Plaid Cymru

Ydych chi eisiau i Gymru gael llais cryfach?

Do you want Wales to have a stronger voice?


Mynd yn syth i'r wefan / Skip and continue to website

Cymraeg English
RSS BLOG Y LLECHEN

Plismona- Rheolaeth Gymreig neu gyfaddawd Llafur?

21/02/2013

Y Gweinidog Llywodraeth Leol cysgodol, Rhodri Glyn Thomas AC, yn ysgrifennu o’r Senedd

Llaw pwy sydd ar y llyw gyda Llafur Cymru? A oes, mewn gwirionedd, y fath blaid â Llafur Cymru? Waeth faint o weithiau y maent yn mabwysiadu polisïau Plaid Cymru - rhywbeth yr wyf i’n groesawu yn fawr - does dim atebion eto i’r cwestiynau hyn. Hyd yn oed mewn Cymru gynyddol ddatganoledig, mae’n bosib o hyd i’r Prif Weinidog ddatgan polisi, ac i’r polisi hwnnw wedyn beidio â chael ei warantu ym maniffesto nesaf Llafur Cymru.

David Hanson yw’r AS Llafur dros Delyn yn Sir y Fflint, ac ef yw’r Gweinidog Plismona cysgodol. Adeg etholiad, bydd ei bosteri dwyieithog yn dweud ei fod yn sefyll dros Lafur Cymru. Os caiff ei ail-ethol a bod llywodraeth Lafur yn dod i rym yn y DG, mae’n debyg y bydd hefyd yn dod yn Weinidog Plismona dros Gymru a Lloegr, ond nid yr Alban na Gogledd Iwerddon. Bydd yn atebol i Ed Miliband fel ei arweinydd, ac yn llai amlwg i Owen Smith fel ei Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru. Ar yr un pryd, mae Carwyn Jones, arweinydd honedig “Llafur Cymru” a Phrif Weinidog Cymru, yn awr yn credu y dylai gwleidydd Llafur arall o’r gogledd-ddwyrain, Carl Sargeant, fod yn Weinidog Plismona yng Nghymru.

Tra bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno tystiolaeth eithaf addawol i Ran 2 Comisiwn Silk, ymddangosodd David Hanson ar Good Morning Wales i ddweud, yn rhyfeddol, nad oes raid i’r dystiolaeth ddod yn bolisi’r Blaid Lafur cyn Etholiad Cyffredinol nesaf y DG. Fe’i derbynnir fel rhan o adolygiad ehangach, ond “does dim modd addo cynnwys na gadael dim allan”. Mae hyn yn rhwystredig am fod arnom angen consensws cryf, trawsbleidiol ar fwy o ddatganoli ac ymreolaeth i Gymru. A lle bo’r cyhoedd yng Nghymru yn gyson wedi dangos eu bod eisiau mwy o bwerau, fel ym maes plismona a chyfiawnder troseddol, mae gennym ddyletswydd i geisio dod o hyd i dir cyffredin a dwyn pwysau o blaid yr achos.

Yn wleidyddol, does gen i ddim amheuon o gwbl fod Llywodraeth Cymru yn wir eisiau pwerau plismona. Maent eisiau cyflwyno Bil Trais yn y Cartref, ac un o’u prif uchelgeisiau fu defnyddio cyllid datganoledig i dalu am 500 PCSO. Mae ganddynt hefyd agenda diogelwch y ffyrdd. Mae diogelwch cymunedol eisoes wedi ei ddatganoli, ac y mae Llywodraeth Cymru yn cytuno gyda Phlaid Cymru y dylem fod â rheolaeth dros gyfyngiadau cyflymder. Ar waethaf y cyfyngiad ar eu huchelgais, mae gweld gweithredu mwy o bolisïau Plaid Cymru yn wastad yn beth cadarnhaol.

