Plaid Cymru

Ydych chi eisiau i Gymru gael llais cryfach?

Do you want Wales to have a stronger voice?


Mynd yn syth i'r wefan / Skip and continue to website

Cymraeg English
RSS BLOG Y LLECHEN

Mae Luke Nicholas yn sefyll yn Ne Caerdydd a Phenarth

09/11/2012

gan Luke Nicholas

Mae’n teimlo fel amser hir ers i mi gael fy newis i sefyll yn yr is-etholiad yn Ne Caerdydd a Phenarth ar Dachwedd y 15fed sydd llai nag wythnos i ffwrdd bellach.

Dim ond chwe mis yn ôl roeddwn yn sefyll, gyda fy nghyd-ymgeiswyr, yn y Ganolfan Star yn Sblot, yn gwylio’r rownd olaf o bleidleisiau yn cael eu cyfrif. Roeddem wedi bod fyny drwy’r nos ac am eiliad roedd yn edrych fel ein bod wedi recordio canlyniad hanesyddol i Grangetown yn etholiadau’r cyngor ym mis Mai.

Yn y pen draw roeddem ond cwpl o gannoedd o bleidleisiau i ffwrdd o ennill y seddi Cyngor hynny. Llwyddodd bob ymgeisydd i ennill mwy o bleidleisiau na’r Cynghorwyr a enillodd y seddi yn 2008. Roeddem yn agos iawn, ond cafodd y datganiad ei wneud; mae Plaid Cymru yn datblygu i fod yn llais cryf yng Nghaerdydd a Phenarth.

Roedd etholiadau’r cyngor yn waith caled a bu pawb yn gweithio’n ddiflino dros yr achos. Roedd nifer ohonom yn edrych ymlaen am gyfnod lle nad oeddem yn brwydro dros etholiad arall er mwyn gallu canolbwyntio unwaith eto ar yr ymgyrchu o ddydd i ddydd yn ein cymuned.

Ond nid oedd amser i oedi. Felly daethom at ein gilydd i gynllunio ac erbyn Gorffennaf cefais fy newis fel yr ymgeisydd. Ac mae’n rhaid i mi ddweud, rwy’n falch i mi gael fy newis. Gofynnwyd i mi gan eraill i sefyll a’u cefnogaeth nhw oedd y ffactor a wnaeth y penderfyniad i mi.

Mae sefyll dros Blaid Cymru yn Ne Caerdydd a Phenarth yn anrhydedd mae nifer fechan o bobl yn cael mwynhau. Mae’r etholaeth yn gwbl hanfodol i hanes modern Cymru ac yn parhau i fod yn un o ardaloedd pwysicaf a fwyaf diddorol ein gwlad. Dyma bwynt cryf a wnaeth yr hanesydd John Davies, trigolyn o Grangetown fel fi, i mi ym Mai.

Chwaraeodd Dociau Caerdydd a Phenarth rôl allweddol yn y chwyldro diwydiannol a’r Ymerodraeth Brydeinig. Diolch byth mae’r Ymerodraeth drosodd ond ar yr ochr bositif daeth a phobl newydd i Gymru sydd wedi cyfoethogi ein diwylliant. Mwslemiaid o Yemen a adeiladodd y mosg cyntaf yn y DG yng Nghaerdydd yn yr 19eg Ganrif, morwyr Somaliland (gwladwriaeth sydd dal ddim yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol) a weithiodd ar y llongau glo, Gujaratis o Iwganda a oedd yn ffoi Idi Amin a phobl o ardraws is-gyfandir India sydd nawr yn falch o alw ein hunain yn Gymraeg. Ac wrth gwrs, nifer o bobl o rannau eraill o Gymru.

Mae Caerdydd wedi croesawu newydd ddefodwyr bob tro ond mae’n parhau i fod yn arbrawf unigryw Cymreig. Nid yw’r Cymry erioed wedi byw fel hyn o’r blaen; cynifer ohonym gyda’n gilydd mewn un lle; cymdeithasu gyda’n gilydd; datgan syniadau newydd i’n gilydd. Mae ffiniau newydd i’r iaith hefyd, sydd bellach yn ffynnu mewn amgylchedd Cymreig, modern a threfol nad yw erioed wedi profi o’r blaen.

