Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn addo rhoi Cymru'n Gyntaf. Ydych chi gyda ni?

The Party of Wales promises to put Wales First. Are you with us?


Ewch i'r brif wefan / Continue to main website

Cymraeg English
RSS BLOG Y LLECHEN

Problem Prydeindod Miliband

06/11/2012

gan Daniel G. Williams

Dilyn @DanielGwydion ar twitter

 

Mae Daniel G. Williams yn uwch-ddarlithydd yn yr Adran Saesneg, ac ef yw Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton, ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n olygydd ar gyfrol o ysgrifau Raymodn Williams, Who Speaks for Wales? (2003. rpt 2008) ac awdur Ethnicity and Cultural Authority: From Matthew Arnold to W. E. B. Du Bois (2006). Ei lyfr diweddaraf yw Black Skin, Blue Books: African Americans and Wales 1845 - 1945 (2012). 

Yn ystod dadleuon y 70au ar ddatganoli, nododd Raymond Williams bod y cyhuddiad o anffyddlondeb a brad yn cael ei daflu at genedlaetholwyr gan bobl a arswydai wrth ragweld datgymalu Prydain gyda’u ‘lleisiau bron yn cracio ag emosiwn didwyll neu ffug'. Mae'r cyfuniad o ddathliadau Jiwbilî a llwyddiant Olympaidd wedi arwain at hinsawdd debyg heddiw, a hynny’n cael ei atgyfnerthu wrth i’r pleidiau Prydeinig freuddwydio am ‘un genedl’ wrth gofleidio Jac yr Undeb yn eu cynadleddau.

Fe ymddengys fod Ed Miliband, yn arbennig, wedi seilio'i ymgais i adfywio ei arweinyddiaeth ar y Blaid Lafur trwy osod ei hun yn y llinach Benjamin Disraeli, drwy apelio at werthoedd y 'One Nation' honedig fel dull o frwydro’n ôl yn erbyn toriadau’r glymblaid ConDem. Gan gyfeirio at amlddiwylliannedd amlwg Prydain a ymgorfforwyd ym muddugoliaethau Olympiaid llwyddiannus fel Mo Farah a Jessica Ennis, a gan dynnu ar hanes ei deulu Iddewig a ddihangodd i Brydain dan fygythiad ffasgaeth, creodd Miliband ddelwedd o Brydain y byddai'r rhan fwyaf o bobl deche yn hapus i’w gofleidio. Gobaith Miliband mae’n debyg ydi fod Prydeindod o’r fath yn creu sefyllfa anodd i genedlaetholwyr. Os gwrthodwn ni’r ddelwedd hon o Brydain, mi fyddwn yn atgyfnerthu'r stereoteip mai cenedlaetholdeb 'cul', 'anoddefgar', 'llwythol', 'mewnblyg' sy’n sail i’n gwleidyddiaeth ni. Ar y llaw arall, petasem yn arddel Prydain Miliband, oni fyddem felly yn tanseilio’n hymdrech i ennill ymreolaeth i Gymru?

