RSS BLOG Y LLECHEN

O'r Senedd: Alun Ffred Jones ar y system rheilffyrdd

23/10/2012

Alun Ffred Jones AC, Gweinidog Cysgodol Datblygu Economaidd, sy’n ysgrifennu o’r Senedd…

Cynhaliodd Plaid Cymru ddadl yn ddiweddar ar wasanaethau rheilffordd yng Nghymru. Mae hwn yn amser pwysig i edrych ar ddyfodol y fasnachfraint reilffordd i Gymru, gyda masnachfreintiau yn Lloegr (rhai ohonynt yn effeithio ar Gymru) yn cael enw drwg.

Ein polisi presennol yw model nid-am-ddifidend i fasnachfraint Cymru a’r Gororau pan ddaw’n bryd ei adnewyddu yn 2018. Yr ydym eisoes wedi sicrhau ymrwymiad gan y Cynulliad a’r Llywodraeth i edrych i mewn i weld pa mor ddichonadwy yw hyn. Rydym eisiau ymchwilio yn llawn i bob dewis posib.

Gallai hyn gynnwys perchenogaeth gyhoeddus, neu fenter gydweithredol, neu gorff hyd-braich annibynnol megis Network Rail neu Glas Cymru. Gwnaeth ein harweinydd Leanne Wood araith ardderchog lle galwodd am i’r elw o deithiau rheilffyrdd cael ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau.

Dywedodd Llyr Huws Gruffydd y byddai modd troi difidendau o ryw £10m y flwyddyn yn ôl i wella gwasanaethau petae gennym fodel nid-am-ddifidend. Dywedodd hefyd, ar bwnc perchenogaeth gyhoeddus, fod model o’r fath eisoes yn bodoli ar fasnachfraint Arfordir y Dwyrain yn Lloegr lle mae Directly Operated Railways sydd mewn perchenogaeth gyhoeddus yn gwneud yn dda iawn. Ers rhwystrau cyfreithiol cibddall rhag ymestyn y model hwn i Gymru, gan ei fod, yn anffodus, yn bod fel darpariaeth argyfwng yn unig, ond nid yw Plaid Cymru am weld ei gau allan yn gyfan gwbl.

Galwasom hefyd am ddatganoli’r seilwaith rheilffyrdd i Gymru yn unol â’r hyn ddigwyddodd yn yr Alban. Buasai arian dilynol Barnett uniongyrchol bron yn sicr yn arwain yn awtomatig at gynnydd mewn buddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru, dros a thu hwnt ymrwymiad presennol llywodraeth y DG i drydaneiddio.

Y gwir berygl sy’n amlygu ei hun yw bod trydaneiddio’r lein i Abertawe bellach yn cael ei ddefnyddio gan bleidiau clymblaid y DG i gyfiawnhau dim mwy o fuddsoddiad yng Nghymru, y tu hwnt i addewid niwlog gan y Dem Rhyddion am y gogledd. Mae perygl y bydd llywodraeth y DG yn defnyddio’r un buddsoddiad hwn fel esiampl o’r hyn wnaethant dros Gymru, ar waetha’r ffaith i mi ddarganfod tystiolaeth sy’n dangos nad yw Cymru ar hyn o bryd ond yn derbyn rhwng 2-3% o wariant y DG ar seilwaith rheilffyrdd, yn bennaf am ein bod yn cael ein trin ar sail Cymru a Lloegr. Ar y llaw arall, mae’r Alban fel petai’n cyfrif am 25% o wariant y DG ar reilffyrdd.

Mae Plaid Cymru yn bendant o’r farn mai dechrau’n unig yw trydaneiddio hyd at Abertawe a Lein y Cymoedd. Mae angen i ni gael rheolaeth Gymreig dros seilwaith rheilffyrdd cyn y cyfnod buddsoddi nesaf sy’n cychwyn yn 2019/20 a gosod ymrwymiad go-iawn i drydaneiddio’r gogledd a chreu swyddi cynaliadwy yno.

Diweddodd Simon Thomas y ddadl gyda phwynt ardderchog. Yr oedd llefarydd y Ceidwadwyr ar Drafnidiaeth wedi gwneud sylwadau eithaf diddeall am “reilffyrdd y sector cyhoeddus” a wrthwynebwyd gan Simon; nododd ef fod gan lywodraeth rôl gadarnhaol a hanfodol i’w chwarae mewn trafnidiaeth rheilffyrdd, gan ymdrin â methiant y farchnad yn benodol.

Fodd bynnag, dywedodd Simon hefyd fod angen i Lafur ddatganoli mwy os ydynt am wireddu ymrwymiad eu maniffesto am fodel nid-am-ddifidend. Mae’r penderfyniad terfynol ar adnewyddu’r fasnachfraint yn fater ar y cyd i lywodraethau Cymru a’r DG. Derbyniodd y Gweinidog Llafur fod hyn yn wir. Mae angen i Lafur fabwysiadu hyn fel ymrwymiad gwleidyddol ac argyhoeddi hierarchaeth eu plaid yn Llundain. Rydym eisoes wedi gosod yr agenda a byddwn yn parhau i bledio’r achos.

Cyflëwyd neges Plaid Cymru am reilffyrdd yn glir iawn yn y ddadl; yn erbyn darnio a chystadlu, ac o blaid integreiddio, buddsoddi a rhoi’r ethos cyhoeddus yn ôl i reilffyrdd Cymru. Un o’n prif amcanion yw symud rheilffyrdd yn uwch fyth i fyny’r agenda gwleidyddol, ac fe gymerasom gam enfawr ymlaen yr wythnos hon.