Arweinydd Plaid yn annerch y PCS: Nid yw cynlluniau'r Llywodraeth yn gweithio
16/05/2012
Heddiw, rhybuddiodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd AS, fod Llywodraeth y DU yn gwneud camgymeriad mawr yn gwthio polisiau pensiynau ac economaidd gwrth-gynhyrchiol.
Wrth annerch rali aelodau’r PCS (Public and Commercial Services Union) yn y Senedd, dywedodd Mr Llwyd, sy’n cadeirio Grwp Seneddol y PCS, nad yw toriadau swyddi’r sector gyhoeddus, newidiadau pensiwn na thal rhanbarthol yn deg i weithwyr y sector gyhoeddus, ac nid yn deg i’r cyhoedd chwaith.
Dywedodd Mr Llwyd:
“Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb y Gyllideb yn amcangyfrif y bydd Llywodraeth y DU yn torri oddeutu 700,000 o swyddi sector gyhoeddus rhwng 2011 a 2017 – dyna ffigwr anferth o bobl dalentog gyda chymwysterau yn cael eu gwneud yn ddi-waith, heb swydd i symud iddi.
“Maent hefyd yn cynllunio ar gyfer tal rhanbarthol drwy’r byrddau adolygu cyflogau.
“Cafodd tal rhanbarthol ei gyflwyno yn gyntaf gan Lafur yng Ngwasanaethau’r Llysoedd yn 2007. Roedd yn bolisi gwael bryd hynny ac mae’n bolisi gwael rwan.
“Mae’r Llywodraeth Glymblaid hefyd yn parhau gyda’r cynlluniau pensiwn fydd yn gwneud i weithwyr weithio’n hirach, talu mwy a derbyn llai pan fyddant yn ymddeol.
Ar yr un pryd maent yn parhau i breifateiddio cynlluniau ar gyfer helpu pobl i ganfod gwaith, ac ar gyfer y gwasanaethau heddlu a bechniaeh,
“Nid yw’r newidiadau hyn yn deg i weithwyr y sector gyhoeddus ac, yn y bon, nid ydynt yn deg i’r cyhoedd chwaith. Byddwn ar ein colled o ganlyniad i’r cynlluniau hyn.”


