Plaid yn beirniadu arswyd Syria
30/05/2012
Rhaid i Rwsia a China ymuno a'r gymuned rhyngwladol i geisio ateb heddychlon
Gyda chyn-Ysgrifennydd Cyffredinnol y Cenhedloedd Unedig Kofi Annan yn dweud bod Syria nawr ar "tipping point" yn dilyn ei ymweliad â'r wlad ddoe, mae Plaid Cymru wedi cryfhau’r ei galwadau i bawb yn y gymuned ryngwladol i helpu i roi terfyn ar y trais a arweiniodd at y gyflafan o dros gant o sifiliaid yn Houla ddydd Gwener diwethaf.
Fis Chwefror, cefnogodd y Senedd Ewropeaidd benderfyniad yn galw ar Rwsia i roi stop ar werthu arfau i Syria a chaniatau i Gyngor Diogelwch y CU arwain y blaen er mwyn datrys yr argyfwng. Yn yr wythnos diwethaf, mae Pennaeth Materion Tramor yr UE, Barwnes Ashton, wedi condemnio'r "gyflafan greulon" yn Houla gan alw ar lywodraeth Syria i weithredu cynllun heddwch y CU.
Wrth siarad heddiw, dywedodd Jill Evans ASE a Llywydd y blaid:
"Ers Mawrth 2011 mae pobl Syria wedi eu dal dan warchae, wedi eu bombarbio gan luoedd y llywodraeth, wedi eu hamddifadu o fwyd a meddyginiaeth ac nawr yn wynebu sefyllfa ddyngarol sy'n dirywio oherwydd trais y llywodraeth. Mae pethau'n gwaethygu pob dydd.
"Roeddem wedi ein harswydo gan y gyflafan o dros gant o ddinasyddion ddydd Gwener, gydag oddeutu hanner cant o blant yn eu plith.
"Ni ellir caniatau i'r lefel yma o drais a lladd diwahaniaeth barhau. Rhaid cael penderfyniad gan y CU a rhaid i'r gymuned rhyngwladol uno i gefnogi cynllun heddwch y CU. Mae Rwsia a China yn allweddol yn hyn, a rhaid iddynt beidio atal cadoediad. Rhaid i ni gefnogi ymdrechion y Gynghrair Arabaidd a phawb sy'n gweithio i roi terfyn ar y troseddau yn erbyn hawliau dynol a rhyddid sylfaenol pobl Syria.
"Nid yw peidio cosbi'r rhai sy'n gyfrifol yn opsiwn, a bydd y rhai sy'n gyfrifol am y gweithredoedd - sydd o bosib yn droseddau yn erbyn dynoliaeth - yn cael eu rhoi ar brawf gan y gymuned rhyngwladol."
Ychwanegodd Elfyn Llwyd AS, arweinydd Seneddol Plaid Cymru:
"Rydym yn condemnio'r trais erchyll hwn sy'n targedu dinasyddion diniwed, ac yn galw ar bob plaid i weithredu cynllun heddwch y Cenhedloedd Unedig. Rhaid i'r rheiny sy'n gyfrifol am y llofruddiaethau fod yn atebol dros eu gweithredoedd.
"Mae gan y Gynghrair Arabaidd nawr rol allweddol yn perswadio cyfundrefn Syria i gytuno i'r Cynllun Annan. Fwy nag erioed o'r blaen, rhaid iddynt uno gwledydd eraill yn y rhanbarth ac anfon neges glir i Assad fod pawb wedi colli amynedd gyda'i gyfundrefn ormesol."
Picture from © World Economic Forum (www.weforum.org/Photo Matthew Jordaanmatthew.jordaan@inl.co.za



