RSS NEWYDDION

Arweinydd Plaid yn ymosod wrthod mynd i'r afael â than-gyllido Cymru

16/06/2010

Mae arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones AC wedi galw gwrthodiad y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol i weithredu i ddiwygio'r ffordd yr ariennir Cymru gan San Steffan yn “resynus”. Dywedodd Mr Jones fod pleidiau Llywodraeth San Steffan wedi gwneud datganiadau diamwys yn beirniadu’r trefniadau ariannu presennol cyn yr etholiad - ond wedi camu yn ôl ar ôl ennill p?er.

Yn ystod dadl yn y Cynulliad heddiw (16/06/10), disgwylir i Nick Bourne a Kirsty Williams croesawu rhaglen ddeddfwriaethol eu pleidiau yn Llundain er gwaetha’r ffaith ei bod yn torri'u haddewidion yn ystod yr ymgyrch etholiadol i sicrhau fformiwla ariannu decach i Gymru. Honna'r Llywodraeth Con/Dem y dylid mynd i'r afael â'r diffyg ariannol cyn mynd i’r afael â thangyllido Cymru.

Ieuan Wyn JonesDywedodd Mr Jones fod economegwyr a gwrthwynebwyr gwleidyddol gyda'i gilydd wedi lladd ar esgus y Llywodraeth newydd am wrthod gweithredu. Galwodd awdur yr adroddiad annibynnol ar ariannu Cymru gan San Steffan yn “swrrealaidd”. Ychwanegodd Arweinydd Plaid mai dim ond un o sawl ffordd y mae araith y Frenhines gan y Llywodraeth Con/Dem wedi anwybyddu anghenion Cymru oedd diffyg gweithrediad ar dangyllido Cymru. Dywedodd:

“Mae'n resynus bod y Dem Rhydd a'r Ceidwadwyr wedi methu cynnwys Mesur ar ariannu teg i Gymru yn eu rhaglen ddeddfwriaethol er gwaethaf cefnogi'r angen i’w diwygio yn siambr y Cynulliad ac yn ystod yr etholiad.

“Mae eu penderfyniad i anwybyddu'r mater sylfaenol hwn i Gymru yn dangos yn glir y diffyg dylanwad sydd gan Kirsty Williams a Nick Bourne ill dau o fewn eu pleidiau eu hunain. Mae'n dangos hefyd diffyg parch a dealltwriaeth ar ran eu harweinwyr yn y DU tuag at ewyllys y corff a etholwyd yn ddemocrataidd yng Nghymru.

“Mewn gwirionedd, mae eu ceisiadau ers datganoli i honni bod agendau gwahanredol gwleidyddol yng Nghymru yn deilchion – mae eu diffyg gweithredu wedi siarad yn uwch na'u rhethreg cyn yr etholiad.

“Mae eu hymdrechion i gyfiawnhau absenoldeb ymrwymiad i ddiwygio'r ffordd yr ariennir Cymru gydag esgusodion afresymegol yn sarhad arall.

“Does dim rheswm ar y ddaear pam y dylai Llywodraeth Con/Dem aros am ganlyniad refferendwm ar bwerau deddfu cyn newid y system ariannu. Ac yn nhermau gohirio'r broses er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg ariannol, mae'r arbenigwyr yn cytuno y byddai newid fformiwla Barnett yn arbed arian mewn gwirionedd.

“Y ffaith yw bod Gweinidog y Ceidwadwyr, Francis Maude, wedi gollwng y gath o'r cwd pan ddywedodd yn ystod cyfweliad nad yw datrys y broblem sylfaenol inni yng Nghymru'n flaenoriaeth o gwbl i'w blaid na'i lywodraeth. Dydy onestrwydd ôl-etholiadol ddim yn gysur i'r bobl a dwyllwyd gan addewidion y Ceidwadwyr a'r Dem Rhydd yn ystod yr ymgyrch. Nid dyma'r ffordd i adfer ffydd pobl mewn gwleidyddiaeth.

“Mae rhesymau eraill i ni yng Nghymru boeni'n fawr am gynlluniau'r Llywodraeth newydd ConDem yma. Bydd y toriadau enfawr y maent yn gosod ar wariant y Llywodraeth yng Nghymru - i wariant Llywodraeth Cymru a gwariant Llywodraeth y DU ill dau - yn ergyd mawr i'n sectorau cyhoeddus a phreifat. Ac mae hyn wedi digwydd wrth i Plaid mewn Llywodraeth baratoi cynllun i drawsffurfio economi Cymru.

“Gweledigaeth Plaid yw Cymru gryfach a fwy cynaliadwy sy'n darparu cyfle i bob dinesydd, teulu, busnes a chymuned i ffynnu a llwyddo. Yn y Cynulliad ac yn San Steffan, byddwn yn gwneud pob dim yn ein grym i gyflawni'r dyhead yna er gwaethaf esgeulustod athrist a galarus Cymru a ddangoswyd gan Lywodraeth y DU.”