Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn addo rhoi Cymru'n Gyntaf. Ydych chi gyda ni?

The Party of Wales promises to put Wales First. Are you with us?


Ewch i'r brif wefan / Continue to main website

Cymraeg English
RSS BLOG Y LLECHEN

Celfyddydau wrth galon y genedl

07/02/2013

Gan Alun Ffred Jones, AC.

Mae’r celfyddydau yng Nghymru... yn fywiol ac yn amrywiol, gyda chyfranogwyr sy’n parchu dilyniant traddodiad ac yn rhoi min ar yr hyn sy’n flaengar. […] Mae hyd yn oed gipolwg ar y tirwedd artistig yng Nghymru yn dadlennu gwlad sy’n llawn o fywiogrwydd a lliw, gwlad sydd wedi ei phoblogi gan bobl llawn angerdd sy’n gweld gwerth i greadigrwydd.”

Dyna eiriau Jon Gower, yr awdur a’r sylwebydd treiddgar a difyr.

Yng Nghymru, mae gennym lawer i ymfalchio ynddo o ran ein cerddoriaeth, ein gwyliau diwylliannol, dawns, y celfyddydau gweledol a chrefftau o bob math, y celfyddydau perfformio a’n canolfannau perfformio, llenyddiaeth a’r cyfryngau. Pwrpas dadl Plaid Cymru ar y celfyddydau yr wythnos ddiwethaf oedd dathlu’r creadigrwydd hwn, am ei fod yn ein galluogi i’n diffinio ein hunain ac i ddweud ‘Dyma pwy ydym ni: ein storiau ni, ein caneuon ni yw’r rhain.’

Mae’r cysylltiadau hyn yn werthfawr dros ben ac yn gosod stori Cymru yn ei chyd-destun rhyngwladol. Gallwn ymfalchio yn llwyddiant perfformwyr unigol ar y llwyfan rhyngwladol, Bryn Terfel yn y Met neu Catrin Finch yn Dubai. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i unigolion a grwpiau, fel y gwelais yn ddiweddar yn Galeri, lle bu grŵp gwerin dyfeisgar iawn, 9Bach, wedi cydweithio â grŵp Aborigineaidd o Awstralia, y Black Arm Band, ac wedi cyd-blethu cerddoriaeth y naill draddodiad a’r llall mewn dull newydd a chyffrous a roes wefr i’r gynulleidfa a’r perfformwyr.

Mae’n werth cofio fod ein diwylliant hefyd yn ddiwydiant. Mae’n cyflogi rhyw 30,000 o bobl yng Nghymru, gyda chynnyrch economaidd gwerth rhyw £500 miliwn. Mae’r diwydiannau creadigol hefyd yn erfyn rhyngwladol. Pan awgrymodd Ffrainc, rai blynyddoedd yn ôl, osod cwota ar nifer y ffilmiau Americanaidd y gellid eu dangos yn Ewrop, aeth yr Americaniaid, yn naturiol ddigon, yn wallgo ulw. Nid dim ond y colledion i’r diwydiant ffilm oedd yn poeni’r Americaniaid, fodd bynnag, oherwydd mae ffilmiau Americanaidd yn erfyn diwylliannol allweddol i gynnal delwedd bositif a hyderus o America yn y byd mawr. Mae’n erfyn a ddenfyddir i gefnogi eu hallforion trwy eu cyflwyno yng nghyd-destun grymus adloniant.

Nid oes gan Gymru gyfrwng tebyg, ond y mae’n tanlinellu’r ffaith fod gan y celfyddydau ran hanfodol i chwarae yn hybu delwedd o Gymru dramor.

Ond, ac y mae hyn yn ‘ond’ pwysig, does dim rhaid i ni gyfiawnhau gwariant ar y celfyddydau trwy restru ystadegau economaidd, ac ni ddylem wneud hynnny. Mae’r celfyddydau yn werthfawr ynddynt eu hunain. Mae’n weithgaredd sydd yn datblygu hyder ac yn creu pobl ddiddorol a dychmygus – y math o bobl y mae cyflogwyr eisiau eu cyflogi. Rwyf wedi bod yn grediniol erioed fod pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd artistig, beth bynnag y bo, yn elwa ymhell y tu hwnt i’r sgil penodol maent yn ddysgu. Bu’r ffaith honno yn hysbys i ysgolion bonedd Lloegr ers canrifoedd.

Mae dweud storiau, trwy ba bynnag gyfrwng, amdanom ein hunain wrth ein gilydd, yn weithgaredd fu’n rhan o bob diwylliant ers cyn cof. Mae cerddi Dafydd ap Gwilym yn dweud llawer wrthym am Gymru’r Oesoedd canol, ond mae ei themâu o gariad a serch yn gyffredin i’r canrifoedd ac i bob cenedl. Y bygythiad mawr i ni yng nghymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg, yw ein bod bellach yn boddi yn storiau pobl eraill oherwydd grym nasnachol y cyfryngau a diwylliant Eingl –Americanaidd. Dichon fod pobl ifanc Cymru yn gwybod mwy am hanes America nac am eu hanes eu hunain, nid yn unig oherwydd diffygion y cwricwlwm, ond hefyd oherwydd ffilmiau a chyfresi teledu.

Felly, er bod gennym wahanol sefydliadau cenedlaethol o safon ryngwladol—senedd o ryw fath, llyfrgell, amgueddfa a chwmni opera—mae arnom angen artistiaid annibynnol sydd yn rhoi mynegiant i ynni,  cyffro a meddyliau ein pobl, ac y mae angen i ni roi llwyfan iddynt neu wnawn ni ddim goroesi.

Rhaid i ni ofalu bod gan ein pobl ifanc gyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd artistig lle bynnag maent yn byw. Rhaid i ni hefyd sicrhau y gall ein pobl ifanc gyrraedd y goreuon o’r celfyddydau yn ystod eu blynyddoedd ffurfiannol.

Rwy’n falch iawn o fod wedi gwasanaethu fel Gweinidog Diwylliant yn Llywodraeth Cymru’n Un a fy mod wedi gwarchod a hybu’r sector yn ystod yr amseroedd ariannol anodd wedi 2007. Bydddai llywodraeth Plaid Cymru yn ymrwymo,m unwaith eto, i gefnogi ein diwydiannau creadigol mewn ffordd ymarferol ac effeithiol. Fedrwn ni ddim fforddio peidio â gwneud, oherwydd nid mater o ddewis yw hyn.

Nid rhywbeth y medrwch ei roi mewn bocs yw’r celfyddydau; nid ydynt chwaith yn rhywbeth i droi atynt am adloniant yn unig. Maent wrth galon bywyd ein cenedl a’i dyfodol.