Mae i’r ddelwedd o Brydain fel rhyw ‘bair tawdd’ y gall amrywiaeth o bobl fod yn gynhwysion ynddi hanes hir. Gallwn olrhain y syniad yn ôl o leiaf cyn belled â Matthew Arnold, a bu llwyddiant seremoni agoriadol Danny Boyle yn y Gemau Olympaidd yn fodd o atgyfodi’r ddelfryd hon yn ein dyddiau ni. Roedd naratif y Brydain amlddiwylliannol yn cael ei atgyfnerthu wrth gwrs gan fuddugoliaethau dramatig tîm GB, gyda hunaniaethau ethnig, rhanbarthol, yr Albanwyr, y Cymry, y Somalis ac yn y blaen y cyd-fodoli yn hapus o dan ymbarél Prydain. Bu’r weledigaeth Jubilympaidd yma o Brydeindod yn sail i gyfweliadau ac areithiau Ed Miliband trwy gydol y flwyddyn. Mewn cyfweliad gyda Krishnan Guru Murthy ar Sianel 4, fe bwysleisiodd Miliband ei hunaniaeth Iddewig a Saesnig, gan ddadlau bod Prydeindod yn caniatáu cydfodolaeth y ddau. Ymddengys fod Prydeindod Miliband yn seiliedig ar werthoedd rhyddfrydol a goddefgar. Ond dibynna’r Prydeindod hwn ar fyd-olwg lle mai Prydain yw’r unig fframwaith ar gyfer amlddiwylliannedd sifig, tra bod y grwpiau sy’n cyfrannu at yr amlddiwylliannedd hwnnw yn seilio eu hunaniaethau ar ethnigrwydd neu hil. Cysyniad deinamig sy’n cadw i ail-ddyfeisio’i hun yw’r Prydeindod hwn, tra mai grwpiau ethnig digyfnewid, statig, yw’r Cymry , yr Albanwyr ac yn y blaen. Yn seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd cynrychiolwyd y Cymry gan gôr o blant ysgol yn canu emyn enwog Cymraeg (yn Saesneg!), tra yn y seremoni gloi fe’n cynrychiolwyd ni gan grŵp o ferched mewn gwisg 'draddodiadol'. Nid oedd unrhyw le i ddiwylliant modern Cymreig, yn y naill iaith na’r llall, yn y Brydain Jubilympaidd. Nid oedd unrhyw fandiau roc Cymraeg, na unrhyw arwydd bod gan Gymru ddiwylliannau modern, ffyniannus, yn y Gymraeg na’r Saesneg. Nid oedd unrhyw arwydd bod Cymru ei hun yn genedl amlddiwylliannol, â’r 'Cymry' eu hunain yn cynnwys pobl o dras Iddewig, Affro-Caribiaidd, Somali, Indiaidd ac ati, a bod 'Cymreictod' bellach yn medru dynodi ystod hynod eang o arferion diwylliannol.

Mae'n anodd esbonio i Sais rhyddfrydol, eangfrydig, beth sydd o'i le ar Brydeindod Miliband. Beth petasem yn trosi'r ddadl i gyd-destun gwahanol? Trafod y berthynas rhwng Serbiaid a Slofeniaid y mae Slavoj Zizek yn y dyfyniad isod, ond mae ei eiriau yn fy nharo i’n berthnasol i berthynas Cymru a Lloegr.

I am often accused in a very strange way - which I really cannot understand - of being a Slovene ant-Serb nationalist. When I converse with members of the so-called Serb democratic opposition, they say they are in favour of a cosmopolitan democratic Serbia whose defining quality is citizenship and not national belonging. OK, I accept this. But this is where the problems begin, because if you speak with them a little bit longer, you discover a certain political vision that tries to disguise cultural particularity as democratic universalism. For example, if you ask them about Slovene autonomy, they will argue that Slovenia is a small self-enclosed nation and that they, by contrast, are in favour of an anti-nationalist democratic society which is not self-enclosed. But in reality what they are practicing is a kind of two-level nationalism in which they go on to affirm that the Serbs are the only nation in Yugoslavia that is so structured that it can sustain this open principle of democratic citizenship. [...] So we have this double logic. On the one hand they criticize the Milosevic regime from a democratic standpoint - claiming that the Serbs are fundamentally democratic and that Milosevic perverted them - but, on the other, they deny this democratic potential to other ethnic groups of ex-Yugoslavia (you Slovenes want to be a state but in reality you are a primitive Alpine tribe). [...] And this is often how racism functions today - at this disguised reflexive level. So we should be careful when people emphasize their democratic credentials: do these same people allow the Other to have the same credentials?