Rwy’n digwydd anghytuno a’u hawydd i oedi datganoli cyfiawnder troseddol fel y llysoedd, profiannaeth a charchardai. Rwy’n credu y dylid datganoli un system Gymreig integredig o gyfiawnder. Mae arnoch angen rheolaeth dros y trywydd barnwrol yn ei gyfanrwydd o blismona gweithredol, trwodd at ddedfrydu, ac yna i adsefydlu a chyfiawnder. Mae gadael profiannaeth yn nwylo llywodraeth y DG yn codi cwestiynau nas atebwyd am breifateiddio, er enghraifft. Beth fydd yn digwydd os bydd plismona yn cael ei ddatganoli, ond ein bod wedyn yn gorfod ceisio ei integreiddio ddeng mlynedd yn ddiweddarach i system brofiannaeth sydd wedi ei rhoi allan i gwmni arall? Rwy’n gobeithio’n wir y bydd tystiolaeth arall a gyflwynir i Silk yn adlewyrchu’r angen i drin cyfiawnder fel un system unffurf yng Nghymru, fel yn yr Alban. Bydd ei rhannu a dewis a dethol rhannau o gyfiawnder, mewn ymgais, mae’n debyg, i beidio â chodi braw ar ASau San Steffan, yn gyfaddawd Cymreig arall eto fyth. Dyma’r un math o gyfaddawd a roes system yr LCO yn faen melin am ein gyddfau.

Eironi hyn yw i David Hanson ddweud yn ei gyfweliad radio ddoe mai “yr hyn sy’n bwysig yw’r hyn sy’n gweithio”. Dyma’r mantra a ddefnyddiodd Tony Blair i gyfiawnhau preifateiddio. Fel darn o jargon tecnocrataidd, mae’n amhosib anghytuno ag ef. Mae’n amheus hefyd fod Hanson, yn ei gyfweliad, wedi mynnu codi bwganod nad ydynt mewn gwirionedd yn rhwystrau mawr o gwbl.

Yn benodol, cododd fater gwrthderfysgaeth. Gadewch i ni wneud un peth yn hollol glir. Mae diogelwch y wladwriaeth a gwrthderfysgaeth yn bwerau a gedwir yn ôl yn yr Alban, ac nid ydynt wedi eu datganoli. Gan Ysgrifennydd Cartref y DG, yn ôl gwefan y Swyddfa Gartref, y mae’r cylch gorchwyl gwrthderfysgaeth ar gyfer Lloegr, Cymru a’r Alban, ac y mae ganddi brosiect unswydd wedi ei anelu at ddiogelwch ar gyfer Gemau’r Gymanwlad a gynhelir yn Glasgow. Mae’r un peth yn wir am Asiantaeth Ffiniau y DG  a’r Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol. Fe allem ni ddewis sefydlu asiantaeth Gymreig i ategu SOCA, fel y gwnaeth yr Alban, neu fe allem ddewis peidio. Mae Llywodraeth yr Alban wedi dewis creu unedau arbenigol i edrych ar e-droseddu, gwyngalchu arian a throseddau cyfundrefnol yn ymwneud a chyffuriau, ond y mae gan SOCA hefyd ei swyddfa ei hun yn yr Alban. Fe allem ni wneud y trefniadau fyddai fwyaf priodol i Gymru.

Pan ymosodwyd ar Faes Awyr Glasgow gan derfysgwyr yn 2007, ymatebodd asiantaethau’r DG. Eisteddodd Prif Weinidog yr Alban a’r Alex Salmond a’r Gweinidog Cyfiawnder Kenny MacAskill ar bwyllgor argyfwng COBRA y DG. Yr oedd ymatebion y DG a’r Alban i’r digwyddiad hwnnw yn gryf a hyderus, ac fe gofiwn oll Alex Salmond yn amddiffyn yr Alban fel gwlad amlddiwylliannol a goddefgar. Ein gobaith yw na fydd digwyddiad tebyg fyth yn codi yng Nghymru. Ond mae’r paratoadau iawn yn hollol gydnaws a datganoli. Efallai y gallwn hyd yn oed wella ein hymdrechion i atal eithafiaeth a therfysgaeth trwy bolisi cymdeithasol a diogelwch cymunedol. Mae modd dod i gytundeb hefyd rhwng heddlu datganoledig Cymru a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn, fel sydd wedi digwydd eto yn yr Alban. Fel Gweinidog Plaid Cymru, buaswn i’n gwneud yn siŵr y byddai’r cydweithrediad hwn ledled y DG yn parhau yn gadarn ac yn cael ei adolygu’r barhaus. Y peth diwethaf sydd arnom ei eisiau yw defnyddio’r pynciau pwysig hyn fel esgus i geisio atal grymuso Cymru yn ddemocrataidd.

Rwy’n edrych ymlaen at weld y ddadl hon yn datblygu ac yn symud ymlaen. Ond mae’n amlwg fod llawer mwy o waith i’w wneud cyn i ni gael consensws blaengar Cymreig ar blismona. Ni ddaw hyn yn rhwydd, ond yr ydym yn bendant ar y llwybr iawn, a diolch i Blaid Cymru y mae’r mater hwn yn awr ar frig yr agenda.