Plaid Cymru

Ydych chi eisiau i Gymru gael llais cryfach?

Do you want Wales to have a stronger voice?


Mynd yn syth i'r wefan / Skip and continue to website

Cymraeg English
RSS BLOG Y LLECHEN

O San Steffan : Colofn Hywel Williams AS

14/02/2013

Dydd Llun adroddodd y Prif Weinidog i’r Ty am y cytundeb  a luniwyd dros y Sul ar gyllideb yr Undeb  Ewropeaidd. Roedd o wedi trechu’r ewroffiliaid ffôl  (yn arbennig y Ffrancwyr) a oedd am wagio eu waledi unwaith eto i bocedi diwaelod yr ewrocratiaid barus. 

Roedd y papurau newydd wrth gwrs wedi clywed am gamp David yn syth bin ac wedi bod yn gorfoleddu am ddeuddydd. (Dim bwys fod ein Prif Weinidog  wedi gorfod trafod efo’n partneriaid yn hytrach nac ymbellhau oddiwrthynt, na chwaith mai gan Angela Merkel fu’r gair olaf.)

P’ryn bynnag, daeth ein cyfle ni i glywed y newyddion da o lawenydd mawr.

A llawenhau wna’r mwyafrif llethol. Yn wir, rhag colli eu cyfran o’r clod, roedd Ed Balls am y gorau efo Ed Milliband yn bloeddio ‘Hear hear!!’ wrth i’r PW ddatgelu’r manylion.

Mae arnaf ofn mai hen neidr werdd oeddwn i.

Pa effaith fyddai hyn yn ei gael ar arian Ewrop i Orllewin Cymru a’r Cymoedd holais.  A roddai’r Prif Weinidog  warant byddai San Steffan yn adfer unrhyw doriad o Frwsel.

Cefais yr hyn  a alwa Elfyn Llwyd yn ‘ateb call’; gwrthod cytuno, ond yn cymryd y cwestiwn o ddifri.

Byddai’n rhaid ystyried sut i rannu’r boen. Dim ond 2% oedd y toriad go iawn (er yr heip).

A lwcus i mi ofyn, gan na feddyliodd unrhyw AS arall o Gymru godi cwestiwn mor amlwg. 

..............................................................

Dydd Mercher roeddem i gael dadl awr a hanner ar y gwasanaeth post ‘in a separate Scotland’. Ond o sbecian ar y papur trefn y bore hwnnw yr oll a welwn oedd y geiriau moel ‘No debate’.

Beth tybed oedd i gyfri am hyn?

Mae’r ateb i’w ganfod yn y gair bach trwmlwythog o ystyr hwnnw , ‘separate’. Gair gwrthwynebwyr annibyniaeth ydy ‘separate’.

Pwy yn wir fyddai am fod yn ar wahân, wedi ei dorri i ffwrdd, ar ben ei hun. Llawer llai dybiwn i na fyddai am fod yn ‘annibynnol’.

Dyna paham gwrthododd y Comisiwn Etholiadol ddewis cwestiwn yr unoliaethwyr ar gyfer refferendwm  2014,  ‘Do you support a separate Scotland’. Roedd o’n amlwg yn rhy dueddol.

Llafur oedd wedi galw’r ddadl, ac yn gyntaf derbyniwyd geiriad y teitl gan awdurdodau’r Ty.

Ond mae’r clercod yn griw hirben. (Yn aelod newydd ceisiais roi cynnig gerbron yn llongyfarch Peter Hain  yn sbeitlyd am rhyw gamwedd anfaddeuol anghofiedig. ‘We don’t do irony sir’ oedd ymateb y clerc hir ei amynedd, heb hyd yn oed godi ei ben.)

Felly bu ail feddwl. Cynigiwyd teitlau eraill posibl i Blaid y Bobl megis ‘Future postal services in Scotland’. Ond och, doedd dim aye i’w gael.

‘Separate’ neu ddim o gwbl oedd eu cri. Felly ‘dim o gwbl’ fu hi.

Hyd y gwn , dyma’r tro cyntaf i blaid wrthod ymddangos ar gyfer eu dadl nhw eu hunain.

Mae’n debyg fod cefnogwyr annibyniaeth ar ei hol hi. Ond efo ambell i giamoc diglem arall fel hyn gan griw Prydain Farw, synnwn i ddim na welwn ni Alex Salmond yn ei chario hi.   

..................................................................

Nos Fercher wedyn trafodwyd y  fformiwla at godi budd-daliadau am y dair blynedd nesaf, sef cyfradd o 1% y flwyddyn. Cadarnhaodd y Gweinidog, y Democrat Rhyddfrydol, yr Athro Steve Webb, byddai hyn yn werth 70 ceiniog yr wythnos i rywun diwaith.

C’wilydd, bloeddiodd y dyrnaid o Lafurwyr oedd wedi trafferthu aros wedi saith, gan anghofio fod Gordon Brown pan yn Ganghellor hefyd wedi glynu at fformiwla pan gododd y pensiwn ymddeol.

Ond chwarae teg, roedd Gordon wedi rhagori ar gamp yr Athro, wedi mynegi ei haelioni cynhenid at y pensiynwyr bryd hynny, ac wedi codi eu pensiwn wythnosol o 75 o geiniogau cochion.