Datgelu tric etholiadol Llafur
08/07/2011
Cyhuddwyd Llafur o gamarwain cyhoedd Cymru yn fwriadol wedi i’w harweinydd yng Nghymru gyfaddef nad oedd modd gyflawni eu haddewid etholiadol, ac na fuasent yn gwneud hynny. Gwnaeth Carwyn Jones addewid personol i etholwyr Cymru y buasai Llafur yn gweithredu fel tarian i amddiffyn pobl yng Nghymru rhag holl doriadau San Steffan. Fodd bynnag, wedi cael ei herio ar yr addewid hwn gan Rhodri Glyn Thomas, yng ngoleuni toriadau i gymorth cyfreithiol, dywedodd y Prif Weinidog na allai Llafur gyflawni’r addewid.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr fod y datganiad gan Carwyn Jones na allai sefyll dros bobl Cymru pan fo toriadau yn cael eu gosod gan San Steffan, yn wrthgyferbyniad llwyr i’r addewidion a wnaed yn ystod yr etholiad.
Meddai Rhodri Glyn Thomas AC:
"Mae’n eithaf gwarthus fod Llafur wedi dweud wrth bobl adeg ymgyrchu y buasent yn darian rhag holl doriadau San Steffan, ac eto, rai wythnosau ers gwneud yr addewid hwnnw, dyma hwy yn golchi eu dwylo o’u cyfrifoldebau.
"Gwnaeth Llafur hi’n glir adeg yr etholiad y buasai pleidleisio iddyn nhw yn rhoi terfyn ar doriadau San Steffan. Nawr maent yn dweud na want ac na fyddant yn aros yn driw i’r addewid hwnnw. Bydd pobl ledled Cymru yn meddwl tybed pam y bu iddynt bleidleisio i Lafur a hwythau wedi ildio mor sydyn gydag unrhyw ymgais i’w hamddiffyn.
"Mae gen i bryderon difrifol am ddyfodol cyfiawnder lleol o ganlyniad i gau llysoedd yng Nghymru, ac eto, mae’n ymddangos mai ymateb Llafur yw dweud mai San Steffan sy’n eu cau ac nad oes dim y byddant yn wneud i sefyll yn eu herbyn. Nid yw agwedd felly yn ddigon da i lywodraeth a ddywedodd rywbeth hollol wahanol yn ystod yr etholiad.
"Bydd pleidleiswyr Cymru yn teimlo’n ddig am eu bod wedi eu camarwain gan Lafur, a does dim rhyfedd. Tric etholiadol yw hwn a chwaraeodd ar ofnau cymunedau ledled Cymru, ac ni ddylid gadael i Lafur anghofio’r peth mor gyflym."