Os troswn ni’r dadansoddiad yma, yna Iwgoslafia yw Prydain, Serbia yw Lloegr, a Slofenia yw Cymru. Mae cenedlaetholwyr Prydeinig yn defnyddio’r un 'rhesymeg ddwbl', drwy bledio potensial democrataidd ac amlddiwylliannol Prydeindod, tra’n nacau’r potensial hwnnw i’r lleiafrifoedd. Mae gweledigaeth Miliband / Boyle o Brydeindod yn gwadu aml-ddiwylliannedd y Cymry a'r Albanwyr. Tra bod llawer ar y Chwith Brydeinig yn hapus i gofleidio 'Un Genedl' Miliband gyda brwdfrydedd, fe ddylai Prydeiniwr democrataidd, o ddilyn dadansoddiad craff Zizek, dderbyn fod gan yr Alban a Chymru yr un potensial democrataidd ac amlddiwylliannol â Lloegr o fewn y gofod daearyddol yr ydym yn ei alw’n Brydain Fawr.

Os oes angen tynnu sylw at amlddiwylliannedd Cymru, mae angen caniatáu'r un hawliau i’r ‘Arall’ o fewn y gwledydd datganoledig eu hunain hefyd. Y perygl sy’n wynebu'r rheini ohonom sy'n byw mewn cymunedau ieithyddol lleiafrifol, ac sy’n gwerthfawrogi gwahaniaeth a lluosogrwydd ieithyddol, yw bod ein hiaith yn cael ei chysylltu ag un grŵp hiliol penodol. Bydd hyd yn oed rhai o garedigion yr iaith yn tueddu i synied am siaradwyr yr ieithoedd Celtaidd fel aelodau o leiafrifoedd ethnig o fewn eu gwledydd eu hunain, gyda Saesneg yn gweithredu fel iaith ddinesig y genedl ac iaith gyffredin y gymdeithas amlddiwylliannol. Yn yr un modd ag yr ystyrir Prydain, yn hierarchaeth y cenhedloedd, fel yr unig grochan amlddiwylliannol, Saesneg yw’r unig iaith ar gyfer mynegi aml-ddiwylliannaeth ym Mhrydain heddiw a hynny am fod ‘multi-culturalism’ wedi ei wreiddio yn y gred mae’r iaith Saesneg yw iaith ddinesig-ddemocrataidd yr ynysoedd hyn, a bod y rheini sy'n gorwedd y tu hwnt i ffiniau’r ‘iaith genedlaethol’ yn fawr gwell na llwythau cyntefig. Mae adeiladu amlddiwylliannedd gwirioneddol yn Ynysoedd Prydain yn galw arnom i wrthod ideolegau dinistriol ‘Prydeindod’ a ‘Seisnigrwydd’. Tra na all yr un ohonom newid ein cyndeidiau, gall unrhyw un ddysgu iaith.

Mae’n werth i ni danlinellu felly bod ein cenedlaetholdeb ni yn y Blaid yn ffordd o feithrin amlddiwylliannedd, nid ei leihau. Dyfnhau’r cysyniad o ddinasyddiaeth amlddiwylliannol yw prosiect Plaid Cymru. Mae'r 'double logic' y cyfeiria Zizek ato, lle mae 'fy nghenedl i yn flaengar a chosmopolitan' tra bod 'eich cenedl chi yn gul ac yn hiliol' wedi colli ei apêl erbyn hyn gobeithio. Mae'n hen bryd i’r blaid Lafur ddatblygu dadansoddiad mwy soffistigedig o'r cwestiwn cenedlaethol. Mae sylwebyddion Llafuraidd wedi dathlu'r ffaith fod Ed Miliband, drwy droi at un genedl Disraeli, wedi symud ei danciau ar ardd flaen David Cameron. Ond drwy wneud hynny mae e wedi gadael yr iard gefn yn agored i Blaid Cymru a'r SNP.

 


Ymddangosodd fersiwn wreiddiol Saesneg yr erthygl ar wefan Our Kingdom ac fe’i ail-gyhoeddwyd ar Click on Wales

Ymysg gwallgofrwydd byd y blogiau mae yna ambell sylw a gwrthwynebiad diddorol ymysg y sylwadau. Mae’r fersiwn Gymraeg ychydig yn wahannol. Gobeithio y bydd o ddefnydd i aelodau’r Blaid, ac yn ysgogi trafodaeth yn y Gymraeg.