Gweinidog Plaid Cymru yn cyhoeddi nofio am ddim ar y penwythnos ar gyfer plant a phobl ifainc yng Ng
09/06/2010
Heddiw, cyhoeddodd yr AC a'r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, newidiadau i’r fenter boblogaidd nofio am ddim wrth ymweld â Chanolfan Hamdden Trecelyn. Bydd ymestyn y fenter yn golygu y bydd ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, yr AC Plaid dros Arfon, Alun Ffred Jones:
“Ers i’n menter Nofio am Ddim gael ei lansio yn 2004, mae wedi bod yn hynod boblogaidd ac mae degau o filoedd o bobl ifanc wedi bod i’r pwll i wneud ymarfer corff rheolaidd yn ystod gwyliau ysgol. Felly, rwy’n falch o gyhoeddi bod y cynllun wedi’i ymestyn er mwyn bodloni’n hymrwymiad yn Cymru’n Un i alluogi pobl ifanc i elwa arno drwy gydol y flwyddyn.”
“Mae ein hymchwil yn dangos bod sesiynau strwythuredig yn boblogaidd ac yn helpu mwy o blant i ddysgu nofio,” ychwanegodd Mr Jones.
“Yn ogystal â sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i feithrin y sgil pwysig hwn, bydd darparu’r sesiynau hyn ar benwythnosau yn ei gwneud yn haws i bobl ifanc wneud yr ymarfer corff sydd angen iddynt ei wneud.
“Lansiais yr ymgyrch Newid am Oes yn ddiweddar. Mae’n gofyn i deuluoedd wneud ymarfer corff yn rheolaidd ac mae nofio yn gallu cyfrannu’n fawr at hyn. Bydd plant a phobl ifanc hefyd yn cael y cyfle i wneud gweithgareddau eraill yn eu canolfannau hamdden. Felly, rwy’ wir yn gobeithio y bydd y cynllun hwn yn eu hannog i roi cynnig ar fathau gwahanol o chwaraeon a gweithgareddau newydd y byddant yn parhau i’w gwneud pan fyddant yn oedolion.”


