Plaid Cymru yn mynnu tro pedol ar dreth £24m Llafur ar y tlodion
22/05/2012
Rhaid i Llafur weithredu i amddiffyn pobl fregus rhag ergyd treth cyngor
Mae treth Llafur o £24m ar y tlodion wedi dod dan y lach gan Blaid Cymru – sydd wedi galw am dro pedol ar unwaith gan Lywodraeth Cymru.
Beirniadodd Plaid Cymru fwriad gwarthus Llywodraeth Cymru i basio diffyg mewn cyllid ymlaen i hawlwyr budd-daliadau pan gaiff ei ddatganoli. Mae budd-dal treth cyngor yn cael ei ddatganoli i awdurdodau lleol Cymru, yr Alban a Lloegr wedi toriad o 10%. Tra bod Llywodraeth yr SNP yn yr Alban wedi ymrwymo i wneud iawn am y diffyg o 10%, gwrthododd Llywodraeth Lafur Cymru yn bendant â gwneud yr un peth.
Bydd baich ychwanegol y dreth felly yn disgyn ar y tlotaf mewn cymdeithas sydd yn wynebu torri eu budd-daliadau. Cyn hyn, galwodd Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i ofalu na fydd baich y newidiadau hyn yn disgyn ar y bobl dlotaf yng Nghymru.
Mae llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, Rhodri Glyn Thomas AC,wedi cyhuddo Gweinidogion Llafur o wneud tro gwael â phobl fregus trwy wrthod llenwi’r twll yn y gyllideb budd-dal treth cyngor – diffyg a amcangyfrifir fel £24m. Dywedodd y buasai unrhyw beth llai na thro pedol gan y Gweinidog yn arwydd o ddiffyg parch gwarthus i’r tlotaf mewn cymdeithas.
Meddai llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, Rhodri Glyn Thomas AC:
“Gadewch i ni fod yn hollol glir am hyn; mae bygwth y tlotaf mewn cymdeithas â bil o £24m yn bolisi echrydus o greulon. All Llywodraeth Cymru ddim pasio bil y ComDemiaid ymlaen i rai o’r teuluoedd a’r pensiynwyr mwyaf bregus yng Nghymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud tro pedol a dod o hyd i’r arian am y flwyddyn i ddod er mwyn amddiffyn pobl rhag y toriadau anghyfrifol hyn. Mae Gweinidogion Llafur yng Nghymru yn honni eu bod yn gresynu at fwriad llywodraeth y DG i drethu’r tlotaf, ac yn honni eu bod am amddiffyn Cymru rhag y toriadau. Ond unwaith eto, wnan nhw ddim rhoi gweithredoedd yn gefn i’w geiriau.
“Mae Plaid Cymru eisiau i Lywodraeth Cymru gyllido’r diffyg hwn am y flwyddyn nesaf o leiaf hyd nes y cynhelir adolygiad llawn o’r system fudd-dal treth cyngor. Heb newid sylweddol mewn polisi, bydd cynghorau yn wynebu dewis amhosib – torri gwasanaethau neu orfodi’r aelwydydd tlotaf i dalu mwy o dreth cyngor.
“Dyma’r cyfnod hollbwysig o ran budd-daliadau treth cyngor. Mae Llywodraeth Cymru yn honni eu bod eisiau amddiffyn pobl Cymru rhag y toriadau – wel, nawr yw’r amser i gamu ymlaen a dangos i ni sut y bwriadant wneud hynny. Gall Llafur naill ai eistedd yn ôl a gweithredu toriadau’r Toriaid, neu wrando ar Blaid Cymru a rhoi terfyn ar y polisi creulon hwn.”



