RSS NEWYDDION

Plaid yn galw am weithredu gan y llywodraeth i gefnogi menywod sydd wedi eu taro’n galed gan y dirwasgiad

14/05/2012

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gynnull Uwch-Gynhadledd Economaidd i Fenywod er mwyn datblygu mentrau i atal menywod rhag cael eu taro yn anghymesur gan doriadau llywodraeth y DG. Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb, Lindsay Whittle AC, fod menywod yn cael eu taro yn arbennig o galed yng Nghymru gan y toriadau i’r sector cyhoeddus, a heb ymdrechion wedi eu targedau i’w helpu, fe fyddant yn ei chael yn anos fyth cael gwaith a rhoi to uwchben eu teuluoedd.

Mae diweithdra ymysg menywod wedi codi o fwy na 11,000 yng Nghymru ers i Lafur ddod i rym ym 2011, mwy na dwbl y raddfa i’r DG gyfan. Yn ystod yr un cyfnod, gostyngodd diweithdra ymysg dynion o 1.5%, tra bod lefel y DG wedi aros fwy neu lai yr un fath.

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar gyfle cyfartal, Lindsay Whittle AC:

"Yng Nghymru, mae menywod yn llawer mwy agored i doriadau llywodraeth DG na dynion. Y rheswm am hyn yw bod cyfran uwch o fenywod yn gweithio yn y sector cyhoeddus. Mae hyn, ynghyd â thoriadau i gredydau y mae menywod yn fwy dibynnol arnynt megis cynnal plant, cymorth cyfreithiol a budd-dâl plant, yn golygu y gall yr effaith gronnus ar fenywod fod yn drychinebus. Mae Plaid Cymru eisiau gweld gweithredu ar frys i liniaru’r effeithiau hyn.

"Pan darodd y dirwasgiad yn 2009, cynullodd llywodraeth Cymru’n Un gyda grym Plaid Cymru y tu ôl iddi uwch-Gynadledd economaidd i ddwyn ynghyd randdeiliaid allweddol, ac esgor ar fesurau effeithiol i gadw miloedd o swyddi a chadw’r economi i fynd. Dylai’r Llywodraeth Lafur bresennol ddefnyddio’r model hwn a chynnull uwch-gynhadledd wedi’i hanelu at fynd i’r afael â diweithdra ymysg menywod er mwyn gweld beth ellir ei wneud i helpu menywod sy’n chwilio am waith, a chyflogwyr.

"Dyw hi ddim yn deg fod menywod yn dwyn pen trymaf baich yr argyfwng economaidd, a heb gefnogaeth wedi ei dargedu gan Lywodraeth Lafur Cymru, fe fydd menywod yn dod yn fwy dibynnol o lawer ar y wladwriaeth. Mae cydraddoldeb menywod yn y man gwaith wedi teithio ymhell, ond mae’r ffigyrau hyn yn awgrymu bod y cynnydd yn cael ei wrthdroi gan doriadau’r DG.

"Rhag cywilydd i Lafur os mai gwaddol eu cyfnod mewn llywodraeth fydd diweithdra ymysg menywod . Dylnt wrando ar rybuddion Plaid Cymru a gweithredu yn awr."