Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn addo rhoi Cymru'n Gyntaf. Ydych chi gyda ni?

The Party of Wales promises to put Wales First. Are you with us?


Ewch i'r brif wefan / Continue to main website

Cymraeg English
RSS BLOG Y LLECHEN

HS2- yr angen am ymgyrch genedlaethol

03/02/2013

Gan Rhodri Glyn Thomas AC, Gweinidog Trafnidiaeth cysgodol Plaid Cymru.

Mae llywodraeth glymblaid y DG wedi datgelu manylion y rhwydwaith rheilffyrdd cyflym HS2 yn Lloegr, sydd ag oblygiadau mawr i Gymru. Mae Hs2 yn cael ei hyrwyddo fel prif brosiect seilwaith llywodraeth y DG sydd â’r nod o ddwyn de a gogledd Lloegr ynghyd ac adfywio canolbarth a gorllewin Lloegr. Bydd dros £30bn o wariant yn cael ei ymrwymo i’r llwybr, gyda’r gwaith adeiladu yn cychwyn yn 2017 ac yn gorffen erbyn 2032.

Bydd HS2 yn rhoi’r cyswllt rheilffordd mwyaf modern rhwng Llundain a Birmingham, yna ymlaen i Fanceinion Crewe, ac i Leeds via Sheffield a chanolbwynt newydd yn Nwyrain Canolbarth Lloegr. Y syniad yw y bydd rhywbeth tebyg i’r TGV sydd yn eiddo i’r wladwriaeth yn Ffrainc o’r diwedd yn cael ei ddwyn i’r wladwriaeth hon. Mae hyn eisoes ymhell o’r blaen i’r trydaneiddio confensiynol a yrrwyd ymlaen yn bennaf gan Blaid Cymru yng Nghymru, ar waethaf gwrthwynebiad gan un llywodraeth y DG ar ôl y llall. Y caswir yw bod trydaneiddio yr ydym ni wedi llwyddo i’w sicrhau yng Nghymru yn defnyddio technoleg sydd ddegawdau oed, a bod llawer o weddill Ewrop ac yn awr y DG yn bwrw ymlaen.

Mae map HS2 Adran Drafnidiaeth y DG hefyd yn dangos cysylltiadau confensiynol yn cael eu cyflwyno i Wigan a Chaer Efrog, yn ganghennau oddi ar y lein gyflym. Mae’n ddychryn na ddangosir yr un cyswllt confensiynol o Crewe i ogledd Cymru nac o Firmingham i’r Amwythig, ar waetha’r ffaith fod y gorsafoedd hyn yn byrth strategol i mewn i Gymru.  Dyma’n union amser i gofio bod yn rhaid i ni gyflymu’r ymgyrch i drydaneiddio lein y gogledd hefyd, yn ogystal â rheilffordd y ffin a lein y Cambrian. Bydd hyn oll yn gofyn am fuddsoddiad o ddifrif gan y trethdalwr.

Mae’r dadleuon dros ac yn erbyn Hs2 yn berwi yn Lloegr, ond i ni yng Nghymru, mae pynciau cenedlaethol pwysig yn y fantol. Mae Dafydd Wigley ac eraill wedi nodi yn ddiweddar fod tanddatblygiad Cymru yn rhan o’r hollt de/gogledd, a bod mewn gwirionedd hollt dwyrain/gorllewin sydd yn cyd-fynd â hyn. Tra gall y prosiect hwn bontio’r bwlch ffyniant yn Lloegr (er bod effeithiau polisiau eraill llywodraeth y DG yn awgrymu mai lledu wnaiff y bwlch), mae’r llywodraeth  Geidwadol-Dem Rhydd yn gwythio Cymru ymhellach fyth i ffwrdd trwy ddynodi Hs2 fel prosiect gwario i’r DG yn hytrach na phrosiect Seisnig.  Mae’r dynodiad hwn, ar amrantiad, yn gwadu i Gymru £1.9bn o fuddsoddiad graddol mewn trafnidiaeth; digon o arian i drydaneiddio popeth yng Nghymru, cyflwyno strategaeth nwyddau anhraethol well i’r sector preifat, a thalu am amrywiaeth o welliannau i’r fasnachfraint Gymreig.

Byddai dynodiad Seisnig i HS2 yn rhyddhau’r arian dilynol hwnnw ac yn caniatau i Gymru gynnal ein pellter – a hwnnw’n annigonol – oddi wrth ffyniant Lloegr fel y mae pethau ar hyn o bryd. O gael dynodiad i’r DG gyfan, byddwn yn colli hyd yn oed mwy o dir. Mae hi wir mor ddifrifol a hynny, hyd yn oed a derbyn fod yr holl fanteision swyddi ac adeiladu fydd yn deillio o’r HS2 yn cael eu gor-ddweud yn enfawr. Unwaith y bydd llinell reilffordd gyflym iawn yn Lloegr, bydd y trefi ar hyd y lein honno yn fwy deniadol i fuddsoddiad na Chymru gyfan, ac eithrio o bosib am y gogledd-ddwyrain a’r de-ddwyrain.

Er nad yw hybu cysylltiadau Ewropeaidd yn boblogaidd gyda gwleidyddion Lloegr, dylid gweld  HS2 a thrafnidiaeth fodern yng nghyd-destun sefyllfa Cymru fel coridor allweddol i Iwerddon. Yr oedd y Prif Weinidog yn Iwerddon yr wythnos ddiwethaf yn hybu masnach rhwng Cymru ac Iwerddon. Dylai ei blaid uno gyda ni yn yr ymgyrch dros arian dilynol HS2, fel bod masnach ac allforion yng ngorllewin ynysoedd Prydain yn cael eu hategu gan gysylltiadau trafnidiaeth credadwy.

Mae Plaid Cymru wedi codi’r mater hwn yn senedd San Steffan sawl tro trwy Jonathan Edwards AS. Mae angen brys am fwy o ASau Plaid Cymru, i gynyddu ein dylanwad. Ond mae’n rhaid i ni hefyd ddylanwadu ar y llunwyr penderfyniadau allweddol. Mae’n bosib y bydd llywodraeth bresennol y DG, wedi arwain strategaeth llymder, a honno wedi methu, ac agenda lles galon-galed, yn cael ei throi allan yn 2015. Dyna’r flwyddyn y mae deddfwriaeth HS2 yn debyg o ddod gerbron San Steffan. Cyfle euraid i lywodraeth newydd y DG brofi fod eu system yn gweithio i Gymru.

Does dim gwarant y bydd pwy bynnag a ddaw yn lle llywodraeth bresennol y DG fymryn gwell. Ond ar y mater hwn, bydd ganddynt gyfle i brofi eu hymlyniad Cymreig. Rwy’n siwr y buasai unrhyw lywodraeth sydd am daenu mwy o fanteision economaidd y DG i Gymru yn cael pleidleisiau ASau Plaid Cymru pan ddaw’n amser i wneud y penderfyniadau hynny. Gadewch i ni uno Cymru y tu ôl i agenda gadarnhaol dros HS2, i gael ein cyfran deg ac i ddechrau dal i fyny â gweddill y DG a’r UE.