Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn addo rhoi Cymru'n Gyntaf. Ydych chi gyda ni?

The Party of Wales promises to put Wales First. Are you with us?


Ewch i'r brif wefan / Continue to main website

Cymraeg English
RSS BLOG Y LLECHEN

O San Steffan : Colofn Hywel Williams AS

05/03/2013

Anaml iawn daw’r cyfle i ni alw dadl lawn yn enw Plaid Cymru. Ond haleliwia, ddydd Mercher cawsom ‘supply day’, ar y cyd efo’r SNP a’r Blaid Werdd.

Doedd y rheswm dros ein ffafrio â’r fath fraint ddim yn ddirgelwch. Dydd Iau oedd diwrnod is-etholiad Eastleigh. Ddydd Mercher byddai heidiau o ASau Tori , Llafur a Rhyddfrydol yn curo drysau. Byddai’r Ty yn hanner gwag.

Ta waeth am hynny, doedd dim angen pedroni’n hir cyn dewis ein pwnc, sef y dreth ar lofftydd. Dyma’r drefn newydd ble fydd pobl sy’n derbyn cymorth efo’r rhent ac efo un llofft ‘sbâr’ yn colli 14% o’r cymorth hwnnw, a rhai efo dwy a mwy yn colli 22%.

Dadl y llywodraeth ydy y dylai’r pobl yma symyd yn ddiymdroi i lety llai. Digon teg fyddai rhai yn siwr o’i ddweud. Ond mae dadleuon maith a manwl yn erbyn y fath bolisi, nid yn lleiaf fod cymaint o’r rhai fydd yn dioeddef yn bobl anabl neu yn ofalwyr.

Ond o gymryd y llywodraeth ar eu gair, pa asesiad tybed a wnaethant o allu pobl i adael eu cartrefi. Yn ôl  Cyngor Gwynedd,  bydd 1,378 o deuluoedd lleol yn gorfod ystyried symyd.

A oes tai iddynt oll? Holais y gweinidog, a oedd y ddarpariaeth tai rhent mewn ardaloedd gwledig Cymru yn ddigon ystwyth i ymateb i’r galw mawr newydd.

‘Data… are not available’ oedd ei ateb. Ond peidiwch a phetruso, byddant yn ymchwilo, gan gyhoeddi adroddiad cychwynnol yn 2014 ac adroddiad terfynnol yn 2015

Mae’r drefn newydd yn dechrau o fis Ebrill 2013 ymlaen.

Yn y cyfamser gall pobl symud, gofyn am arian gan eu teuluoedd, cymryd lojar neu weithio mwy o oriau. Byddwch yn cytuno felly rwy’n siwr nad oes unrhyw broblem.

Ond ychwanega’r gweinidog:

‘How individuals will respond is not yet known.’

I mi mae’n amlwg. Bydd pobl sydd wedi byw yn lleol am ddegawdau (ac sy’n asgwrn cefn i unrhyw stad dai) yn aros a ceisio talu mwy o rent, o leiaf £12.00, a hyd at £24.00 yr wythnos.

A dyma ni wir gymhelliad y llywodraeth wedi ei ddinoethi. Ar eu ffigyrau nhw eu hunain bydd y polisi yn arbed £420 miliwn, arian a ddaw o bocedi pobl gyffredin,.


Gyda llaw, mae o leiaf un cymdeithas tai yn Lloegr am ailddiffinio rhan o’u stoc tai, o fod yn dai ‘canolig’ i fod yn dai ‘llai’, gan felly ganiatau i’w tenantiaid osgoi y dreth ar lofftydd.

Da iawn nhw o ran y tenantiaid. Ond bydd yn costio £250,000 y flwyddyn iddynt mewn rhent coll. Ac o ystyried pa mor ddigllon ydy’r llywodraeth yma, mae’n siwr bydd gorchymyn y erbyn y penderfyniad reit fuan.

 


Mae newidiadau mawr eraill i fudd daliadau ar y gweill, a’r rhai i amodau’r Taliad Annibyniaeth Bersonol (Personal Independence Payment) yn ddadlennol iawn o agwedd y llywodraeth. 

Ar hyn o bryd  gall pobl na all gerdded o gwbl, a phobl sy’n ei chael hi’n anodd eithriadol neu yn beryglus i’w hiechyd i gerdded dros 50 metr ei hawlio. Yr hicyn newydd fydd 20 metr.

Bydd y rheol newydd yn torri allan nifer sydd i bob pwrpas yn gaeth i’w cartrefi, er yn medru straffaglu rhyw chydig o gamau.

Bydd rhai o’r rhain yn byw mewn ardaloedd gwledig ble nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol. Bydd eraill eisoes efo ymrwymiadau i logi neu brynu ceir. Ond tydi hyn yn cyfri dim.


Erbyn i chi ddarllen hyn bydd miri Eastleigh drosodd, y papurau newydd wedi talu teyrnged  i’r enillydd, gwawdio rhai o’r collwyr, rhyfeddu at gamp UKIP (beth bynnag fo eu canlyniad) a bellach … yn lapio crwyn tatws neu ar hoelen ambell i le chwech hen ffasiwn. Sic transit gloria mundi.