Plaid yn cwestiynu rôl yr Ysgrifennydd Gwladol yn y cynlluniau am refferendwm ar y Bleidlais Amgen
02/07/2010
A grybwyllodd yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru Ceidwadol etholiadau Cymru pan oedd ei chydweithwyr yn y llywodraeth yn cynllunio refferendwm ar 5ed Mai? Os na, pam lai?
Dyna'r ddau gwestiwn allweddol y mae Plaid Cymru yn eu gofyn mewn ymateb i awgrymiadau bod y Glymblaid ConDem yn bwriadu cynnal refferendwm ar newid y system ar gyfer etholiadau San Steffan ar yr un diwrnod ag etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Galwodd Nerys Evans AC o Plaid y sefyllfa yn wirion, gan ychwanegu bod yn y cynllun yn profi y byddai'r glymblaid ConDem yn blaenoriaethu refferendwm ar y Bleidlais Amgen (AV) dros etholiadau Cynulliad Cymru – er gwaethaf y ffaith nad yw'r Ceidwadwyr na'r Dem Rhydd yn cefnogi mabwysiadu system y Bleidlais Amgen.
Dywedodd yr AC Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Nerys Evans:
“Ar ôl datgan, rhai wythnosau yn ôl yn unig, na ddylid cynnal refferendwm ar yr un diwrnod ag etholiad, nawr mae'r Ceidwadwyr a'r Dem Rhydd yn bwriadu cynnal refferendwm ar yr un diwrnod ag etholiad. Ac mae'r refferendwm yma am fabwysiadu system bleidleisio nad yw'r un blaid yn ei chefnogi. Dyma sefyllfa wirion i ddweud y lleiaf.
“Y tu ôl i'r ffars, mae rhai cwestiynau pwysig am a oes dylanwad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru o gwmpas bwrdd cabinet y DU? A wnaeth hi hyd yn oed godi'r ffaith y bydd etholiad yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw ai beidio? Os na, pam lai? A beth ddigwyddodd i wrthwynebiad y Ceidwadwyr i gynnal refferendwm ar yr un diwrnod ag etholiad?


