RSS NEWYDDION

Lansio ymgyrch llywodraeth leol 2012

11/04/2012

“Plaid Cymru: Record cryf yn ein cymunedau, llais a gweledigaeth cryf i Gymru”

Bydd Plaid Cymru heddiw yn galw ar bleidleiswyr cyn yr etholiadau lleol, i herio’r ffordd i ddirywiad wrth bleidleisio dros yr unig blaid sydd yn gweithio i adeiladu Cymru well.

Bydd Plaid yn canolbwyntio ei ymgyrch ar ei record cryf wrth ailadeiladu’r economi, cefnogi teuluoedd a gwella gwasanaethau lleol. Gyda mwy o ymgeiswyr nag erioed o’r blaen, Plaid Cymru yw plaid leol Cymru, a bydd ei gynghorwyr yn gweithio’n ddiflino i roi llais cryf i Gymru.

Leanne a'r tim yn lawnsio'r maniffesto yn Rhydaman

Yn lansiad yr ymgyrch yn Sir Gaerfyrddin, bydd y Blaid hefyd yn dadorchuddio rhai o’i brif ymrwymiadau i bleidleiswyr ym mhob rhan o Gymru, a sut y bydd y Blaid, er gwaethaf y toriadau digynsail, yn adeiladu ar ei record a gwneud mwy dros gymunedau lleol.

Mae prif ymrwymiadau’r Blaid yn cynnwys:

• Darparu cynlluniau prentisiaeth fydd yn talu, cynlluniau hybu sgiliau a hyfforddiant – i gefnogi ein pobl ifanc.
• Helpu i fusnesau lleol ennill cytundebau cyhoeddus a darparu grantiau a benthyciadau i helpu cychwyn busnesau.
• Ymgyrchu i achub gwasanaethau lleol hanfodol sydd bellach dan fygythiad o gael eu cau neu ganoli.
• Trwsio tai gwag er mwyn iddynt gael eu defnyddio eto a buddsoddi mewn mwy o dai fforddiadwy.
• Cyflwyno cynlluniau i alluogi i gymunedau lleol elwa o berchen a rheoli adnoddau naturiol.

Maniffesto Lleol 2012 [pdf]

Yn rhoi sylw cyn lansiad yr ymgyrch, dywedodd rheolwr ymgyrch llywodraeth leol, Alun Ffred Jones AC;

“Mae gan lywodraethau lleol mwy o bŵer nag yr ydym yn gwybod i wneud gwahaniaeth yn ein bywydau. Er mwyn cryfhau Cymru yn economaidd, mae’n rhaid i gynghorau dynnu eu pwysau a defnyddio eu pwerau i newid bywydau am y gorau: i greu gwaith, ysgogi busnes, annog buddsoddi, blaenoriaethu addysg, a gofalu am yr amgylchedd. Fel cenedl, rydym yn gallu adeiladu ein hystwythder i fygythiadau yn y dyfodol gan adeiladu rhwydwaith o gynghorau Plaid Cymru er lles y bobl ac nid y pleidiau gwleidyddol – gan greu economïau lleol sydd yn rhoi pobl yn gyntaf.

“Mae’r rhain yn adegau anodd yn economaidd, ond mae’n rhaid i Gymru feddiannu pob cyfle i wella ei ddyfodol. Rhaid i ni feddwl yn wahanol am ein cymunedau ac am sut yr ydym eisiau gwneud pethau. Yn ein dinasoedd, trefi a phentrefi, nid ydym yn gallu parhau gyda’r un hen system. Anghofiwch am wleidyddiaeth, mae hyn yn fater o falchder, o hunangred, ac o fod yn falch yn ein cymunedau. Mae hyn yn fater o weld yn bellach na methiannau'r pleidiau yn Llundain a chredu mewn atebion Cymraeg i broblemau Cymraeg.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Dyfed Edwards:

“Os fu yna amser erioed pan oedd angne llywodraeth leol ar Gymru i ymladd dros ein cymunedau, dyma hi. Yng Ngwynedd, rydym yn falch ein bod wedi buddsoddi yn nyfodol ein cymunedau – mewn ardaloedd trefol a gwledig rydym wedi dangos uchelgais er gwaethaf y cyfyngau ar ein cyllidebau.

“Pan mae Plaid yn gryf, mae Cymru yn gryf ac rydym yn falch iawn yn yr etholiad hwn ein bod yn medru rhannu ein record, tîm a gweledigaeth cryf ar gyfer y pum mlynedd nesaf gydag etholwyr.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Caerffili, Allan Pritchard:

“Ni fydd Plaid Cymru yn sefyll i’r neilltu a gadael i’n cymunedau ddirywio. Yng Nghaerffili, rydym yn falch ein bod wedi rhoi prentisiaethau i fwy na 160 o bobl ifanc. Rydym yn gwybod mai darparu a diogelu swyddi yw’r flaenoriaeth i’r rhan fwyaf o bobl, yn enwedig pobl ifanc, a dyma pam ein bod wedi ymrwymo i adeiladu ar gynllun llwyddiannus Caerffili a gaddo creu cynllun tebyg ym mhob awdurdod lleol yr ydym yn rheoli neu rannu pŵer dros y pum mlynedd nesaf.”

Dywedodd Neil McEvoy, Dirprwy arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd:

“I’r pleidiau yn Llundain, mae’r etholiadau hyn ond yn fforwm arall iddynt chwarae eu pantomeim San Steffan, gan chwarae gwleidyddiaeth gyda bywydau pobl er mwyn gwneud cynyddiadau bach. I Blaid Cymru, mae’r etholiadau hyn yn gyfle i gyflwyno cynllun gweithredu i amddiffyn ein cymunedau rhag bygythiad y toriadau sydd yn rhy ddwfn ac sy'n cael eu gweithredu'n rhy gyflym.

“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio pwerau llywodraeth leol ym mhob ffordd posib i helpu teuluoedd yn yr adeg anodd hwn. Pleidleisiwch dros eich pencampwyr lleol; pleidleisiwch dros Blaid Cymru – yr unig blaid sydd gyda’r uchelgais i weld y tu hwnt i gyfundrefn a mewnblygrwydd gwleidyddiaeth heddiw.”