RSS NEWYDDION

Diffyg a dyledion is na’r disgwyl yn trechu’r rhaglen toriadau

14/06/2010

'

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, heddiw wedi gwneud sylwadau ar adroddiad cyntaf y Swyddfa am Gyfrifoldeb Cyllidol (Office for Budget Responsibility), sydd wedi israddio disgwyliadau am ddiffyg ariannol y Deyrnas Gyfunol a’i dyledion.

Dywedodd Mr Edwards:

“’Y Llynedd, roedd diffyg ariannol y Deyrnas Gyfunol £22biliwn yn llai na’r darogan cynharaf blwyddyn yn ol.

“Ac yn awr mae’r disgwyliadau am y diffyg eleni hefyd wedi’u torri lawr o 11.1% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) i 10.5%.

“Mae’r ffigyrau newydd hyn yn dangos sut mae mesurau i helpu’r economi eisoes wedi gweithio, gyda taliadau treth uwch, a diweithdra îs na’r disgwyl.

“Yn amlwg, nid ydym mewn peryg o ballu ar ein dyledion fel mae’r llywodraeth wedi bod yn dadlau.

“Dylai llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ganolbwyntio ar economeg go iawn bywydau bob dydd pobl – cadw pobl yn y gwaith, a chreu cyfleuon newydd – nid canolbwyntio ar y farchnadoedd, trwy geisio cadw’r un pobl yn hapus a greodd y problemau hyn yn y lle cyntaf.

“Nid oes unrhyw rheswm economaidd da am y toriadau sydd newydd eu gyhoeddi gan y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol..

“Maent yn gwneud hyn oherwydd rhesymau gwleidyddol asgell dde, ac nid oherwydd economeg synhwyrol.

“Mewn gwirionedd, gall agwedd afresynol y pleidiau hyn tuag at bobl cyffredin arwain at sefyllfa sydd wedi’i tybio yn ‘drobwll tyngedfennol’ (death spiral) gan economegwyr blaenllaw fel David Blanchflower, sef sefyllfa lle mae toriadau i’r sectorgyhoeddus yn lladd unrhyw tyfiant yn y sector preifat, gan arwain i dirwasgiad ddwbl (double-dip recession).

“Yng Nghymru, rydyn ni’n ceisio tyfu ein economi sector preifat, ond ar y funud y mae’n fregus a gall toriadau cynnar i’r sector gyhoeddus ein taflu i mewn i gwymp ddwbl, a bydd hynyn gwaethygu’r problemau sydd gennym ni eisoes.”