Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn addo rhoi Cymru'n Gyntaf. Ydych chi gyda ni?

The Party of Wales promises to put Wales First. Are you with us?


Ewch i'r brif wefan / Continue to main website

Cymraeg English
RSS BLOG Y LLECHEN

O'r Senedd: Jocelyn Davies

22/02/2013

Gan Jocelyn Davies AC.

Petae arnom angen mwy fyth o rybuddion am economi Cymru, fe ddaeth un yr wythnos hon gyda chyhoeddi’r ffigyrau diweithdra diweddaraf. Erys diweithdra yn y wlad hon gryn dipyn yn uwch na lefel y DG gyfan, a bod 50,000 yn fwy o bobl yn ddi-waith yn awr na phan darodd y dirwasgiad ariannol.

Nid yw’n dderbyniol i’r Llywodraeth Lafur eistedd yn ôl a chwarae eu hen gêm ddiflas o feio pawb arall pan fo’n heconomi mor amlwg angen ei adfywio. Gadewch i ni fod yn glir, mae polisïau niweidiol a byrbwyll Llywodraeth San Steffan yn gwaedu’n gobeithion, ond y mae camau y gall Llafur eu cymryd. Mae Plaid Cymru yn bendant y bydd dwyn ymlaen brosiectau buddsoddi cyfalaf mawr yn rhoi’r cychwyn y mae ei angen yn fawr, yn enwedig os bydd mwy o gefnogaeth yn cael ei roi yr un pryd i’n busnesau bach, sylfaen economi Cymru.

Fel plaid, rydym wedi tynnu sylw at nifer o gamau ymarferol all hybu ein cymunedau, ac yr ydym yn ddigon hapus i’r Llywodraeth Lafur eu mabwysiadu os yw’n golygu y gallwn symud ein gwlad ymlaen. Datgelodd Leanne Wood gynlluniau cyffrous a thrawsnewidiol dros gaffael y sector cyhoeddus. Petai cyrff cyhoeddus yn dyfarnu contractau i fusnesau cynhenid, gellir sicrhau swyddi a chreu rhai newydd, yn ogystal â’r hwb ariannol amlwg fyddai’n dilyn i gymunedau ledled y wlad. Gellid creu bron i hanner can mil o swyddi petai gan y Llywodraeth yr uchelgais i ddynwared y gwledydd cyfagos.

Gwyr pawb mai ffactor allweddol yn nhynged economaidd cenedl yw seilwaith o’r radd flaenaf. Bydd Lloegr a’i rhanbarthau yn elwa’n enfawr o’r cyswllt HS2 newydd, ond cyllidebau’r DG fydd yn talu amdano. Mae ein sefyllfa ni yn glir: rhaid i Gymru dderbyn yr arian dilynol teg o’r gyllideb yn sgil y buddsoddiad mawr hwn. Yr wythnos hon, rhybuddiodd Plaid Cymru y gallai Cymru golli £2 biliwn oni fydd y Prif Weinidog yn pwyso’r achos yn y Trysorlys yn Llundain. Dychmygwch y gwelliannau y gellid eu gwneud i’n seilwaith gydag arian o’r fath.

I edrych yn y tymor hwy, rhaid i’r Blaid Lafur gael eu rhoi ar ben y ffordd ar bwerau newydd di greu swyddi ar gyfer ein cenedl. Yr oedd Comisiwn Silk, yn ei adroddiad cyntaf yn amlygu’r math o fecanweithiau newydd y gallai Llywodraeth Cymru eu hysgwyddo, ond y mae diffyg undeb a diffyg eglurder Llafur ar y pwnc hanfodol hwn yn peryglu swyddi a thwf. I mi, mae’n anhygoel nad oes gan y blaid sy’n llywodraethu ein gwlad yr ewyllys i gyflwyno eu barn eu hunain i’r Comisiwn, gan wybod mor werthfawr y gallai pwerau fel hyn fod i Gymru.

Eto yr wythnos hon, cododd diffyg undod Llafur gywilydd ar y genedl ar agwedd arall o bwerau newydd i Gymru - y tro hwn ar blismona a chyfiawnder troseddol. Er i’r Prif Weinidog o’r diwedd ddatgan o blaid datganoli plismona, roedd fel petai yn gwthio cyfiawnder troseddol o’r neilltu, ac ymhen oriau, yr oedd dillad brwnt datganoli Llafur yn cael eu golchi’n gyhoeddus, gydag aelodau’r Blaid Lafur yn amddiffyn hawl Torïaid y dde i redeg llysoedd a heddluoedd Cymru heb fandad gan bobl Cymru.

Siaradodd y Prif Weinidog yr wythnos hon am arweiniad. Y caswir yw, oherwydd ei ddiffyg brys ac arweiniad ef, mae ei blaid yn rhanedig a dryslyd, a’n cymunedau a’n heconomi yn dal i ddisgwyl am i rywbeth gael ei wneud.