RSS NEWYDDION

Dros 60 o ymgeiswyr Plaid Cymru yng Ngwynedd

04/04/2012

Mae gan Blaid Cymru Gwynedd fwy o ymgeiswyr nag erioed o'r blaen yn sefyll yn Etholiadau Cyngor Gwynedd ar Fai 3. Mae cyfanswm o 62 o bobl wedi cael eu dewis i sefyll mewn wardiau ledled y sir. Mae 75 o seddi ar y Cyngor.

"Rydym yn hynod falch o allu cyhoeddi ein bod gyda’r nifer mwyaf erioed o ymgeiswyr," meddai'r Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd.

“Er gwaethaf y cyfnod anodd sy'n ein hwynebu, mae Plaid Cymru Gwynedd yn benderfynol o aros yn obeithiol, cadarnhaol ac uchelgeisiol ar gyfer dyfodol Gwynedd," meddai Dyfed Edwards.

"Byddwn yn parhau i ymddwyn yn gyfrifol wrth wynebu cyllidebau wedi crebachu, gan wneud y mwyaf o arbedion effeithlonrwydd. Byddwn yn chwilio am ffyrdd newydd, llai costus o weithio tra hefyd yn sicrhau bod y grwpiau mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn cael eu hamddiffyn.

Dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru Gwynedd, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: "Fel rhan o dîm pwerus o gynrychiolwyr sy'n cynnwys ein Haelodau Seneddol ac ein Haelodau Cynulliad gweithgar, gallwn fod yn uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol yma yng Ngwynedd. Un enghraifft ddiweddar o sut y gall cydweithio ddod â gobaith yw parth menter newydd Trawsfynydd. Ni fyddai’r cynllun hwn ar y gweill oni bai am waith caled cynrychiolwyr Plaid Cymru ar y Cyngor ac yn y Cynulliad, a fu’n gweithio gyda swyddogion a Llywodraeth Cymru ar gynllun a fydd yn creu cannoedd o swyddi yn yr ardal.

"Rydym yn awyddus i weithredu ein polisïau fel yr amlinellir yn ein maniffesto felly rydym yn mawr obeithio y bydd pobl Gwynedd yn cefnogi eu hymgeisydd Plaid Cymru lleol. Bydd ef neu hi yn perthyn i dîm o gynrychiolwyr ymroddedig Plaid Cymru ar bob lefel o lywodraeth."