Er hyn , maen gan Gaerdydd broblemau sylweddol. Rwy’n llythrennol wedi curo ar gannoedd o ddrysau dros y misoedd diwethaf ond dim ond cwpl o ddrysau sydd angen curo cyn sylweddoli nad yw pethau’n fêl i gyd. Mae’r toriadau sy’n cael eu gwneud i nawdd cymdeithasol yn cychwyn cael effaith ddinistriol ar bobl Caerdydd a Phenarth.

Mae nifer o bobl yma yn agos at golli eu ffydd mewn gwleidyddiaeth. Yr argyfwng economaidd, ymchwiliad Leveson, yr anghyfiawnder a ddioddefwyd gan deuluoedd dioddefwyr Hillsborough, ac yr agwedd diffyg-cyswllt o lywodraethau yn San Steffan- maent i gyd wedi cyfrannu at ddiffyg ffydd a hyder pobl mewn gwleidyddiaeth.

Mae haen o gymdeithas bellach yn credu nad oes llawer o bwynt pleidleisio- nad oes llawer o wahaniaeth rhwng y pleidiau “allweddol”. Ond yr hyn rwy’n dweud wrth bobl yw bod yna bob tro pwynt pleidleisio dros Blaid Cymru oherwydd mae pob pleidlais drosom ni yn cadarnhau bod gan Gymru lais rydym am ei ddefnyddio i ddewis ein llwybr ein hunain. Ac mae’n rhaid i mi ddweud, mae nifer o bobl yn cytuno ac am fod yn pleidleisio drosom ni am y tro cyntaf ar Dachwedd y 15fed.

Mae pobl nawr yn darganfod bod Plaid Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn ailffurfio’r etholaeth, er gwaethaf peidio dal sedd yno erioed. Mae ein dylanwad mewn gwirionedd wedi cael effaith ar draws ein cenedl. Ond problem allweddol yng Nghymru yw’r ffaith nad ydym wedi cael digon o gynrychiolaeth Plaid Cymru. Efallai ein bod wedi llwyddo i ennill ein pleidlais fwyaf erioed yng Nghaerdydd, ond mae yna dal rhai ardaloedd yng Nghaerdydd sydd ddim yn gwybod digon am ein plaid eto. Fy swydd yw cychwyn troi hyn ar ei hechel, swydd sydd wedi’i chychwyn gen i yn barod.

Yr hyn sydd fwyaf unigryw am Gaerdydd yw ei allu i barhau i adnewyddu ei hun ac mae’n rhaid i ni fel Plaid wneud yr un peth. Mae Caerdydd wedi mynd o fod yn un o borthladdoedd prysuraf y byd gyda Tiger Bay- i fod yn gartref democratiaeth Cymru gyda’r Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd, hyn i gyd o fewn canrif. Dyma sy’n fy ysbrydoli wrth sefyll yn yr etholaeth, oherwydd gwn bydd De Caerdydd a Phenarth unwaith eto ar flaen y gad wrth adnewyddu Cymru a bydd Plaid Cymru yn chwarae rhan allweddol.

Yn y dyfodol gobeithiwn y bydd Caerdydd yn brif ddinas fodern, Ewropeaidd; gyda rheilffyrdd trydan, glan a fydd yn cysylltu rhanbarthau de Caerdydd, maes awyr sy’n gysylltiedig â’r ddinas i ddod a thwristiaid a phobl busnes i mewn i’n gwlad; swyddi mewn cynhyrchu ynni gwyrdd a diwydiannau cynaliadwy, sector gydweithredol sy’n datblygu; ac wrth gwrs diwylliant a fydd yn parhau i ddatblygu yn ein dwy iaith swyddogol, gyda chyfraniadau gan nifer o rhai eraill ar hyd y ffordd.

Adeiladu ein dyfodol sy’n fy ysgogi a dyna pam rwy’n sefyll dros Dde Caerdydd a Phenarth.