Plaid Cymru yn galw eto am ‘flwyddyn’ ar ddiffyg y dreth cyngor
03/07/2012

Mae Plaid Cymru wedi galw eto ar i Lywodraeth Cymru amddiffyn y rhai hynny sy’n derbyn budd-daliadau rhag toriadau’r ConDem pan fo budd-dal y dreth gyngor i’w ddatganoli yn ddiweddarach y flwyddyn hon. Wedi i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) feirniadu Llywodraeth y DU am frysio i ddatganoli’r budd-dal, mae Plaid Cymru wedi datgan eto sut y byddai cyllido’r diffyg am flwyddyn yn prynu amser i Lywodraeth Cymru edrych ar ddatrysiadau tymor hir i amddiffyn Cymru rhag y toriadau ConDem.
Bydd Llywodraeth y DU yn datganoli budd-dal y dreth gyngor i Gymru yn Ebrill 2013 yn dilyn toriad o 10%. Mae Llywodraeth Cymru wedi diystyru unrhyw siawns y byddent hwy yn ariannu’r diffyg neu o edrych ar opsiynau i leihau’r diffyg. Bydd y diffyg felly, y tybir iddo fod yn £24.3 miliwn, yn cael ei basio ymlaen i’r rhai hynny sy’n derbyn budd-dal.
Dywed llefarydd Llywodraeth Leol Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas:
“Mae’r rhybudd gan CLlLC yn arwydd o ba mor gyflym y mae’r budd-daliadau hyn cael eu gwthio ar Gymru. Hefyd, dychrynllyd iawn yw darllen y sylwadau gan Lywodraeth Cymru bod Llywodraeth y DU wedi methu â darparu manylion ynghylch yr union gyllido tan y funud olaf. Byddai cwrdd â’r diffyg am flwyddyn yn prynu amser i Lywodraeth Cymru edrych ar ddatrysiadau tymor hir, gan sicrhau nad yw aelodau tlotaf ein cymdeithas yn gorfod talu am y toriadau ConDem.
“Er gwaethaf y ffaith ein bod yn anghytuno gyda’r modd y mae Llywodraeth y DU yn mynd i’r afael â’r toriadau hyn, rydym o’r farn bod Llafur yn anghywir i ddatgan y byddent hwy yn pasio’r toriadau ymlaen yn gyfan gwbl i lywodraeth leol. Roedd hynny’n benderfyniad trychinebus ar ran y Gweinidog. Fe alwon ni ar i’r Gweinidog ymrwymo i ddileu’r toriadau, ar gost o oddeutu £24m, am gyfnod o flwyddyn ac fe ddangosom ni o ble y dylai’r arian ddod yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Byddai hyn yn prynu amser hanfodol i bawb gynllunio sut i fynd i’r afael â’r toriadau Torïaidd hyn, a byddai wedi danfon y neges bod Llafur yn ceisio amddiffyn Cymru rhag y toriadau.
“Byddai cyllido’r diffyg am flwyddyn yn amhrisiadwy o ran prynu’r amser ychwanegol hynny ac atal beth allai fod yn drychineb ariannol i gynghorau lleol.”


