Plaid Cymru yn galw eto am gynllun rhyddhadtrethi busnes
05/06/2012

Yn nes ymlaen yr wythnos hon, bydd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones ynymweld â busnesau yn ei etholaeth i adnewyddu galwad ei blaid am gynllun gwarchod swyddi busnesau bach. Bydd AC Plaid Cymru dros Arfon yn dweud wrthynt,yng ngoleuni’r argyfwng economaidd sydd yn dyfnhau, y dylai llywodraeth Cymruystyried gweithredu i gynnal busnesau bach a chanolig.
Fe ddywed AlunFfred Jones AC y dylai Llywodraeth Lafur Cymru fabwysiadu cynllun rhyddhad trethi busnes Plaid Cymru oherwydd y rôl bwysig sydd gan BBCh yn economi Cymru. Buasai polisi Plaid Cymru o dorri trethi busnes i fwy o gwmnïau yn rhoi i bob busnes bach yr hwb y mae cymaint o’i angen arnynt yn ystod y cyfnod economaidd anodd, a byddai’n help i gael adferiad economaidd yn gynt.
Meddai llefarydd Plaid Cymru ar yreconomi, Alun Ffred Jones AC:
“Rydym oll yn ymwybodol fod yr argyfwng economaidd hwn wedi dyfnhau: maeswyddi yn cael eu colli, a chyflogau’n cael eu gwasgu wrth i bobl gaeltrafferth i dalu eu biliau cynyddol. Busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru, ac o’r herwydd, mae’n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i’w hamddiffyn yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn.
“Mae cannoedd ar filoedd o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi gan fusnesau bach. Mae perchenogion busnesau bach yngweithio’n galed i gadw eu staff ar waethaf yr amodau economaidd hynod anodd maent yn wynebu. Dyletswydd Llywodraeth Lafur Cymru yw eu cefnogi yn hyn obeth.
“Mae Plaid Cymru wedi galw dro ar ôl tro am weithredu gan y llywodraeth Lafur. Mae ymestyn y cynllun rhyddhad trethi busnes yn rhywbeth y mae gan Lywodraeth Cymru y grym i’w wneud, ac eto mae’n dewis gwneud dim. Bydd Plaid Cymru yn parhau i bwyso ar y llywodraeth i weithredu - allwn ni ddim caniatáu i Lafur barhau i siomi busnesau Cymru trwy eistedd yn ôl a gwneud dim.”


