Llywodraeth Leol
Mae'r Blaid yn wastad wedi bod yn wreiddiedig yn ein cymunedau Cymreig. Plaid wleidyddol ydym ni sydd yn gwirioneddol gredu mewn datganoli a gwneud penderfyniadau yn lleol. Gwyddom mor bwysig yw llywodraeth leol ardderchog, ac yr ydym wedi ymrwymo i ofalu bod gan ein cynghorau'r adnoddau i wneud y gwaith yn y dull gorau oll. Yn wyneb toriadau gwario cyhoeddus enfawr a osodwyd gan San Steffan, fe sefydlwyd grwp gan y Blaid i edrych ar gyflwyno llywodraeth leol yn effeithiol. Yn amlwg, rhaid i ni sicrhau mwy o gydweithredu rhwng awdurdodau ac yr ydym yn ystyried y ffyrdd gorau i sicrhau gwerth am arian y trethdalwyr.
Yn ystod ein cyfnod mewn llywodraeth, gwnaeth y Blaid y canlynol:
-
lansio Cronfa Arallgyfeirio'r Swyddfeydd Post gyda bron i £3 miliwn mewn grantiau;
-
cynyddu'r arian a roddwyd i gynghorau lleol o 3.2%;
-
cyhoeddi help gwerth £4 miliwn i 30,000 o bensiynwyr gyda threth y cyngor yn 2010-11;
-
cytuno ar strategaeth i wella gwasanaethau lleol yng Nghymru, a lansio cyfres o Uwch-Gynadleddau Gwasanaeth Cyhoeddus;
-
sefydlu Byrddau Gwasanaeth Lleol effeithiol sy'n canoli ar ddinasyddion;
-
cadw codiadau treth cyngor yng Nghymru i'r isaf ers dros ddegawd;


