Y Blaid yn rhybuddio ynglyn a’r arolwg amddiffyn
15/06/2010
Mae llefarydd Plaid Cymru ar faterion amddiffyn, Elfyn Llwyd AS, wedi rhybuddio Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol y byddai toriadau i’r gyllideb amddiffyn yn ‘afresymegol’ o ystyried fod y gwariant anferth ar Trident yn cael ei ddiogelu, a’r ffaith bod yr angen am raglen ciliad (withdrawal programme) o Afghanistan yn cael ei anwybyddu.
Galwodd Mr Llwyd unwaith yn rhagor am arolwg ar wariant ar y gefnogaeth i gyn-filwyr, ac yn enwedig y sawl sy’n dychwelyd gartref o ryfel.
Heddiw, fe rybuddiodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, y bydd rhaid i’r Llywodraeth ymddwyn yn ‘ddidostur a dideimlad’ er mwyn dod o hyd i doriadau i’r gyllideb amddiffyn.
Dywedodd Mr Llwyd:
“Mae Mr Fox wedi dod i’r canlyniad ei fod yn amhosib gwarantu yn erbyn pob math o bosibiliadau – pam felly fod y Llywodraeth yn mynd ymlaen gyda’r cynllun anferth o gostus i adnewyddu’r prosiect arfau niwclear, Trident, ar draul adnoddau confensiynol?
Ar adeg pryd mae’r lluoedd presennol yn cael eu gor-estyn a than-adnoddi – mae blaenoriaethau y Llywodraeth yn hollol afresymegol.
“Mae wir angen arolwg strategol amddiffyn – ond lle y mae’r arolwg mewn i wariant ar gyn-filwyr a chefnogaeth i’r milwyr sy’n dychwelyd gartref?
“Dylem fod yn gwario’r union un faint o amser yn hyfforddi ein milwyr ar ôl eu cyfnod yn ymladd, a’u helpu i ailgymhwyso i fywyd ar ‘civvy street’.
“Y gwirionedd yw, ni ddylem fod yn Afghanistan – a dylsai Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol nawr ystyried creu amserlen llawn a diogel i ddod a’n milwyr yn ôl. Fel y dywedodd Mr Fox ei hun – dylsai hyn fod yn amser i newid yr agweddau milwrol a gwleidyddol sy’n ein clymu at wleidyddiaeth a strategaeth y rhyfel oer.”


