Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn addo rhoi Cymru'n Gyntaf. Ydych chi gyda ni?

The Party of Wales promises to put Wales First. Are you with us?


Ewch i'r brif wefan / Continue to main website

Cymraeg English
RSS BLOG Y LLECHEN

O San Steffan - Colofn Hywel Williams AS

08/03/2013

Ar Ebrill 1af 2009 cyflwynais fesur preifat gerbron Ty’r Cyffredin a fyddai wedi caniatau darparu tystysgrifau genedigaeth neu farwolaeth dwyieithog ar gyfer pobl o Gymru a gafodd eu geni neu a fu farw yn Lloegr.

Ni fyddaf  yn dyfynnu fy areithiau fel arfer. Ond dyma i chi flas o’r hyn a ddywedais y diwrnod hwnnw. (Bu’n rhaid i mi siarad yn Saesneg wrth gwrs).

‘Ar Ebrill 1af 1969, deugain mlynedd yn ôl i heddiw, caniatawyd cofrestru genedigaethau a marwolaethau yng Nghymru yn y Gymraeg a'r Saesneg…

Yn Lloegr caniateir cofrestru yn Saesneg yn unig...

Teithia pobl o Gymru i Loegr ar gyfer genedigaeth, naill ai gan mai dyna’r drefn yn eu broydd (ar y ffin) neu oherwydd eu bod angen triniaeth arbenigol… 

Bydd rhai yn derbyn gofal diwedd bywyd yn Lloegr …

Yn naturiol bydd rhai teuluoedd eisiau cofrestru digwyddiadau mor bwysig yn Gymraeg.

Mae’r iaith yn arwydd o’u hunaniaeth. Geni a marw ydy digwyddiadau mawr bywyd, yr alffa ac omega. Mae’n briodol, ac i mi yn hawl sylfaenol, i gael cofnodi’r rhain yn eich iaith eich hunan.

Bu’r teuluoedd, yn hapus neu yn galaru, na chafodd wneud hynny … yn disgwyl deugain mlynedd am y diwygiad yma…’

Er i mi ymgyrchu’n galed, gwrthododd y llywodraeth Lafur ganiatau amser seneddol a collwyd y mesur.

Dydd Iau byddaf yn cadeirio cyfarfod cyhoeddus efo cynrychiolwyr o’r Cyngor Iechyd lleol i drafod y gwasanaeth iechyd  a fwriedir i bobl Arfon.

Un o gynlluniau mwyaf dadleuol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ydy trosglwyddo babanod sâl iawn i ysbyty Arrowe Park  ar Benrhyn Cilgwri. Bydd rhai o’r plant yma yn marw. Ac ni chaniateir i’r rhieni yn eu galar gofrestru’r farwolaeth yn eu hiaith eu hunain.

Mater bach fydd hyn i rai. I eraill bydd yn fater o’r pwysigrwydd mwyaf. Ac i mi mae’n reswm arall, fel pe byddai angen un wir, dros wrthod cynlluniau annynol y Bwrdd.


 

Felly fe ddaliodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu gafael ar Eastleigh. Ond ni chafodd eu llwyddiant fawr o sylw, yng nghysgod ing y Toriaid wrth ddod yn drydydd ar ôl UKIP.

Mae’r UKIP wedi hen ennill pleidlais y dyn yn y dafarn yn gwenu dros ei beint (cwrw o Loegr wrth gwrs – dim fforen myc i griw Ffaraj). Ond y tro yma denwyd rhai o bob plaid at eu baner.

Tan siafins (arall) fydd hyn efallai. Ond mae camp y Democratiaid Rhyddfrydol o arwyddocâd mwy parhaol (parhaol o ran gwleidyddiaeth = hyd at yr etholiad nesaf).

Bellach ni all Cameron gymryd yn ganiataol y bydd yn eu sgubo o’r neilltu yn ne Lloegr. Ac mae mwy na sibrwd yma am sialens i’w arweinyddiaeth. 

Ni all Lafur wedyn hawlio bod ganddynt fawr o obaith o ennill yr Home Counties yn ôl.

Prin y gwelwn lywodraeth fwyafrifol ar ôl 2015.

Ac mae posibilrwydd bydd y pleidiau llai yn dal cydbwysedd grym.

‘Does ddrwg i neb nad yw’n dda i rywun’ fyddai mam yn dweud.


 

Yn 1945 ennillodd y Rhyddfrydwyr is-etholiad tra mewn llywodraeth ddiwethaf.

Yr arwr bryd hynny oedd Dewi Seaborne Davies, yn dal sedd Lloyd George pan ddyrchafwyd yr hen radical yn iarll. Sgubwyd Dewi Seaborne o’r neilltu wedyn gan Lafur yn etholiad cyffredinol 1945. Bu’n aelod am 91 niwrnod.

O leiaf  bydd conjinero Eastleigh yn aros am ddwy flynedd. Ond beth ddaw i’w ran wedyn?

A beth ddaw i ran ASau Canol Caerdydd,  Brycheiniog a Cheredigion!

Byddwch efallai wedi sylwi na bleidleisiodd y tri o blaid treth llofftydd y glymblaid, na chwaith yn ei erbyn ar ddiwedd y ddadl a alwyd gan Plaid Cymru ddydd Mercher diwethaf.

Mae Jenny Willott ar gyfnod mamolaeth. Ond beth ydy esgus y ddau Williams, Roger a Mark dros beidio dangos eu hochr? Y ci wedi bwyta eu gwaith cartref efallai.