Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn addo rhoi Cymru'n Gyntaf. Ydych chi gyda ni?

The Party of Wales promises to put Wales First. Are you with us?


Ewch i'r brif wefan / Continue to main website

Cymraeg English
RSS BLOG Y LLECHEN

O San Steffan : Colofn Hywel Williams AS

22/02/2013

O’r diwedd rhoddodd Carwyn Jones syniad i ni o’i ddyheuadau am ychwaneg o ddatganoli. Yr argraff gryfaf a gefais oedd, nid yn gymaint cynnwys ei ddatganiad (sy’n adlewyrchu llawer o’r farn gyhoeddus), ond yn hytrach yr oedi eithriadol mae’n ei ddymuno gweld cyn gweithredu newidiadau sydd eu hangen heddiw (neu ddoe!).

Mae’n fy atgoffa o gefnogwyr y diweddar LCOs (pwy wir all anghofio ysblander diddiwedd bron yr LCOs), ac yn fwy arbennig o Peter Hain wrth iddo drafod cynyddu pwerau deddfu’r Cynulliad. Roedd Mr Hain am roi blynyddoedd i’r Cynulliad gael ei draed odditano (‘time to bed in’ chwedl o). Yna cynhaliai refferendwm pan fyddai’n barnu fod pobl Cymru o blaid, mae’n debyg ar ôl etholiad arall. Yna, pe byddai’n pasio, deuai pwerau deddfu yn raddol i Gaerdydd rhyw dro (amhenodol) wedyn.

Yr hyn sy’n nodweddu safbwynt y ddau wron ydy, ia, eu dyheuad am fwy o rym i’n Cynulliad, ond hefyd eu pryder dwfn.

Beth tybed yw testun eu pryder? Efallai fod ganddynt ddealltwriaeth berffaith o farn pobl Cymru a’r gallu di-ffael i ddarogan tebygrwydd colli.

Ni fyddai canlyniad ysgubol y refferendwm yn awgrymu hynny.

Yn debycach i mi, maent ag amgyffred fanwl iawn o raniadau’r Blaid Lafur yng Nghymru ar y mater ac ddim am fentro os oes unrhyw ddewis arall. Rhaid gofalu i gario’r blaid fwyafrifol Gymreig er sicrhau newid fyddai eu cri mae’n siwr.

Byddwn innau’n tynnu eich sylw at yr hen wireb, mae’r etholwyr yn cosbi pleidiau rhanedig. O hynny, byddai rhai yn casglu fod y Mri Jones a Hain yn rhoi undod eu plaid ac undod llywodraeth Lafur goruwch lles Cymru. Ond o ran fy hun, tydw i ddim yn coleddu’r fath syniad sinigaidd wrth gwrs.


Un o gynigion Mr Jones ydy datganoli’r heddlu, a da oedd gweld Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru yn cymeradwyo’r syniad (gyda’i ofal arferol). Ond rwy’n deall fod y cyn weinidog Llafur dros blismona yn erbyn, ac felly hefyd pen bandits y Swyddfa Gartref.

Bu gan y cyn-lywodraeth Lafur gynnig dro yn ôl i sefydlu un gwasanaeth plismona ar gyfer Cymru (a fyddai, cofiwch, yn parhau i fod yn gyfrifol i’r Swyddfa Gartref) . Bu’r gweinidog Hazel Blears gerbron y Pwyllgor Dethol Cymreig. Ar ddiwedd y sesiwn, wrth i bawb hel eu papurau cefais hawl gan y Cadeirydd rhadlon Hywel Francis i ofyn un cwestiwn bach arall.

Tybed, gofynais, pe sefydlid un gwasanaeth, a fyddai hi’n cymeradwyo’r enw ‘Heddlu’ arnynt, hynny yw, ‘Heddlu’ yn Saesneg hefyd (fel gyda’r Garda Síochána yn Iwerddon). 

‘It means Peace Force, Minister’ ychwanegais (ar gyfer Hansard).

Hmmm…’ atebodd hithau, ‘I don’t see why not, if you really want it.’

Tydi Mrs Blears ddim yn gawres, a medrwn weld ei gweision sifil y tu cefn iddi yn ysgwyd eu pennau mewn anghrediniaeth a gwrthwynebiad pendant.

Ys dywedant yn y pantomeim (ac yn siambr y Ty Mawr), ‘Look behind you!’


Adroddais y stori hon fisoedd wedyn a minnau yn rhannu llwyfan y CBI gyda phrif gwnstabl enwog am ei hoffter o gyhoeddusrwydd. Rhai diwrnodau yn ddiweddarach gwelais bennawd yn y Daily Post, ‘Chief Constable calls for new Welsh force to be named the Heddlu’. Tydi pob gwleidydd craff ddim yn etholedig.


Daeth galwad arall heddiw (Mercher) i drethu gwerth tir. Chawson ni fawr o fanylion eto, ond rwy’n bendant yn erbyn onibai fod amddiffyniad diamod i’r fferm deuluol.

Sail y dadleuon o blaid ydy cywilydd enillion datblygwyr wrth iddynt wrthod adeiladu ar dir trefol tra fod hwnnw’n cynyddu yn ei werth.

Digon am rwan yw dweud, yn ystod y drafodaeth ar drydar, sylw un lladmerydd i’r dreth oedd ‘What is set aside then?’