Plaid Cymru yn galw ar Ewrop i gyflwyno Treth Twm Sion Cati
23/05/2012
Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi galw ar y Ceidwadwyr a Llafur i roi cefnogaeth llwyr i’r syniad o gyflwyno Treth Twm Sion Cati ar drafodion ariannol, cyn dadl yn Senedd Ewrop ar y mater heddiw (dydd Mercher) a chyfarfod brys Uwchgynhadledd y Cyngor Ewropeaidd heno.
Dywedodd Mr Edwards, a drafododd y mater yn ei araith gyntaf yn y Senedd, fod Plaid Cymru wedi cefnogi’r cysyniad o dreth ers 2001 gan ddweud y dylai’r arian a godir gan Dreth Twm Sion Cati ei ddefnyddio i weithio tuag at fuddiannau cymdeithasol cyffredin, datblygu swyddi a thaclo tlodi.
Dywedodd Mr Edwards:
“Mae’r syniad o Dreth Twm Sion Cati ar drafodion ariannol bellach yn un cwbl amseron.
“Mae Llywodraeth y Con-Dems wedi torri trethi y cyfoethog a chorfforaethau mawr, ond rhaid iddynt nawr dderbyn effeithiau anochel a chadarnhaol trethu trafodion ariannol.
“Mae’r hun yn wir am Lafur, sy’n hoff o siarad yn gryf yn erbyn y bancwyr ond sydd dro ar ol tro yn methu cefnogi mesurau cadarn a fyddai’n newid eu hymddygiad a helpu achosion da ar yr un pryd.
“Gweithredoedd anghyfrifol rhai aelodau’r sector ariannol a achosodd yr argyfyngau ariannol sydd wedi cael gwir effaith ar y byd – creu dirwasgiad, diweithdra ac economi di-dwf.
“Yn anffodus, mae tȋm tag y Toriaid a Llafur yn parhau i amddiffyn yr 1% sef elit economaidd Dinas Llundain yn hytrach na’r 99% o bobl gyffredin Cymru a thu hwnt.
“Rhaid i’r diwydiant ariannol felly wneud cyfraniad teg i wella’r economi a’r byd ehangach, gan wella bywydau pobl a herio effeithiau newid hinsawdd.
“Dylai unrhyw arian a godir fel hyn ei wario gyda’r bwriad o greu daioni cymdeithasol cyffredin – buddsoddi mewn prosiectau is-adeiledd hir-dymor a fydd o fudd i’r amgylchedd ac yn helpu i daclo tlodi.
“Gall treth trafodion ariannol, Treth Twm Sion Cati, felly sicrhau fod trafodion arian sydd yn aml yn ddi-angen ac anghynhyrchiol yn dod fuddsoddiad cymdeithasol cynhyrchiol yn ein dyfodol.”


