RSS NEWYDDION

Llafur yn ildio’r frwydr i gadw gwasanaethau brys yn Llanelli

25/06/2012

Plaid Cymru yn beirniadu Llafur am eu cynllun sinigaidd

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r Llywodraeth Lafur am danseilio gwasanaethau yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli, i baratoi’r ffordd ar gyfer israddio’r ysbyty.

Yn y gorffennol, mae Plaid Cymru wedi mynegi pryderon fod y Llywodraeth Lafur yn bwriadu gwanhau gwasanaethau yn llechwraidd, er mwyn cyfiawnhau canoli gwasanaethau. Mae AC Plaid Cymru Simon Thomas wedi awgrymu fod datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd gan AC Llafur Llanelli, Keith Davies, yn amlygu dirywiad yn y gwasanaethau brys yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli, yn dangos fod y cynllun hwn eisoes ar y gweill gan Lafur.

Erys Plaid Cymru yn gwbl wrthwynebus i israddio gwasanaethau yn y GIG yng Nghymru, ac y maent yn wastad wedi pledio achos lleoli gwasanaethau a all achub bywydau o fewn pellter diogel i’r claf.

Meddai AC Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas:

“Yr hyn sy’n bryderus iawn am sylwadau Mr Davies yw eu bod yn dangos strategaeth ehangach y llywodraeth Lafur i danseilio gwasanaethau yn Llanelli er mwyn cyfiawnhau israddio gwasanaethau. Y mae’r ffigyrau y cyfeiria ef atynt yn dangos fod yr adran frys yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn tanberfformio, ond y rheswm am hyn yw bod y llywodraeth Llafur wedi tynnu adnoddau ymaith oddi wrth yr ysbyty heb ymgynghori. Does dim rhyfedd, felly, fod pobl Llanelli yn bryderus am gynlluniau’r llywodraeth Lafur i’w hysbyty.

“Mae’n drueni nad yw Keith Davies yn pleidleisio yn y Cynulliad gyda Phlaid Cymru i amddiffyn Ysbyty’r Tywysog Philip, ond ei fod yn dewis yn hytrach gwneud datganiadau sydd yn mynd yn hollol groes i’r hyn mae’n wneud ym Mae Caerdydd. Os yw o ddifrif yn pryderu am y ffaith fod Llywodraeth Cymru yn caniatáu gwanhau gwasanaethau yn Ysbyty’r Tywysog Philip, yna dylai Mr Davies fod gyda ni yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cynnal gwasanaethau brys llawn yn yr ysbyty, ac na ddylid caniatáu’r ail-frandio hyn fel ‘mân uned frys’ fel mae Llafur yn ceisio gwneud.

“Yn hytrach, mae’n edrych fel petai Keith Davies wedi rhoi’r gorau i’r frwydr am Ysbyty’r Tywysog Philip: wnaiff Plaid Cymru ddim.”