RSS NEWYDDION

Adroddiad diddim yn ‘hollol amherthnasol’ fel asesiad o gynnydd

30/05/2012

Plaid Cymru yn wfftio adroddiad tila a gochelgar

Galwyd Rhaglen Lywodraethu hir-ddisgwyliedig Llywodraeth Cymru yn siomiant heb ddigon o fanylion perthnasol gan Blaid Cymru, sydd wedi nodi nad oes yno unrhyw wir fanylion. Nid oes yn y ddogfen 666-tudalen na mynegai, penawdau penodau nac unrhyw ddata cymharol, ac nid yw’n rhoi unrhyw wybodaeth ystyrlon am gynnydd y llywodraeth.

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r llywodraeth dro ar ôl tro am ddiffyg manylion ei rhaglen lywodraethu, a galwodd ar i’r llywodraeth osod targedau ystyrlon y gellir mesur cyflawni yn eu herbyn. Fodd bynnag, mae’r adroddiad a gyhoeddwyd gan y llywodraeth heddiw yn anghyson yn ei gymariaethau ac nid yw’n crybwyll rhai ffeithiau a ffigyrau allweddol fyddai’n dogfennu cynnydd y llywodraeth.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones:

“Mae llawer o’r wybodaeth yn yr adroddiad cyfoesi cyntaf hwn ar gynnydd yn hollol amherthnasol. Mae ystadegau yn aml yn cyfeirio at y sefyllfa oedd yn bod hyd yn oed cyn ffurfio’r llywodraeth hon yn dilyn Etholiad Cyffredinol Cymru yn 2011. Gan mai ychydig iawn o dargedau a osodwyd, mae bron yn amhosib mesur cynnydd. Ar y cyfan, nid yw hyn yn galluogi pobl Cymru i fesur cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn fel yr addawodd y Prif Weinidog.

“Wrth geisio esbonio llwyddiant yr Alban parthed incwm y pen, mae’r llywodraeth yn crybwyll annhegwch fformiwla Barnett o ran cyllido Cymru. Ond serch hynny, nid yw’n esbonio pam y methodd y blaid Lafur yng Nghaerdydd a Llundain newid y fformiwla. Mae’r adroddiad gochelgar hwn ymhell o’r portread ‘gyda’r holl ffaeleddau’ o gynnydd a addawyd gan y llywodraeth.

“Boed y llywodraeth yn agored am gynnydd neu beidio, ni fydd yn gwneud iawn am y gwendidau difrifol yn rhaglen lywodraethu Llafur. Nid yw’n mynd i’r afael a’r materion o bwys sy’n wynebu ein cenedl. Yn yr economi, mewn iechyd ac addysg yn benodol, mae Llafur fel petaent yn analluog i ddwyn ymlaen gynlluniau i roi swyddi a gwella gwasanaethau sydd yn ateb anghenion pobl Cymru.

“Yn hytrach na sefyll cornel Cymru, cilio i’r gornel wnaethon nhw ac aros am ddirwasgiad arall.”