RSS BLOG Y LLECHEN

Pam rhoi pleidlais i bobl 16 oed?

23/08/2012

Luke NicholasLuke Nicholas yw ymgeisydd Plaid Cymru dros De Caerdydd a Phenarth. Mae'n byw yn  Grangetown, Caerdydd. ·

Follow him on twitter

 

Heddiw (Dydd Iau 23ain o Awst) fe fydd pobl ifanc ar draws Cymru yn codi’n gynnar llawn cynnwrf ac yn teithio i’r ysgol er mwyn darganfod eu canlyniadau TGAU.

Fe fydd llawer o’r bobl ifanc yma yn gwybod beth sydd o’u blaenau am y blynyddoedd nesaf o’u bywydau – y chweched, prifysgol (os ydynt yn gallu fforddio)  ac yna, gobeithio, ymlaen i swyddi boddhaus.  Er hynny, fe fydd llawer yn wynebu cyfnod o ansicrwydd. Mae diweithdra ymysg pobl 16-17 oed, fel adroddwyd gan y Western Mail, ar hyn o bryd yn 35.4%. Mae hyn, er yn sylweddol llai na rhannau eraill o Ewrop, yn llawer rhy uchel.

Yn fy etholaeth i sef De Caerdydd a Phenarth, yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 1,074 o bobl dan 24ain yn hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith.

Mae’n glir bod pobl ifanc ymysg y grwpiau o bobl sy’n dioddef yn sgil effaith y dirwasgiad a’r toriadau mewn gwariant cyhoeddus ond dydi’r rheini sydd dan 18 ddim yn gallu dylanwadu ar bwy sy’n gwneud y penderfyniadau.

Mae’r toriadau a orfodir arnom gan Lywodraeth San Steffan, yn enwedig mewn meysydd tai, cefnogaeth i elusennau ieuenctid ac addysg uwch yn cael effaith anghymesur ar bobl ifanc.

Yn Ynys Môn, ble etholir cyngor newydd yn 2013, mae 500 o bobl ifanc yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith.  Gan ystyried maint Ynys Môn ac ymadawiad pobl ifanc sydd eisoes wedi digwydd mae’r broblem yn un sylweddol.  Dwi’n gwybod y bydd tîm Plaid Cymru Ynys Môn yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn rheng flaen eu hymgyrch.

Mae’r heriau yr ydym yn wynebu wrth gyrraedd anghenion poblogaeth sy’n heneiddio, gyda’r trosglwyddiad anochel mewn adnoddau, yn golygu bod pobl ifanc angen llais ym mhob etholiad rŵan mwy nag erioed. Gan maen nhw fydd yn debygol o ddioddef trwy’r cyfnod o lymder ariannol fe ddylai nhw o leiaf gael yr hawl i helpu taflu’r rheini sydd wedi eu gadael nhw lawr yn gyson allan o’u swyddi.

Mae Llywodraeth yr Alban yn ymgynghori ar hyn o bryd i weld os dylai pobl ifanc sy’n 16 mlwydd oed dderbyn y bleidlais ar gyfer y refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban. Mae hyn wedi rhoi ysgogiad yn yr Alban i’r syniad o leihau’r oedran pleidleisio i 16 ac wedi rhoi sbardun newydd i’r mudiad sy’n ymgyrchu dros hyn.  Fe ddylwn barchu pobl ifanc rhwng 16-18 ddigon i gydnabod eu bod nhw’n gallu gwneud penderfyniadau deallus ar ddyfodol eu gwlad, ac os felly fe allant hwy wneud penderfyniadau am bwy ddylai eu cynrychioli yn yr haeni wahanol o lywodraeth.

Mae’r hen ddadleuon dros ganiatáu pleidleisio yn 16 oed wedi eu gwneud droeon, digon hen i dalu treth, ymuno a’r fyddin ayyb. Y ffaith ydi bod gwleidyddion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc, ac nid oes gan rheini sy’n iau na 18 unrhyw lais. Os yw eich penblwydd yn digwydd disgyn ar yr adeg anghywir fe allwch wynebu sefyllfa lle nad ydych yn cael pleidleisio mewn Etholiad Cyffredinol Cymreig tan ydych yn 22ain mlwydd oed. Os ydych chi, fel fi, wedi bod mewn swydd cyn neu yn ystod eich blynyddoedd addysg, rydych wedi cael eich effeithio gan ddeddfwriaeth cyflogaeth y DG, trethi cyflogaeth, Yswiriant Cenedlaethol, a sawl mater economaidd arall. Os gallai digon o bobl ifanc bleidleisio mewn etholiadau a gweithredu o blaid eu buddiannau, fe allent gydfargeinio dros y materion sy’n eu heffeithio a sicrhau statws mwy teg a chyfiawn yn y gweithle.

 

Nid yw hyn yn golygu bod rhaid i bobl ifanc rhwng 16-18 gymryd rhan yn y broses os nad ydynt yn dymuno. Mae’n ddadl hollol ddilys i awgrymu nad ydi sefydliadau gwleidyddol cyfredol yn gweithio yn iawn ac yn deilwng o’n cyfranogaeth. Y peth olaf yr ydym ni ym Mhlaid Cymru eisiau gwneud ydi amddiffyn system sy’n methu a  sefydliadau sy’n fethedig.

Ein neges i bleidleiswyr ydi bod Plaid Cymru yn blaid wleidyddol wirioneddol Gymreig fydd yn herio a diwygio’r sefydliadau gwleidyddol a chreu system wleidyddol Gymreig sydd yn agosach at ein pobl a’n gwerthoedd.

Uwchlaw popeth, fe ddylid corffori’r hawl i bleidleisio neu i atal pleidlais ar gyfer ein pobl ifanc.

Nid yw caniatáu pobl i bleidleisio yn 16 mlwydd oed am ddatrys yr holl broblemau maent yn wynebu. Mae hwn yn gwestiwn o hawliau cyfartal ac efallai y bydd gwleidyddion yn blaenoriaethu’r problemau difrifol sy’n wynebu ein pobl ifanc.Â