Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn addo rhoi Cymru'n Gyntaf. Ydych chi gyda ni?

The Party of Wales promises to put Wales First. Are you with us?


Ewch i'r brif wefan / Continue to main website

Cymraeg English
RSS BLOG Y LLECHEN

Cenedl heb Iaith, Cenedl heb Galon

31/01/2013

Gan Heledd Fychan, Cyfarwyddydd Polisi ac Addysg Wleidyddol Plaid Cymru.

Fel y cyhoeddwyd ddoe, mae nifer y cadarnleoedd lle siaredir y Gymraeg yn bennaf yn disgyn yng Nghymru. Heb os, fe ddylai hyn beri pryder aruthrol i’r rhai ohonom sydd yn poeni am ddyfodol y Gymraeg, a rhoi cic ym mhen ôl y rhai sy’n credu nad oes achos i bryderu i fynd i’r afael a’r broblem cyn i bethau waethygu. Y gwir ydi - oni fydd camau pendant yn cael eu cymryd, bydd y Gymraeg yn marw fel iaith gymunedol. Os ydym ni eisiau atal hynny rhag digwydd, mae angen gweithredu rŵan i sicrhau dyfodol yr iaith fel iaith fyw, ddeinamig.

Ond, sut i fynd o gwmpas hynny? Mae yna amryw o bobl gydag amryw o syniadau gwahanol, ac eraill sy’n credu na ddylid trafferthu gwneud unrhyw beth. Pwy felly sydd yn iawn, a beth ddylai’r camau nesaf fod? Yn wir, ddylem ni drafferthu i wneud unrhyw beth o gwbwl, pan mae yna heriau pwysig eraill yn ein hwynebu fel cenedl, megis economi wan?

Dyma gwestiynau sydd angen eu hateb, a'u hateb yn drylwyr. A dyma pam mae Plaid Cymru heddiw yn lansio ymgynghoriad am ddyfodol yr iaith Gymraeg, fydd yn para blwyddyn. Rydym eisiau mynd i’r afael a’r cwestiynau anodd ynghylch dyfodol yn iaith, a rhoddi cyfle i bawb yng Nghymru gael dweud eu dweud - o’r rhai sydd yn siarad yr iaith yn rhugl neu sydd yn ddysgwyr i’r rhai sydd yn gefnogol ond ddim yn ei siarad neu hyd yn oed y rhai hynny sy’n teimlo’n elyniaethus at yr iaith. Rŵan ydi’r amser i ni gael trafodaeth onest ac agored ynglŷn â hyn oll. Wedi’r cyfan, mae’r iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru ac mae’n bwysig bod pawb yn cyfrannu at y ddadl bwysig hon.

Sut mae’r ymgynghoriad am weithio felly? Y syniad ydi annog pobl i gyfrannu papurau trafod ynghylch gwahanol bynciau yn ymwneud a’r iaith, a’u cyhoeddi ar wefan arbennig:http://www.adfywio.plaidcymru.org/ Bydd cyfle i bobl ymateb i’r papurau hyn, unai gyda sylwadau drwy e-bost neu drwy ysgrifennu papurau eu hunain gaiff eu cyhoeddi ar y wefan. Byddwn hefyd yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru fydd yn agored i bawb fynychu, a gydag offer cyfieithu, er mwyn trafod rhai pynciau penodol. Cyhoeddir manylion y cyfarfodydd erbyn diwedd mis Chwefror. Pan ddaw’r flwyddyn i ben, bydd tasglu yn cael ei sefydlu i adolygu’r holl sylwadau a syniadau, a llunio cynllun adfywio’r iaith Gymraeg Plaid Cymru, i fynd gerbron ein cynhadledd flynyddol yn Hydref 2014. Os derbynnir y cynigion hyn, dyma fydd sail ein polisïau iaith os byddwn yn ffurfio llywodraeth yn sgil etholiadau 2016.

Credwn hefyd fod camau pendant y gellir eu cymryd rŵan i gryfhau'r Gymraeg, fel yr amlinellir yn y papur hwn a gyhoeddir heddiw. Rhaid i’r Blaid Lafur adolygu’r polisïau cyfredol, ac edrych beth sy’n gweithio, a beth sydd ddim a’u haddasu fel bod angen. Mae un peth yn glir - dydi’r ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu o fewn ysgolion ddim yn gweithio, a does dim digon o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith mewn ffordd normal, o ddydd i ddydd. Does dim digon o gefnogaeth chwaith i oedolion ddysgu Cymraeg. Mae yna bethau penodol eraill y dylid mynd i’r afael a nhw megis diwygio rheoliadau caffael y sector cyhoeddus er mwyn cael cymalau yn ymwneud a’r Gymraeg a sicrhau bod cyfeiriad penodol i’r Iaith Gymraeg yn y Bil Datblygu Cynaliadwy.

Fel dywed Leanne Wood yn ei chyflwyniad i’r papur: “Mae sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg yn rhan graidd o’n gweledigaeth am Gymru annibynnol, a chredwn fod cynlluniau i adnewyddu economi Cymru yn gallu ategu cynlluniau i adnewyddu’r iaith Gymraeg yn hytrach na gwrthdaro yn ei erbyn. Ymhellach, credwn yn gadarn gall yr iaith Gymraeg chwarae rhan bwysig yn ein gweledigaeth ar gyfer creu cymunedau cynaliadwy.” Mae hon yn ddadl bwysig o blaid cryfhau’r Gymraeg, ac yn un mae’n rhaid i ni edrych arni’n fwy manwl dros y misoedd i ddod os ydym am ei gwireddu.

Rydym eisiau annog pobl i awgrymu syniadau ac atebion ymarferol a radical fel rhan o’r ymgynghoriad. Hynny ydi, peidiwch â theimlo bod rhaid i bopeth gael ei weithredu o fewn y drefn bresennol. Rydym eisiau clywed eich barn, felly meddyliwch a chyfrannwch i’r drafodaeth.

Dwi’n lwcus. Mi gefais i’r Gymraeg fel iaith gyntaf gan fy rhieni, a chael fy magu yn Ynys Môn lle ‘roedd y Gymraeg yn iaith gymunedol, fyw. Pan o’n i’n un ar bymtheg, fe wnaethom ni symud i Gaernarfon - a does dim osgoi'r Gymraeg yno! Roedd popeth ar gael yn y Gymraeg - deintydd, meddyg, torri gwallt, bwyd, diod - popeth. Yn wir, prin ro’n i angen siarad Saesneg - ac mae’n braf bod hynny yn parhau yng Nghaernarfon heddiw. Mae’n hawdd imi fod yn Gymraes Gymraeg, a chymryd y ffaith mod i’n ddwyieithog yn ganiataol. Ond, nid dyma’r amser i orffwys ar ein rhwyfau a gobeithio’r gorau. Prinhau bydd y cyfleoedd i bobl fod yn ddwyieithog os na wnawn ni weithredu yn gadarnhaol rŵan i sicrhau dyfodol yr iaith.

Dyna pam mae’r ymgynghoriad hwn yn un gwirioneddol bwysig. Mae angen i ni roi sylw i bryderon pawb a llunio cynllun fydd yn rhoi swyddogaeth glir i’r iaith Gymraeg mewn Cymru fodern ac annibynnol. Cenedl heb iaith, cenedl heb galon. Fedrwn ni ddim caniatáu i Gymru golli iaith sy’n rhan hanfodol o’i henaid a’i hunaniaeth.