr ornest yn y lle cyntaf.
Yn wahanol i bobman arall ym Mhrydain fu dim etholiadau cyngor sir ym Môn eleni. (Ac eithrio isetholiadau.) Gohiriwyd nhw gan Lywodraeth Cymru tan y flwyddyn nesaf er mwyn adrefnu strwythur llywodraeth leol ar yr ynys. Erbyn hynny bydd gan Fôn ddeg yn llai o gynghorwyr, a’r 30 a fydd yn weddill yn cynrychioli wardiau aml-aelod llawer iawn mwy o ran poblogaeth ac arwynebedd tir na’r wardiau presennol.
Mae hynny’n cael ei ddehongli fel ymgais gan Fae Caerdydd i dorri crib rhai cynghorwyr dylanwadol a drodd y wardiau y maen nhw’n eu cynrychioli yn rhyw fath o “deyrnasoedd” iddynt hwy ei hunain. Y syniad ydi y bydd wardiau mawr aml-aelod yn gwanhau gafael y bobol hynny. Annibynwyr ydyn nhw. A gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd ymgeiswyr ar ran y pleidiau gwleidyddol yn eu herio yn etholiadau 2013.
Ar garreg y drws, delwedd Cyngor Môn oedd prif bryder y mwyafrif llethol o’r etholwyr.
Fe ddaru pawb,bron, dderbyn , mewn egwyddor o leiaf, y ddadl mai pleidlais i ymgeisydd Plaid Cymru - ac i ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol go iawn eraill, pwysleisiais - fyddai’n sicrhau atebolrwydd a disgyblaeth ar Gyngor Môn. Mae rheswm da dros hynny, wrth gwrs. Cytunai pawb na fyddai'r un blaid wleidyddol yn caniatáu i’w chynghorwyr ymddwyn mewn modd a fyddai’n dwyn anfri ac yn gwneud drwg etholiadol i’r blaid honno.
Golyga helbulon y Cyngor bod y sefyllfa ym Môn yn anarferol ac yn anghynrychioliadol. Ond ar ôl dweud hynny dyw’r fuddugoliaeth a gafodd tîm y Blaid yn ward Llanbedrgoch ddim yn amherthnasol i’n hymdrechion mewn rhannau anodd eraill o Gymru. Wrth neilltuo amser i guro ar ddrysau ac i ddal pen rheswm efo’r etholwyr roedd modd dwyn perswâd arnyn nhw i ymddiried ym Mhlaid Cymru. A hynny am y tro cyntaf, meddan nhw, mewn sawl achos Dyna brofi bod brand Plaid Cymru yng nghyd-destun gwleidyddiaeth y Gymru ddatganoledig yn un hollol dderbyniol, hyd yn oed yng ngolwg pobol ddŵad a fu’n amharod hyd yn hyn i’n cefnogi. (Nid dweud ydw i nad yw mewnfudwyr yn cefnogi’r Blaid o gwbl. I’r gwrthwyneb. Go brin y byddai Ieuan Wyn Jones wedi cynrychioli’r ynys am 25 mlynedd heb gefnogaeth nifer dda ohonyn nhw. Dyfalaf hefyd bod Pleidwyr eraill, fel Dafydd Elis Thomas, wedi dibynnu’n drwm ar y bleidlais honno.)
Fynnwn i ddim gwadu, fodd bynnag, mai yn y Cymreiciaf o bentrefi’r ward, Llanbedrgoch, y cefais i a’r Blaid y sylfaen ar gyfer ein buddugoliaeth. Ond addawyd pleidleisiau imi hefyd gan drigolion Traeth Coch, y llecyn mwyaf Seisnigaidd yn y ward.Yno mewn pedair awr o ganfasio calonogol ac adeiladol dim ond dau Gymro ddaru ni eu cyfarfod. Sylw sych cadeirydd Plaid Cymru ar yr ynys, Huw Goronwy, brodor o Draeth Coch, oedd ein bod yn ffodus i ddod o hyd i gymaint â hynny o Gymry.
Mae’n gwbl amlwg i mi na fyddem ni wedi ennill drwy ddibynnu’n unig ar gefnogaeth y lleiafrif o Gymry ar y rhestr etholwyr. Traddodiadol - a cheidwadol iawn - ydi’r Blaid mewn llefydd fel Môn. Hafan uniaith Gymraeg o’r hen fyd mawr Saesneg y tu allan yw ein canghennau a’n pwyllgor rhanbarth. Mae rhan fawr ohonof yn llawenhau yn hynny. Mae hi’n braf cael siarad Cymraeg a dim byd ond Cymraeg. Ond fedrwn ni ddim disgwyl cael pleidleisiau Saeson heb inni hefyd, yn hwyr neu’n hwyrach, estyn croeso iddyn nhw i’n gweithgareddau. Cyn iddi fynd yn rhy hwyr …
Fasa cyfieithu ar y pryd yn ddiwedd y byd? Na fyddai, wrth gwrs. Dim ond y byddai’n costio. Ond wrth iddyn “nhw” gynyddu ac i “ni” grebachu, mae pris i’w dalu hefyd am lynu at y cysurus a’r cyfarwydd.


